top of page
knitting-wool-clipart.jpg
    Y Prosiect Gweu
knitting-wool-clipart.jpg

Dechreuon ni ein Prosiect Gwau yn ystod y cyfnod cloi i gefnogi ein cymuned leol gyda’r dasg therapiwtig o wau petryalau i wneud blancedi i'r rhai sy'n agored i niwed mewn llochesi a thai gwarchod yng Nghaerffili. 

Dyma ein post cyntaf ar Facebook yn recriwtio gwirfoddolwyr ar 10 Mehefin 2020 a chawsom ein llethu gan yr ymateb:-

 

 

 

 

 

 

MAE’R CYFARWYDDIADAU ISOD, 👇

Castiwch 40 pwyth gan ddefnyddio gwlân dwbl a nodwyddau 4mm (hen faint 8). Yn gweithio mewn pwythau garter (pob rhes yn knit) cariwch ymlaen nes bod eich petryal yn mesur 10 1/2 modfedd (tua 110 rhes) x 8 modfedd. Castiwch i ffwrdd. Gallwch weu cymaint neu cyn leied ag y mynnwch mewn unrhyw liw. 

 

Gellir prynu gwlân o Poundland, Home Bargains, B&M, Y Siop Ddisgownt (Stryd Pentrebane), C n K Haberdashery (y farchnad dan do) a Poundstretchers yn y dref. Diolch.

blanket.jpg

CHWILIO AM BOBL I WEU AR GYFER EIN PROSIECT CYMUNEDOL❤️🌈

- ALLECH CHI HELPU GWEU PETRYALAU neu ROI BLANCEDI AT EI GILYDD? -

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gweu petryalau i greu blancedi deniadol, lliwgar ar gyfer Budd-dal Caerffili ar gyfer teuluoedd anghenus yn ein cymuned, cartrefi gwarchod preswyl a llochesi. Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i roi blancedi at ei gilydd. Mae'n brosiect gwych i fod yn rhan ohono gan ei fod nid yn unig yn therapiwtig ond cewch hefyd y boddhad ychwanegol o fod yn cefnogi eich cymuned. Byddwn mor ddiolchgar o dderbyn eich holl betryalau yn ein Canolfan pan fyddwn yn cael agor eto. DIOLCH😍

 Diweddariad y prosiect gweu – Tachwedd 2020

Wow edrychwch ar yr holl flancedi a lifodd i mewn! Am ymdrech gymunedol anhygoel!  Rydym wedi ein syfrdanu gan yr ymateb i'r prosiect hwn a safon yr ansawdd a gyrhaeddwyd wrth wneud y blancedi hardd hyn.  Mae Caerffili yn llawn gweuwyr talentog.  Hoffem ddweud 'Diolch yn fawr iawn’ i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn a rhoi gwybod i chi na fyddem, heb eich cefnogaeth chi, yn gallu helpu llawer o'r bobl sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas.

Traditional-Heart.png

Thank you

Diolch

Blancedi bach hardd, wedi'u gwau

Bydd y blancedi pen-glin bach hardd, lliwgar, bywiog, wedi'u gwau yma yn cael eu dosbarthu'n fuan i gartrefi gwarchod a chartrefi preswyl ym mwrdeistref Caerffili.

Blancedi hardd, mawr, wedi'u gwau

Bydd y blancedi pen-glin hardd, lliwgar, bywiog, mawr, wedi'u gwau yma yn cael eu dosbarthu'n fuan i lochesi ym mwrdeistref Caerffili.

    Diweddariad y Prosiect Gweu - 27/10/20

Mae'r cyfnod cloi wedi dangos pa mor bwysig yw cael rhywbeth adeiladol i'w wneud a phan ail-lansiwyd ein prosiect gwau blynyddol ym mis Mehefin cyrhaeddodd ein post Facebook 23,059 o bobl ac ymgysylltu â 2,485 o bobl (y mwyaf erioed!).  Cysylltodd dros 30 o bobl sy’n gwau â ni o bob rhan o'r sir a rhyngddynt maent wedi creu dros 450 10.5" x 8" petryal. Fe wnaethon ni ddidoli'r rhain yn fwndeli lliwgar o 25 ac yn ystod y cyfnod cloi apeliwyd drwy Facebook am help i'w crosio gyda'i gilydd ac am fwy o betryalau!  Unwaith eto, cyrhaeddodd hyn dros 11,000 o bobl.  Ychydig cyn y Toriad Tân Cenedlaethol, dosbarthwyd 17 bwndel o betryalau i'w crosio'n flancedi pen-glin a maint llawn.

