Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Newyddion
YR EICON CYMREIG, CERYS MATTHEWS YN ANRHYDEDDU GWIRFODDOLWRAIG O GAERFFILI A ACHUBODD TIRNOD CYMUNEDOL LLEOL GYDA GWOBR O BWYS
Mae’r eicon Cymreig, Cerys Matthews wedi anrhydeddu arwres ysbrydoledig o Gaerffili gyda Gwobr y Loteri Genedlaethol i gydnabod ei gwaith anhygoel yn y gymuned.
Cyflwynwyd y wobr i Katherine Hughes gan y cerddor, awdures a darlledwraig, Cerys Matthews MBE, wedi’r cyhoeddiad ei bod wedi ennill y categori Cymunedau ac Elusennau i’r DU gyfan o fewn Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2021.
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a’r sefydliadau ysbrydoledig ar draws y DU sydd wedi gwneud pethau anhygoel gydag arian Y Loteri Genedlaethol.
Derbyniwyd mwy na 1,500 o enwebiadau o fewn ymgyrch eleni ac mae’r panel beirniadu wedi dewis Katherine Hughes, gwirfoddolwraig ac Ysgrifenyddes Canolfan y Glowyr Caerffili (Y Miners) fel enillydd y DU am ei hymdrechion gwirfoddol diysgog ac fel un o’r grymoedd sy’n gyrru’r ymgyrch i arbed tirnod hanesyddol Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod yn y dyfodol.
Pan gyhoeddwyd cynlluniau i gau a dymchwel hen ysbyty’r Glowyr yng Nghaerffili 15 mlynedd yn ôl, roedd Katherine, 72, ar flaen y gad fel gwirfoddolwraig gyda grŵp cymunedol a helpodd i achub yr adeilad. Gyda’r ysbyty ar garreg ei drws, pan glywodd am y cynlluniau i’w ddymchwel, defnyddiodd ei chefndir yn gweithio fel cynllunydd tref ac ymgynghorydd datblygu cymunedol i arwain a chymryd cyfrifoldeb, gan annog y gymuned i gymryd yr awennau gyda’r adeilad.
Helpodd Katherine, sy’n byw tafliad carreg ymaith o’r Miners, i sefydlu grŵp Canolfan Glowyr Caerffili yn 2008, yn fuan wedi iddi ddod dros driniaeth ar gyfer canser. Wedi sicrhau’r brydles 99 mlynedd ar yr adeilad a gyda chefnogaeth grant o £250,000 oddi wrth Y Loteri Genedlaethol, cafodd yr adeilad ei adnewyddu a’i ailagor yn 2015. Dywedodd Katherine y byddai’n “drychineb” petai’r adeilad – lle mae cenedlaethau o deuluoedd de Cymru wedi cael eu babanod – yn cael ei ddymchwel.
Mae’n ganolfan fywiog a chwbl hygyrch i’r gymuned erbyn hyn lle y gall pobl o bob oedran a gallu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys calendr gorlawn o ddosbarthiadau iaith, celf, ffitrwydd, gweu, cyfrifiaduron a dawnsio, ynghyd â chynlluniau cyfeillio a gweithgareddau cymdeithasol eraill.
Heb unrhyw arwydd o roi’r gorau iddi, mae Katherine yn parhau i gymryd rhan yn weithgar fel stiward ac arweinydd grŵp gwirfoddol, ynghyd â bod yn ysgrifenyddes y ganolfan. Mae wedi helpu i ymgysylltu gyda phob oedran yn ystod y pandemig a bu hyd yn oed yn ymweld ag aelodau hŷn i ddangos iddynt sut i ddefnyddio Zoom fel y gallent gadw mewn cysylltiad.
Bydd holl enillwyr eleni, gan gynnwys Katherine, yn ennill gwobr ariannol o £3,000 ar gyfer eu sefydliad a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.
Teithiodd Cerys Matthews i Ganolfan y Glowyr Caerffili i gyflwyno ei gwobr i Katherine Hughes. Roedd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol Y Loteri Genedlaethol wedi ymuno â hi i longyfarch Katherine ar ei champ.
