top of page

Cadw'n ddiogel

Rydym yn casglu'r wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau swyddogol i'ch helpu chi i gyd i gadw'n ddiogel gartref ac yn y canolfan

Rydym yn anelu at gadw’r Ganolfan ar agor cyhyd ag y teimlwn ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Rydym i gyd yn gweithio'n galed i wneud y Ganolfan yn lle diogel i ymweld ag ef. Mae covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i bob un ohonom, ac rydym yn gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i gadw pawb yn ddiogel ac i wneud eich ymweliad mor gyfforddus â phosibl.


Gofynnwn i'n holl ymwelwyr ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Peidiwch ag ymweld â’r ganolfan os ydych chi neu rywun yn eich aelwyd yn arddangos sumtomau Covid-19 neu yn aros am ganlyniad prawf Covid-19.

  • Dewch â mwgwd os gwelwch yn dda a’i wisgo trwy gydol eich ymweliad os ydych y tu mewn I’r adeilad.

  • Dewch â lluniaeth ysgafn gyda chi. Mae ein cegin ar gau am y tro.

  • Cofrestrwch ymlaen llaw gan ein bod yn cyfyngu ar y nifer yn yr adeilad. Bydd angen enwau a rhif ffôn pawb a ddaw i’r adeilad.

  • Byddwch yn barod i’r stiwardiaid fesur eich gwres pan gyrhaeddwch.

  • Cadwch 2m wrth bobl eraill – defnyddiwch y marciau ar y llawr- ac arhoswch i ddod mewn i’r adeilad

  • Diheintiwch eich dwylo cyn mynd i mewn i’r adeilad ac yn ystod eich ymweliad os gwelwch yn dda gan ddefnyddio’r diheintiwr gyda phwmp troed wrth y drws ffrynt

  • Ceisiwch beidio ag agor a chau drysau â’ch dwylo – byddwn yn cadw drysau yn agored.

  • Y tu mewn ceisiwch osgoi cyffwrdd ag unrhyw arwyneb. Byddwn yn gosod cadeiriau a byrddau ar bellter cymdeithasol, yn cadw drysau a ffenestri ar agor a byddwn yn diheintio pob arwynebedd cyn ac ar ôl pob sesiwn. 

  • Defnyddiwch y tai bach cyn lleied â phosibl os gwelwch yn dda. Gofynnir i chi ddefnyddio’r wipes a ddarperir i lanhau pob arwyneb ar ôl defnyddio’r tÅ· bach.

  • Os byddwch yn talu’r Ganolfan yn uniongyrchol, ceisiwch osgoi defnyddio arian parod – ac os byddwch yn ei ddefnyddio, dewch â’r swm cywir os gwelwch yn dda.

  • Osgowch sgwrsio yn y cyntedd os gwelwch yn dda, mae’n ardal a allai achosi tagfa ac fe hoffem ei gadw’n glir. 

Gobeithio y bydd y mesurau diogelwch yma yn rhoi tawelwch meddwl i chi.

Diolch am weithio gyda ni a mwynhewch eich ymweliad.

Adolygwyd ddiwethaf Tachwedd 23,2020

Covid – 19   Diweddariad diogelwch ar gyfer ein hymwelwyr 

 

Eglurhad ar sefyllfa bwyd a diod a mygydau. 
Er mwyn i’n holl gwsmeriaid fod yn gysurus AC yn ddiogel, byddwn yn dilyn y mesurau diogelwch COVID-19 canlynol.

 

Mygydau 

  • Bydd gwisgo mwgwd yn help i leihau lledaenu Covid-19.

  • Er mwyn ein hamddiffyn ein hunain ac eraill, gofynwn i bawb wisgo mwgwd y tu mewn i’r adeilad onibai fod ‘rheswm da’.  Mae rhesymau da yn cynnwys cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol (ee asthma neu pwl o banig )

  • Os yn bosibl hoffem i bobl â ‘rheswm da’ ddarparu tystiolaeth (ee lanyard neu gerdyn) os gofynir amdani. 

  • Lle mae hyn yn opsiwn, mae gennym ‘visors’ y gall pobl eu benthyg yn ystod ymweliad.

  • Byddwn yn arbrofi gyda mygydau clir i helpu cyfathrebu gyda phobl sy’n drwm eu clyw.

 

 

Bwyd a diod 

  • Mae bwyd a diod yn ardal o risg uchel wrth ledaenu Covid-19 ac felly penderfynwyd cau’r caffi a’r gegin nes i ni fod yn hyderus y gallwn gyfyngu’r risg.