Mae llawer o'r rhai sy’n gwau, rhwng 18 ac 87 oed, wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd Zoom i benderfynu i ble y dylai'r blancedi gorffenedig fynd.  Mae'r prosiect wedi ysbrydoli pobl i feddwl y tu hwnt i'w pedair wal eu hunain a chael y boddhad o wneud rhywbeth dros ein cymuned.  Mewn blynyddoedd blaenorol mae Glowyr Caerffili wedi cyfrannu ei 12 blanced i'r Budd-dal lleol; eleni, rydym yn gweithio gyda'r cynlluniau tai gwarchod yng Nghaerffili i'w dosbarthu'n ehangach ar draws y sir mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Yn ôl y galw poblogaidd, rydym yn parhau â'r prosiect hwn y tu hwnt i fis Tachwedd ac yn bwriadu casglu'r blancedi eto yn y gwanwyn.  Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gwrdd ar zoom bob 6-8 wythnos gan fod rhan gymdeithasol y prosiect hwn yr un mor bwysig â'r blancedi!  Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Katherine

Cyfarwyddiadau:

Castiwch  40 pwyth gan ddefnyddio gwlân dwbl a nodwyddau 4mm (hen faint 8). Gweithiwch mewn pwyth garter (pob rhes yn plain) nes bod eich petryal yn mesur 10 1/2 modfedd (tua 110 o resi). Wedyn castiwch i ffwrdd.

wool clipart.jpg

Diweddariad y Prosiect Gweu - 13/10/20

knitted blanket complete.jpg

Danfonwyd dros 300 o betryalau i'n canolfan ac rydym wedi eu didoli yn ôl maint a lliw yn 12 bwndel bob un gyda 25 petryal.  Maen nhw'n hyfryd, diolch!

 

 Os hoffech fod yn rhan o hyn:

 

• Parhewch i wau'r petryalau (8 x 10.5 modfedd) os hoffech wneud hynny

• Dewch ag unrhyw betryalau wedi'u cwblhau i’r Ganolfan (os gallwch chi grosio a'ch bod am ffurfio'r blancedi (5 x 5) gwnewch hynny os gwelwch yn dda)

• Rhowch wybod i ni a fyddwch yn crosio'r petryalau gyda'i gilydd (byddwn yn cysylltu â'r rhai ohonoch sydd wedi cynnig yn ystod y dyddiau nesaf)

 

Ein cynllun yw cael blancedi pen-glin a blancedi llawn0 i gartrefi gwarchod a phreswyl a llochesi erbyn diwedd mis Tachwedd. 

knit blanket 1.jpg
IMG_7385.JPG

Ac mae'r rhoddion yn dechrau llifo i mewn!

IMG_6789.JPG
IMG_7374_edited.jpg

Blanced hardd wedi'i chrosio at ei gilydd.

 Eich rhoddion yn cael eu didoli o ran lliw

Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned

Cofnodion cyfarfod:  Prosiect gweu, cyfarfod ar zoom ddydd Mercher    Hydref 4 2020

 

Presennol:    Sheila Hopkins, Katherine Hughes, Ruth Starr, Marion Watts.

 

Ymddiheuriadau:    Susan Jones, Anwen Hill, Jenny Church, Diane Britt, Lynda Hawkins, Sally Keene, Carol Boyes, Jenni Jones-Annetts, Dawn Cole, Susan Masters, Karen Masters, Victoria Roper.

Clywsom na all Kate gydlynnu’r prosiect a bydd rhaid i ni ei orffen ein hunain. Y prif sialens yw (1) cysylltu â phawb i gael gafael ar y petryalau

IMG_7378_edited.jpg
bottom of page