Dywedodd Katherine a oedd wrth ei bodd i gael ei chyhoeddi’n enillydd: “Rwyf wedi’n syfrdanu’n llwyr ac wrth fy modd i fod wedi ennill y wobr hon. Mae cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi chwarae rôl hanfodol wrth sefydlu a rhedeg y ganolfan ac mae’n rhoi pleser mawr i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Rwyf mor falch o ba mor bell ydym ni wedi dod a’r gymuned yr ydym wedi’i chreu yma. Hoffwn ymrwymo’r wobr hon i’r holl wirfoddolwyr a phobl eraill o fewn y gymuned sydd wedi gweithio’n ddiflino i achub yr adeilad ac sy’n parhau i wneud hwn yn lle arbennig fel ag y mae heddiw.”
Wrth gyflwyno ei Gwobr i Katherine, dywedodd y cerddor, awdures a’r ddarlledwraig, Cerys Matthews: “Mae’n rhoi pleser mawr i mi gyflwyno Gwobr y Loteri Genedlaethol i Katherine am ei hymdrechion gwirfoddol diysgog dros y blynyddoedd.
Mae hi’n olau sy’n llewyrchu, ac yn bencampwraig gymunedol neilltuol fel un o’r un o’r grymoedd sy’n gyrru’r ymgyrch i achub y tirnod hanesyddol hwn ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod yn y dyfodol.
Rwy’n siŵr fod pobl yng Nghaerffili yn arbennig o falch o’i hymdrechion anferthol. Ond hefyd hoffwn ddweud diolch i unrhyw un sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol: Rydych yn gwneud prosiectau fel Canolfan y Glowyr Caerffili yn bosibl – ac mae eich cefnogaeth nawr yn fwy hanfodol nag erioed.”
Dywedodd Cadeirydd Cronfa Gymunedol Y Loteri Genedlaethol, Blondel Cluff CBE: "Mae'r wobr hon yn haeddiannol iawn - mae ymgyrch Katherine i achub yr adeilad hanesyddol hwn a'i drawsnewid yn ofod bywiog i'w chymuned leol yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae'n wylaidd bod miloedd o wirfoddolwyr ymroddedig, fel Katherine, yn gwneud pethau eithriadol gyda chyllid Y Loteri Genedlaethol ac yn cefnogi eu cymunedau i ffynnu a ffynnu ledled y DU. Y pen llanw o ran ailgylchu!"
Diolch i chwaraewyr Y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn mynd tuag at achosion da led led y DU pob wythnos, sydd yn ei dro yn helpu pobl fel Katherine Hughes i barhau i gyflawni gwaith anhygoel yn eu cymunedau.
Llongyfarchiadau mawr Katherine!
Y stori tu ol i'r goeden Nadolig hardd, wedi ei gweu, sydd i'w gweld yn ein Canolfan.
6 Rhagfyr 2021
Ers blynyddoedd lawer mae aelodau Undeb y Mamau ym mhlwyf Caerffili wedi bod yn gwau petryalau a’u plygu i mewn i ‘ddail ’ar gyfer coeden Nadolig. Mae hyn yn ffurfio coeden ganolog yr ŵyl goed Nadolig flynyddol. Yn anffodus eleni mae’r goeden fawr yn cymryd gormod o le ac ni ellir ei chartrefu yn eglwys St Martin. Felly maen nhw wedi cytuno'n garedig iawn i arddangos y goeden orffenedig yn y Glowyr. Mae ffrâm y goeden wedi’i gwneud gan ddisgyblion ysgol St Martin, mae’r dail wedi’u gwneud gan Undeb y Mamau a ffrindiau ac mae’r addurniadau’n gasgliad gwerthfawr a wnaed dros nifer o flynyddoedd. Ar ôl y Nadolig bydd y goeden yn cael ei datgymalu a bydd y ‘dail’ yn cael eu gwneud yn flancedi ar gyfer pobl ddigartref ac anghenus, gyda Bendith yr holl flancedi ddiwedd mis Ionawr. Gwahoddwyd Canolfan y Glowyr Caerffili i gyfrannu at hyn, fel yr ydym wedi gwneud yn y blynyddoedd a fu. Hoffem ddiolch i Undeb y Mamau am adael inni arddangos y goeden hyfryd hon a gobeithiwn y bydd yr holl ymwelwyr ddaw i’r Glowyr yn rhannu’n mwynhad.
