top of page
220_F_98221076_SLZYq2H8HeKXNINVp9z2Kix0xhdmjAj2.jpg
Arddangosfa Gelf
palette.jpg

Lansio Arddangosfa Gelf Canolfan Glowyr Caerffili i nodi 98 mlynedd ers Sefydlu’r Ysbyty

 

Ar 30 Mehefin eleni bydd 98 mlynedd ers sefydlu Ysbyty'r Glowyr ac maer’r Ganolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned yn nodi'r achlysur gydag arddangosfa gelf.

Daw'r celfyddyd a arddangosir gan drigolion lleol sydd wedi cynhyrchu gwaith drwy'r dosbarthiadau celf a gynhelir yng Nghanolfan y Glowyr ac a ddangosir ar y waliau yng nghyntedd y Ganolfan.

Delyth Jewell AS sy’n agor yr arddangosfa gelf yn swyddogol a thrwy wneud hynny bydd hefyd yn nodi 98 mlynedd ers agor Ysbyty'r Glowyr.

Bu Hayley Yeoman athro’r dosbarth celf yng Nghanolfan y Glowyr ers mis Medi 2020. Mae wedi cyflwyno datblygiadau arloesol newydd, megis dosbarthiadau celf ar-lein ar gyfer ein prosiect Allgymorth, gweithgareddau i'r Aeron Aeddfed, her ddyddiol creu celf o eiriau ac arddangosfa rithwir ar ein gwefan a gynhaliwyd yn ystod cyfyngiadau’r pandemig. Mae hi wedi curadu'r arddangosfa i arddangos yr ystod o waith a gynhyrchwyd mewn dosbarthiadau gwahanol dros y blynyddoedd.

unnamed.png
unnamed.png
unnamed.png
unnamed.png
red-orange-butterfly-vector-clipart.png
download.jpg
bottom of page