top of page
Elderberries
Cadwch yn ddiogel, cadwch yn iach, cadwch yn hapus.

Ymarferion Cadair o'r tÅ·

​Er mwyn eich cymell, mae Beth wedi postio rhai ffilmiau ymarfer corff byr i chi eu gwneud o'r tŷ.
Dyma sianel YouTube swyddogol Beth Ryland i gael mynediad at ei holl ymarferion dyddiol ar gyfer y rhai dros 50+. Pob lwc i gyd.

https://m.youtube.com/channel/UCrXHCGGgsHdX435_jWkhZtA

​

Warm up with Beth & Lola: www.youtube.com/watch?v=PIBGlcuamRM

​

Seated Dance: www.youtube.com/watch?v=7x8zCYniyKQ

​

Basic Jive featuring Zac & Lola! www.youtube.com/watch?v=tASr9ov-5dM

​

Do a Hand Jive with Beth & Lola: www.youtube.com/watch?v=tHFUNxJe4h8

things to do - the elderberries.jpg

Syniadau i’ch helpu wrth hunanynysu gan Grwp Cynllunio yr Aeron Aeddfed:

 

  • Cynlluniwch y dydd a chadwch at batrwm arferol

  • System ffrindiau ffôn – rhoi pobl mewn parau i gysylltu â’i gilydd bob dydd

  • Cadw dyddiadur yn cynnwys cyfle i feddwl am bethau da’r diwrnod a’r rhwystredigaethau

  • Gwisgo i fynd allan  - hyd yn oed os oes rhaid aros i mewn!

  • Ysgrifennu creadigol – gallwn osod pynciau a’u trafod pan gwrddwn eto

  • Rhannu rysetiau, cerddi, fideos a lluniau ar WhatsApp ac at y We

  • Siarad am lyfr a fwynheuoch chi – a darllen mwy o lyfrau

  • Dysgu sgil newydd e.e. pwytho neu crochet, paentio neu ffotograffiaeth

  • Croeseiriau / sudoku / jigso

  • Paratoi at gyfarfodydd yr Aeron yn y dyfodol – siarad am blentyndod, hoff wyliau neu degan

  • Creu albwm o luniau / ei ddiweddaru gydag enwau a dyddiadau

  • Gwneud pethau positif - clirio cwpwrdd / llythyr at ffrind / tacluso / garddio

  • Gwrando ar fiwsig – dysgu cân newydd – ymuno â chôr ar y We

  • Mynd am dro, yn enwedig ar ddiwrnod braf

  • Ymarfer i gerddoriaeth - mae rhaglen YouTube Beth ar ein gwefan

  • Rhannwch eich syniadau – a chadw mewn cysylltiad ag o leiaf un person arall bob dydd.

 

Mae rhai pobl garedig yn eich cymuned wedi gwirfoddoli i helpu. Rhowch wybod os oes angen help gyda siopa, casglu presgripsiwn, mynd i’r post neu os hoffech sgwrsio gyda rhywun  ar y ffôn.
 

Byddwn yn sefydlu system ffrindiau ffôn ar gyfer yr Aeron Aeddfed a byddwn yn rhoi cynnig ar Skype i rai gyda chyfrifiadur a grwp WhatsApp i’r rhai gyda ffoniau clyfar.
 

Daliwch i edrych am syniadau ar ein gwefan am bethau i wneud gartref, a Facebook, Twitter, Instagram.
 

Mae’n bwysig IAWN i gefnogi ein gilydd – mae pawb wedi cytuno i ymuno â’r grwp ffrindiau ffôn.

Sylwadau gan y grwp cynllunio:
 

'Gwnes i restr o dasgau ddoe a’u rhannu’n dasgau dyddiol ar gyfer yr wythnos hon. Wedi cwblhau rhai heddiw. Ces i hwyl yn gwneud dau o ymarferion Beth y prynhawn yma'    Marion
 

'Byddwn yn gweld eisiau’r clwb chwist. Allai rhywun roi gemau y gallwn eu chwarae ar y We fel scrabble, neu gwis? Efallai ar amser penodol?’  Liz
 

'Pan ddof i nôl at yr Aeron Aeddfed, byddwn i’n hapus i siarad am fy mhlentyndod. Mynd i ddechrau trwy ei ysgrifennu lawr. Pwy a ŵyr – efallai daw llyfr o hyn!'  Pat

Some very kind people in the community have offered volunteered help.  Let us know if: you'd like help with shopping, getting prescriptions, going to the post or just want to speak to someone on the phone.

 

We're going to set up a buddy system with our Elderberries and we'll also try Skype for those with computers and a WhatsApp group with those with smart phones.

 

Please keep looking out for ideas on our website (things to do at home), Facebook, Twitter, Instagram.

It's really important to support each other - all of us have agreed to join the telephone buddy group.

Ail-gylchu a bod yn greadigol
Yn ogystal a gwneud gemwaith newydd, gallwch eu tynnu ar led a’u defnyddio eto 
Gallwch weld peth o’n gemwaith ar y WAL GREFFT.

recycle beads.png
bottom of page