Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Prosiect Estyn Allan ar gyfer Pobl HÅ·n
Cwrs Celf Peilot
Ydych chi wastad wedi bod eisiau paentio? Neu efallai gwella eich sgiliau creadigol? Os felly, beth am ymuno â'n Peilot Celf ym mis Mawrth.
​
​
Bob bore Gwener drwy gydol mis Mawrth byddwn yn cynnal Dosbarthiadau Celf rhithwir ac rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf. Hayley Yeoman yw ein hathro celf preswyl a bydd yn eich cefnogi drwy'r peilot. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd a bod yn greadigol gyda'n gilydd.
​
Bydd y peilot yn dechrau ddydd Gwener Mawrth 5ed (9.30-11.00) ac yn rhedeg am bedair wythnos. Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim.
Bydd y cwrs yn archwilio: -
- Lliwiau cyflenwol ( complementary )
- Gwneud marc (Mark making)
- Zentangles
- Llinellau parhaus.
A bydd yn cael ei redeg ar Zoom (a drefnir gan Ganolfan y Glowyr).
​
Y cyfan sydd ei angen arnoch yw mynediad i Zoom (cyfrifiadur, gliniadur, iPad, tabled neu ffôn), cyfeiriad e-bost, a rhaid cofrestru ymlaen llaw. Gallwn helpu gydag unrhyw faterion technegol.
​
Rydym wedi paratoi pecyn celf am £10 sy'n cynnwys yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y dosbarthiadau: pensil, beiro, paent lliwiau dŵr, naddwr pensil, dilëwr, papur celf a chynlluniau gwersi.
Os hoffech brynu pecyn celf, cysylltwch â Katherine.
​
Cewch fwy o enghreifftiau o waith aelodau ar ein tudalen gelf:
https://cy.caerphillyminerscentre.co.uk/art-classes
​
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Katherine Hughes: secretary@caerphillyminerscentre.org.uk