  • Gall ymwelwyr ddod â’u bwyd a’u diod eu hun, a gofynwn iddynt fynd ag unrhyw wastraff gyda nhw wrth adael.

  • Byddwn yn darparu dŵr poeth mewn tegell ar gyfer pobl sy’n llogi ystafell am y dydd, ond ni ddarperir coffi, te, llaeth na chwpanau. 

 

Diolch i chi i gyd am weithio gyda ni i gadw pawb yn ddiogel.

Tachwedd 2020

Rhoi cyfraniad ariannol

Mae ein sefydliad bob amser yn gwerthfawrogi haelioni a chymorth pobl fel chi; bydd pob cyfraniad yn mynd tuag at wneud Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned yn Sefydliad Di-elw sydd hyd yn oed yn well nag ar hyn o bryd. Hoffem i chi gael gwybodaeth gywir ac addas ar gyfer eich dull o gefnogi, felly peidiwch petruso cysylltu â ni gyda'ch cwestiynnau.

Fire and rescure CYM.png

Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol yn y llyfryn 'Canllaw i Ddiogelwch Cartref' gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Cliciwch ar y llun i gael mynediad i'r llyfryn.​

​

Siopa Diogel

 

Mae’r Aeron Aeddfed wedi sôn am broblemau gyda siopa bwyd. Ac wrth i Morrisons lansio gwasanaeth newydd ‘dros y ffôn’ ar gyfer pobl fregus ac oedrannus, mae’n ymddangos bod hwn yn gyfle da i edrych ar sut mae dulliau o siopa ar y we yn gweithio yng Nghaerffili.  

Mae canllawiau’r Llywodraeth yn dweud y dylai pobl 70+ a phobl ag imiwnedd isel hunan-ynysu ac osgoi mynd i siopa yn llwyr, ac y dylai pawb arall gadw pellter a siopa mor anaml â phosibl.  
 

Mae gan lawer o bobl gymdogion da, teulu neu ffrindiau i helpu gyda siopa. Dyma ‘r opsiwn gorau a’r mwyaf diogel.   

Mae gan y cyngor gynllun siopa bwyd a meddyginiaeth ar gyfer pobl fregus a’r rhai 70+ nad oes ganddynt rywun arall i’w helpu -  cysylltwch â teamcaerphilly@caerphilly.gov.uk neu ffoniwch 01443 811490 rhwng 9am & 5pm Llun i Gwener.  Derbyniwyd adborth da ond mae cwestiynnau am sut i dalu, cadw pellter a chadw’n ddiogel.  
 

Mae’r llywodraeth yn annog siopa ar y we ond all y rhan fwyaf o siopau ddim delio â’r niferoedd uchel. Pan edrychon ni ar eu gwefannau, doedd gan y mwyafrif ddim slot am y tair wythnos nesaf. Clywsom bod Iceland yn trefnu eu slotiau dosbarthu yn y bore tua 10am ac mae’r rhain yn fwy hygyrch gyda dosbarthu digyswllt. 

 

shopping.jpg
virus.jpg

Mae’r firws yn BERYGLUS!  Gall oroesi ar ddeunydd pacio, eich dillad a’ch croen.Gwnewch yn siwr bod pawb sy’n siopa i chi yn cadw pellter a gwisgwch fenyg wrth drafod eich nwyddau, Sychwch eich nwyddau gyda diheintydd ar arwyneb glan a thaflwch ddeunydd pacio diangen. Neu gallwch adael nwyddau allan yn yr haul. Golchwch ffrwythau a llysiau yn drwyadl a golchwch eich dwylo. Cadwch yn ddiogel!  

Siopau                                        Cysylltu ar y we

Iceland                                         Hawdd cofrestru. Dosbarthu am ddim £35+

www.iceland.co.uk                   Trefnu yn y bore tua 10am
 

Sainsbury                                    Cofrestru 70+ / bregus trwy gerdyn Nectar.   

www.sainsbury.com

​

Tesco                                            Hawdd cofrestru gyda Tesco Clubcard. Dosbarthu am ddim £40+

Tesco.com/groceries

​

ASDA                                             Hawdd cofrestru. Dosbarthu am ddim £40+; Click & Collect £25

Asda.com

​

Morrisons                                     Aros tua 25 munud i fynd i’r safle

Morrisons.com                           ond gellir prynu bocsys bwyd o fathau gwahanol yn haws.

volunteers for covid19.jpg
bottom of page