top of page

Beth yw gwirfoddoli i mi

Mae gwirfoddolwyr wedi rhoi o’u hamser i’n prosiect ac rydym am wneud ein gorau i’w cefnogi ar yr adeg anodd yma.
Rydym wedi cadw mewn cysylltiad â’n gwirfoddolwyr, rhwng 18 ag 86 oed ac o bob math o wahanol gefndiroedd.

Volunteers 4.jpg
Volunteers.jpg

Yn newydd i’r ardal, cyflwynodd gwirfoddoli yn y Glowyr fi i grwp gwych o bobl a rhoi pwrpas i fywyd.    Kate
 

Mae’r ganolfan wedi rhoi cyfle i mi gwrdd a gweithio gyda phobl hyfryd, diddorol a charedig sy wedi rhannu storïau, gwneud i mi chwerthin a chynnig ysbrydoliaeth. Rwyf wedi mwynhau dysgu a defnyddio sgiliau newydd ar gyrsiau i wirfoddolwyr. Liz
 

Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli yn y Glowyr bron ers dechrau’r prosiect. Mae cefnogaeth a chyfeillgarwch cyd-wirfoddolwyr yn ystod y blynyddoedd olaf, anodd yma wedi bod yn arbennig ac rwy’n ei werthfawrogi yn fawr. Marion

​

Mae’r ganolfan yn bwysig i mi – ces i ngeni yno 23 mlynedd yn ôl ac mae gwirfoddoli yno yn gwneud i mi deimlo’n rhan o’r gymuned.  Sinead


Roedd gweithgareddau pleserus Y Glowyr (Soirée, Dosbarth dawns, Garddio) yn fy helpu i fod yn rhan o’r gymuned pan symudais yma wedi byw yn Nyfnaint gydol fy mywyd. Wedyn dechreuais wirfoddoli i helpu’r Ganolfan. Rwyf wedi cwrdd â phobl dwymgalon a hyfryd. Fel gwraig weddw yn symud i ardal newydd, mae’r Glowyr wedi fy nghroesawu i Gymru.  Dawn

 

Mae gwirfoddoli wedi rhoi cyfle amhrisiadwy i mi ddarparu a chefnogi gweithgareddau Cymraeg yn y gymuned leol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae wedi bod yn brofiad cynhyrchiol a gwerth chweil sy wedi rhoi cyfle i mi gyfarfod a chymdeithasu gyda ffrindiau newydd yn y gymuned, ac wedi cyfoethogi fy mywyd.  Nia


Mae’r Glowyr wedi rhoi teimlad o berthyn i’r gymuned i mi. Mae wedi dangos caredigrwydd i mi ac rwyf wedi gwneud ffrindiau gyda phobl na fyddwn yn eu cyfarfod fel arall. Diolch.    Neelie


Rwyf wedi cwrdd â phobl o bob math o gefndiroedd, wedi bod yn rhan o brosiectau ysbrydoledig ac wedi cyfrannu at fenter all wneud ein cymuned yn lle gwych i fyw ynddo.  Mae gwirfoddoli wedi fy nghynnal trwy adegau anodd a rhoi rheswm i mi groesawu pob diwrnod newydd.   Katherine
 

Rwyf wedi elwa’n fawr iawn o wirfoddoli gan iddo fy helpu i ddelio gyda phroblemau iechyd. Mae’n dda gwybod fy mod yn rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned ac rwy’n gwerthfawrogi bod yn rhan o dîm caredig, cymwynasgar a chefnogol.  Belinda

​

Nid yw problemau symud ac iselder yn gyfuniad da, ond wedi i mi ddarganfod y Grwp Crefft, aeth y problemau yn llai!    Sheila


Cynigiais helpu yn y grwp garddio gan fy mod yn mwynhau garddio. Mae wedi bod yn hyfryd gwneud y gwaith yma gyda phobl o’r un diddordeb. Dechreuais wirfoddoli gyda’r grwp ymarfer wrth i’w harweinydd orfod gadael. Rwy’n mwynhau cwrdd â phawb, rydym yn gweithio’n galed ac yn cael hwyl hefyd. Mae’n dda gallu llenwi bwlch er fy mod wedi ymddeol. Dyn ni byth yn rhy hen i ddysgu rhywbeth newydd! A pheth da yw teimlo bod ar bobl eich angen.    Ruth


Cymaint o bobl anhygoel.  Stephen

Gofynwyd iddynt beth mae gwirfoddoli yn ei olygu iddyn nhw:  

Volunteers 3.jpg
Volunteers 6.jpg

Rwy’n wirfoddolwr newydd sy newydd wneud cwrs hylendid bwyd felly gallwn helpu gydag arlwyo ar gyfer digwyddiadau neu unrhywbeth arall. Rwy’n edrych ymlaen at flynyddoedd hapus gyda’r Glowyr.      Susan


Dechreuais fynd i’r grwp Aros a Chwarae pan oedd fy efeilliaid yn 6 mis oed ac wedyn dechreuais wirfoddoli pan oedden nhw’n un. Roedd hwn yn gyfle gwych i mi gan fy mod yn gweld eisiau fy ngwaith fel athrawes. Ym mis Mawrth 2018 dechreuais grwp chwarae Cymraeg, Glowyr Bach. Mae’r ddau grwp chwarae yn llwyddiannus.  Er bod yr efeilliaid nawr yn yr ysgol feithrin rwy’n dal i redeg y sesiynnau gan i mi wneud ffrindiau hyfryd ac rwy’n teimlo fy mod yn cyfrannu i’r gymuned.    Tasha