GWIRFODDOLWR A HELPODD I ACHUB A GWEDDNEWID ADEILAD HANESYDDOL YNG NGHAERFFILI WEDI EI HENWEBU AR GYFER GWOBR BWYSIG
Mae gwirfoddolwr o Gaerffili a helpodd i achub adeilad hanesyddol rhag cael ei ddinistrio, a’i newid yn ganolfan gymunedol fywiog, wedi ei henwebu ar gyfer Gwobr 2021 y Loteri Genedlaethol.
Mae Katherine Hughes, gwirfoddolwr ac Ysgrifennydd Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned ar restr fer adran gymunedol gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni
Mae gwobrau blynyddol y Loteri Genedlaethol ar gyfer pobl a phrosiectau a dderbyniodd arian gan y Loteri ac yn dathlu unigolion a grwpiau sy’n cyflawni pethau anhygoel yn eu cymuned, yn enwedig yn y cyfnod anodd yma.
Enwebwyd Katherine am ei hymroddiad a’i hymdrechion gwirfoddol diflino dros y blynyddoedd ac am fod yn rym y tu cefn i achub hen Ysbyty’r Glowyr i genedlaethau’r dyfodol gael ei fwynhau. Mae’r ddynes 71 oed yn cwhwfan baner Cymru ac yn un o ddim ond pump ar draws Prydain a enwebwyd am wobr.
Pan gyhoeddwyd 15 mlynedd yn ôl bod yr ysbyty hanesyddol i gael ei gau a’i ddinistrio, roedd Katherine yn arwain y grwp cymunedol a achubodd yr adeilad. Tŷ preifat ydoedd yn wreiddiol, codwyd arian gan lowyr lleol i brynu’r adeilad yn 1919 a’i droi yn ysbyty ar gyfer glowyr a’u teuluoedd. Gwasanaethodd Ysbyty’r Glowyr y gymuned leol am bron i 90 mlynedd.
Pan glywodd Katherine am y cynlluniau i’w ddinistrio, defnyddiodd ei chefndir fel cynllunydd trefol ac ymgynghorydd datblygiad cymunedol i arwain y frwydr dros ei roi yn nwylo’r gymuned.
Sefydlwyd Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned yn 2008, a gyda chefnogaeth cronfa’r Loteri Genedlaethol cafodd yr adeilad ei adfer a’i ailagor yn 2015. Mae nawr yn ganolfan fywiog i’r gymuned lle gall pobl o bob oed a gallu fwynhau ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau fforddadwy. Mae hyn yn cynnwys ieithoedd, celf, ffitrwydd, gweu a dosbarthiadau dawns, yn ogystal â chynlluniau cyfeillio a gweithgareddau cymdeithasol eraill. Perchnogir y Glowyr gan yr aelodau a’i lunio gan ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr fel Katherine.
Wrth ei bodd yn cael ei henwebu, dwedodd Katherine sy’n dal i wirfoddoli yn y ganolfan,
‘ Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddweud pan glywais i mi gael fy enwebu. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn allweddol i sefydlu’r prosiect hwn ac wedi cefnogi ein gweithgareddau a’n cynlluniau uchelgeisiol ar hyd y blynyddoedd.’
‘ Mae’r ganolfan wedi bod o gymorth mawr i lawer yn ystod y pandemig a byddai wedi bod yn drychineb i’r adeilad gael ei ddinistrio. Roeddwn wedi gweld llawer o adeiladau eiconig ledled De Cymru yn dirywio oherwydd diffyg cefnogaeth, ond roeddwn yn credu y gallai’r Glowyr gynnig adnodd cymunedol gwerthfawr. Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli yma ac mae bod yn rhan o brosiect yn fy nghymuned fy hun yn brofiad mor arbennig. Mae’n wych bod yn rhan o brosiect bywiog sy’n ysbrydoliaeth, gydag aelodau o’r gymuned a gwirfoddolwyr o bob cefndir yn dod ynghŷd i gefnogi achos cyffredin.’
This year, more than 1,500 people were nominated for a National Lottery Award in recognition of the work they have carried out with the help of National Lottery funding.
