
Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Plant
.png)
.png)

Gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, grant Gwobrau i Bawb, rydym wedi sefydlu prosiect newid hinsawdd i blant, prosiect #Letsgrowtogether. Bydd plant 6-10 oed yn gallu mynychu 17 o weithdai garddio am ddim a gynlluniwyd i hyrwyddo gwerthoedd byw'n gynaliadwy drwy dyfu llysiau a'r rôl hanfodol y mae pryfed peillio yn ei chwarae wrth gynhyrchu ein bwyd. Bydd y gweithdai garddio yn cael eu cynnal yn fisol yn ystod y tymor ac yn wythnosol yn ystod gwyliau'r ysgol o fis Ebrill tan fis Ionawr 2022.
​
.png)
.png)

Gydag arian ychwanegol gan Gronfa D.S. Smith rydym wedi gallu ymestyn y prosiect hwn i blant 3-5 oed bob mis yn ystod y tymor o fis Mehefin 2021. Bydd y prosiectau rhyngddynt yn darparu gweithgareddau awyr agored adeiladol i blant a rhieni. Byddant yn creu ardal chwarae a thyfu ac yn helpu i gefnogi anghenion corfforol, meddyliol ac emosiynol plant ifanc a'u rhieni ac yn ehangu'r ystod o weithgareddau y gallwn eu cynnig gan ganolbwyntio ar weithredu er mwyn yr hinsawdd a chynaliadwyedd cenedlaethau'r dyfodol.
Cylchoedd chwarae i blant
STAY AND PLAY
​
Mae Stay and Play yn gylch chwarae i blant i blant dan 3 oed yng ngofal Tasha Gittings.
​
Fel arfer mae'n rhedeg ar ddydd Iau 9.30 - 11.30am.
​
Dim ond £3 y teulu.
​
(Gweler y wefan am fwy o fanylion).
​
GLOWYR BACH CAERFFILI
​
Mae Glowyr Bach Caerffili yn grŵp chwarae plant i rhieni / ofalwyr a’u rhai bach. Mae’n rhoi i chi a’ch plant y cyfle i gymdeithasu gydag eraill mewn amgylchedd dysgu Cymraeg. Mae’r grŵp yn agored i bobl di Gymraeg a siaradwyr rhugl gyda’r amcan o ddysgu ychydig o Gymraeg sylfaenol i’r rhai bach ac i chwarae a chymdeithasu gydag eraill. Mae Tasha yn hapus i ddysgu ychydig o Gymraeg i chi petai eisiau.
​
Ar gyfer plant 0 - 4 ml..
​
Fel arfer dydd Iau rhwng 9.30 i 11.30.
​
Dim ond £3 y teulu.
​
(Gweler y wefan am fwy o fanylion).
​
.jpg)
.png)