​

Mae’r Glowyr yn ganolbwynt gwych i’r gymuned yn cynnig ystod o weithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd cymdeithasol i bawb. Mae’n croesawu ymwelwyr hen a newydd ac mae’r tîm o wirfoddolwyr sy’n cadw’r prosiect i fynd yn amhrisiadwy. Rwyf wedi cael cymaint o brofiad a hyder o helpu trefnu digwyddiadau yn y gorffennol yn y ganolfan. Byddaf yn ddiolchgar am byth am gael bod yn rhan o’r fath dîm gwych. Diolch. Amie

 

Pan gaeodd yr hen Ysbyty, roeddwn yn drist wrth feddwl am golli rhywbeth o werth i’r gymuned gyfan. Pan ddaeth yn amlwg y gellid arbed Beeches House ar gyfer y gymuned, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cefnogi’r syniad. Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd, mae’n rhoi cyfle i wneud ffrindiau newydd. Mae llwyddiant wrth godi arian yn rhoi boddhad mawr i wirfoddolwyr, mae’n gwneud eu hymdrechion yn werth chweil wrth helpu’r Ganolfan i gyrraedd ei nod er lles y gymuned.   Shirley

Volunteers 2.jpg
Volunteers 5.jpg
catering.jpg
gardening.jpg
Shirley.jpg

Fy mlog ar wirfoddoli

​

Rwy’n gwirfoddoli mewn Gweinyddu a Marchnata ac yn mwynhau yn fawr. Rwy’n aelod o dîm gwych o 4, sef Mari, Sinead, Katherine a finnau.  Byddwn yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynllunio digwyddiadau, prosiectau a datblygiadau newydd neu ar y gweill ar gyfer ein canolfan. Rwy’n mwynhau mynd i’r cyfarfodydd a dysgu sut i farchnata’n effeithiol gyda chymorth ac arweiniad ein hymgynghorydd marchnata proffesiynol, Mari. Mae’n gyfle hefyd i mi gyfrannu fy syniadau ac awgrymiadau fy hun. Rydym wedi diweddaru’r wefan yn ddiweddar gyda gweithgareddau ar gyfer y cartref ac i ddangos gwaith gwych ein gwirfoddolwyr. Mae hyn yn helpu’r gymuned yn ystod pandemig Covid-19. Yn ddiweddar fe dderbyniais hyfforddiant ar blatfform Wix gan Mari, felly rwyf nawr yn gallu golygu ac ychwanegu cynnwys at ein gwefan ac mae hyn yn heriol ond yn rhoi boddhad mawr. Rwy’n mwynhau dysgu sgiliau newydd ac rwy’n edrych ymlaen ar gyfleoedd dysgu newydd yn y dyfodol. Fi hefyd, gyda Katherine, sy’n gyfrifol am ein tudalen Facebook ac rwy’n helpu delio â negeseuon y cyhoedd. Mae gwirfoddoli i Ganolfan Y Glowyr wedi bod yn werthfawr iawn i mi gan ei fod wedi gwella fy llesiant ac rwy’n gwybod fy mod yn helpu cefnogi ein cymuned.  

 

Belinda Snow

blog pic.jpg

Fy mlog ar wirfoddoli

Sinead.jpg

Rwyf wedi byw yng Nghaerffili ar hyd fy oes ac fe ges i ngeni yn Ysbyty’r Glowyr yn 1996.

​

Mae’r Ganolfan yn rhan bwysig o hanes Caerffili ac mewn lle arbennig yng nghalonnau llawer o bobl. Ym mis Chwefror 2020 ymunais â’r Tîm Marchnata fel Gwirfoddolwr Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata. Fy rôl yw delio â’r dudalen Instagram i hyrwyddo proffil y Ganolfan a’r amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai sy ar gael i’r cyhoedd. Trwy fy rôl rwyf wedi dysgu sgiliau newydd a dod i ddeall yn well sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau marchnata i dynnu mwy o sylw at y Ganolfan.

 

Rwy’n ddiolchgar fy mod yn gweithio gyda thîm anhygoel ble rwy’n cael cefnogaeth ac anogaeth i rannu fy meddyliau a syniadau. Rwy’n mwynhau fy rôl gan ei bod yn rhoi cyfle i mi roi rhywbeth yn ôI ac rwy’n teimlo mod i’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymuned.

​

Sinead Kirwan

Fy mlog ar wirfoddoli

Mae gwirfoddoli i’r Glowyr wedi fy nghadw’n brysur dros gyfnod y cyfyngiadau! 

​

Rydw i wedi bod yn wirfoddolwr ers 25 mlynedd gan ddechrau gyda Rainbows, Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili, TÅ· Hafan ac yn awr gyda’r Glowyr, Caerffili.  Mae gwirfoddoli wedi fy helpu drwy ddiswyddiad diweddar a diweithdra.  Ymunais â CGCG ym mis Chwefror 2020 fel cydlynydd gwirfoddoli dros dro.  Tra bod y Ganolfan ar gau, rwyf wedi parhau i wirfoddoli o bell.  Rwyf wedi bod mewn cyfarfodydd o'r grŵp garddio, wedi cymryd rhan mewn tyfu perlysiau a chael gafael ar wrtaith a biniau compost.  Rwyf hefyd wedi cael cyfarfodydd zoom gyda'r grŵp arlwyo ac wedi ymuno â grŵp gweinyddol.

​

Fel gwirfoddolwr, mynychais gyrsiau am ddim mewn Hylendid Bwyd Lefel Dau ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith Lefel Dau ym mis Mawrth.  Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at allu rhoi fy sgiliau ar waith.  Mae'n wych bod yn rhan o dîm, cael eich gwerthfawrogi a chael rhywbeth i'w gynnig.

​

Os hoffech ymuno â’r Glowyr fel gwirfoddolwr, ebostiwch secretary@caerphillyminerscentre.org.uk a gofyn am ffurflen gais. 

​

Avril Owen

avril.jpg
bottom of page