Next month a panel, made up of representatives of The National Lottery and partners, will decide the winners in each category from a shortlist of five.
Winners will be revealed in the autumn and will receive a £3,000 cash prize for their organisation and a coveted National Lottery Awards trophy.
Jonathan Tuchner, from The National Lottery, said: “Since 1994, The National Lottery has made a huge positive impact on life across the UK. Thanks to National Lottery players and the £36 million raised each week for good causes, thousands of organisations are making an incredible impact and difference in their local areas.
“The National Lottery Awards honour those who have stepped up and stood out like Katherine, who work tirelessly for their community. They deserve great praise and our thanks for their incredible work.”
Encompassing all aspects of National Lottery good causes funding, the 2021 National Lottery Awards will recognise outstanding individuals in the following sectors:
-
Culture, Arts & Film
-
Heritage
-
Sport
-
Community/Charity
There will be a special Young Hero Award for someone under the age of 18 who has gone that extra mile in their organisation.
In September a public vote will be held to find The National Lottery Project of the Year, while online polls will take place after the Tokyo Olympic and Paralympic Games to determine the winner of The National Lottery Olympian and Paralympian awards.
Rydyn ni am gadw mewn cysylltiad â chi.
Cyfleoedd Swyddi a Gwirfoddoli
Mehefin 2021
Swyddi
-
Gweinyddwr Prosiectau Amgylcheddol : Newid Hinsawdd - 8 awr y wythnos tan Ebrill 2023
Gwirfoddoli
-
Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â'n Bwrdd. (gwybodaeth isod)
Am fwy o wybodaeth cysylltwch: Katherine Hughes secretary@caerphillyminerscentre.org.uk 029 2167 4242
Mae Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â'n Bwrdd.
Rydym yn elusen gymunedol sy'n eiddo i'r gymuned wedi ei sefydlu i adfer hen Ysbyty Glowyr Caerffili er budd y gymuned. Drwy gynnig gweithgareddau hygyrch, fforddiadwy a pherthnasol, gobeithiwn gefnogi lles, mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, sicrhau gwydnwch cymunedol a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, tlodi ac allgáu economaidd. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn darparu mannau ar gyfer gweithgarwch cymunedol, yn cynnal ein gweithgareddau ein hunain i gefnogi symudedd a rhyngweithio cymdeithasol pobl hŷn, chwarae yn y blynyddoedd cynnar, crefftau plant a garddio, celf a chrefft, dosbarthiadau iaith, caffi cymunedol, a chymorth digidol. Rydym hefyd yn cynnig gweithgareddau allgymorth ac ar-lein ac yn creu prosiect mawr gardd newid hinsawdd a datblygiadau cynaliadwy arloesol.
Rydym yn cefnogi dros 50 o wirfoddolwyr sy'n helpu gyda stiwardio, gweinyddu, rhedeg prosiectau, arlwyo, garddio a gweithgareddau codi arian.
Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu ein lloriau uchaf er mwyn ehangu ein hyb cymunedol, darparu mwy o le ar gyfer gweithgareddau cymunedol, cefnogi ffyrdd newydd o weithio a lletya hyd at 10 busnes newydd.
Rydym yn chwilio'n benodol am ymddiriedolwyr sydd â'r sgiliau neu'r wybodaeth ganlynol:
Sgiliau penodol sydd eu hangen:
-
Profiad datblygu busnes
-
Gwybodaeth am gynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a/neu sgiliau amgylcheddol
-
SGILIAU TG / digidol
-
Sgiliau marchnata
-
Profiad ariannol
Yn ogystal â'r rolau penodol uchod rydym hefyd yn chwilio am ymddiriedolwyr nad oes angen cymwysterau na sgiliau penodol arnynt ond y bydd angen:
-
Deall a derbyn cyfrifoldebau a rhwymedigaethau ymddiriedolwyr
-
Bod yn anfeirniadaethol a pharchu safbwyntiau, gwerthoedd a diwylliannau sy'n wahanol i'ch un chi
-
Cael sgiliau gwrando, llafar ac ysgrifenedig da
-
Gallu arfer barn annibynnol yn dda
-
Cael sgiliau rhifedd da i ddeall cyfrifon gyda chefnogaeth y trysorydd
-
Bod â diddordeb mewn datblygiad cymunedol (cymuned Caerffili yn ddelfrydol)
-
Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant yn eich rôl.
