Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Pasg 2020
Adeg y Pasg fe gadwais fy hun yn ddiogel a mynd am dro, a hoffwn rannu hyn gyda fy ffrindiau yn y Glowyr. Alla i ddim pwysleisio gormod gymaint y mae mynd am dro wedi helpu fy llesiant yn ystod y mis diwethaf. Mae’r tywydd wedi bod yn berffaith, cân yr adar yn nefolaidd, a’r blagur gwyrdd yn fy atgoffa o fywyd newydd ac rwy’n teimlo’n rhydd. Katherine
Wythnos 4 o’r cyfyngiadau
Gofynwyd i’n gwirfoddolwyr gyfrannu i’n tudalen gydag enghreifftiau o bethau wnaethon nhw yn ddiweddar – yn cynnwys paratoi at y Pasg ( neu jest dal ati) Dyma rai cyfraniadau:
​
Dw i wedi bod yn mwynhau pobi. Yn gwylio’r Chef James Martin gan fod ei rysetiau yn wych a hawdd eu gwneud. Byddai’n defnyddio ei rysêt pice ar y maen a’i bwdin Swydd Efrog yw’r mwyaf erioed. Gwnes i toad in the hole ar y penwythnos ac roedd e’n enfawr.!!!
Roedd rhaid cael ffwrn newydd gan fod yr hen un yn llosgi popeth ac allwn i ddim cael thermostat newydd. Lwcus i fi brynu un cyn y cyfyngiadau symud. Rwy wir yn mwynhau goginio eto a phrofi rysetiau newydd – rhai yn iachus a rhai fel arall! Irene
Dal ati nawr bod gen i dystysgrif Hylendid Bwyd Mewn Arlwyo, gobeithio gwirfoddoli yn y Cafe cyn gynted â phosibl. Sheila
Ymdrech heddiw. Pice ar y Maen siocled dwbl wedi eu haddurno â wyau siocled gwyn. Yn drist bu’n rhaid eu rhewi ar gyfer y dyfodol. Os byddan nhw’n dadrewi yn llwyddiannus, gallwn eu cael gyda phaned ar un o brynhawniau’r Aeron Aeddfed. Shirley
​
Iâr Basg ag Wyau gan Belinda
Un o fy mhrosiectau garddio a allai fod yn ddefnyddiol yn ein prosiect ar gyfer gardd gynaliadwy. Roedd angen lefel wahanol yn yr ardd felly helpodd fy merch a fy wyres fi i godi llwybr yr ardd. Gosodwyd ffelt dros y ffens i’’w amddiffyn ac wedyn pentyrru’r rwbel o’r llwybr yn y cornel. Rhoddais bridd a phorfa a ddaeth o ailosod y lawnt ynddo, ar ei ben ac o’i gwmpas. Wedyn pridd dros ei ben. Plannais doriadau helyg ar ei ben – mae hyn wedi rhwymo’r cyfan at ei gilydd. Ces i’r cerrig am ddim. Mae’r lluniau yn dangos y cynnydd o 2018 tan nawr Dawn