Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Mae Canolfan y Glowyr Caerffili yn cynnal prosiect Cynhwysiant Digidol wedi'i ariannu i helpu'r rhai yn y gymuned sydd angen cymorth i gael mynediad i'r gweithgareddau ar-lein a hybrid sy'n rhedeg o'n Canolfan neu unrhyw anghenion eraill ar-lein. Mae'r pandemig wedi ein dysgu pa mor bwysig yw gallu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu ond yn anffodus roedd llawer o'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn teimlo'n ynysig yn gymdeithasol. Rydym am chwalu'r rhwystrau hynny o allgáu cymdeithasol ac rydym yn bwriadu cynnal cyrsiau Digidol rheolaidd o'n canolfan, parhau â'n cynllun benthyciadau tabled a chynnig cymorth ffôn i'n haelodau cymunedol.
Allgymorth
Rydym wedi cael arian ychwanegol gan United Welsh - Together i allgymorth ein prosiect digidol i drigolion tai gwarchod Cyngor Bwrdeistref Sirol Chaerffili. Rydym yn bwriadu cyflwyno ein gweithgareddau iddynt drwy hyfforddi'r preswylwyr i ddefnyddio Zoom, helpu gydag unrhyw anghenion ar-lein eraill a rhoi tabledi iddynt drwy ein cynllun benthyciadau tabled.
Cyrsiau Digidol
Rydym yn cynnal cyrsiau Digidol AM DDIM dros yr haf i helpu cymaint o bobl â phosibl yn ein cymuned â llythrennedd digidol cyfyngedig. Byddwch yn dysgu am yr holl apiau mwyaf poblogaidd sy yn y byd digidol ar hyn o bryd!
Mae'r dosbarthiadau'n dechrau am 10-11am ac mae sesiwn galw heibio wedyn i ofyn i wirfoddolwr digidol am unrhyw ymholiadau sydd gennych neu ymarfer yr hyn rydych wedi'i ddysgu.
Mae ein cyrsiau eraill yn cael eu cynnal ar 26 Ebrill am 6 wythnos bob dydd Mawrth, 10-11am.
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu un o'r cyrsiau yma e-bostiwch secretary@caerphillyminerscentre.org.uk
Cynllun Benthyciadau Tabled
Rydym wedi cael tabledi Lenovo M8 i sefydlu Cynllun Benthyciadau Tabled. Ein prif amcan yw helpu'r rhai yn ein cymuned sydd ag anghenion digidol a hoffai gael mynediad i'n gweithgareddau a chyfathrebu â'u teulu a'u ffrindiau. Mae'n ofynnol i chi ddarparu llun ID a llofnodi ffurflen cytundeb benthyciad. Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyca tabled yna e-bostiwch secretary@caerphillyminerscentre.org.uk