Ar hyn o bryd mae'r Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yn fisol ar-lein.
I wneud cais:
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr, anfonwch gopi o'ch CV gyda llythyr eglurhaol drwy e-bost at secretary@caerphillyminerscentre.org.uk
Dyddiad cau: 14 Mehefin & 26 Gorffennaf 2021
Os hoffech drafod hyblygrwydd o ran lleoliad, amser, 'beth fyddwch chi'n ei wneud' a sut y gallwn eich cefnogi, cysylltwch â ni.
Gwaith cynnal a chadw yng Nghanolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned 🏗👷♂️🧱
Diweddariad ar ein gwaith adfer⚠️
Mae prosiect adfer llawr cyntaf Canolfan y Glowyr ar y gweill. Ymddiheurwn am unrhyw broblem y gallai'r gwaith hwn ei achosi i rai trigolion gerllaw, ond hoffem eich sicrhau ei fod yn brosiect hanfodol sy'n gwneud yr adeilad yn fwy diogel ac addas ar gyfer y tymor hir.
Bydd y prosiect yn adfer rhan adfeiliedig o'r adeilad ac yn ei wneud yn adnodd gwerthfawr er mwynhad ein cymuned.
Er gwybodaeth - bydd y gwaith llychlyd a swnllyd o glirio'r safle yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd y prosiect cyfan yn parhau am 20 wythnos rhwng 8am a 4pm.
Gobeithiwn gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf a byddwn yn hapus i roi taith o gwmpas i unrhyw un a hoffai weld canlyniadau'r prosiect adfer cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Unwaith eto, ni allwn ond ymddiheuro am yr amhariad dros dro.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Katherine Hughes, secretary@caerphillyminerscentre.org.uk 02921 674242
Mainc er cof am Dorothy
Hoffem ddiolch i Joan Garratt am roi'r fainc hon i Ganolfan y Glowyr Caerffili ym mis Rhagfyr 2020 o etifeddiaeth a adawyd gan ei ffrind Dorothy Tilley. Dorothy oedd un o'r rhai cyntaf o'n cymuned i ddod yn aelod o'r prosiect yn 2010. Fe'n cefnogodd ym mha ffordd bynnag y gallai tan ei marwolaeth y llynedd. Mae Joan hefyd yn ffrind mawr i'r Glowyr ac wedi bod yn aelod gweithgar o'r Aeron Aeddfed, y Clwb Sinema a’r Ymarferion Cadair ac yn gefnogwr brwd i'n digwyddiadau.
Bydd y fainc yn dod yn ganolbwynt 'ardal fyfyrio' fel rhan o ddatblygiad gardd newid hinsawdd yn y Glowyr. Gobeithiwn y gall pobl fwynhau'r fainc a'r ardal o’i chwmpas a'i defnyddio fel cyfle i ymlacio a myfyrio ar harddwch natur.
Diolch Joan a Dorothy!
Mainc er cof am Dorothy yng Nghanolfan y Glowyr.
Joan a Dorothy – ym mharti penblwydd Joan yn 90 oed a ddathlwyd yn y Glowyr ym mis Awst 2019.
Chwe Gwlad
Canolfan y Glowyr Caerffili Miners' Centre, Grwp Cymraeg / Welsh Group
Bore da. Mae twrnament rygbi y chwe gwlad wedi dod i ben o'r diwedd. Diolch i bawb a gefnogodd y sweep. Chris Madeley enillodd. Llongyfarchiadau mawr iddo. Mae'r pwyllgor yn diolch i Chris am gyfrannu ei enillion yn ôl at waith y 'Grwp Cymraeg' a thrwy hynny, helpu i godi £245.00 i'r coffre.
6 Nations Rugby Sweep
The Six Nations rugby tournament has come to an end. Thanks to all who supported the sweep. We are pleased to say that Chris Madeley won the competition. Congratulations to Chris. The committee would like to thank Chris for donating his winnings back to the 'Miners Welsh Group' thus helping to raise £245.00 for the funds.
Er Cof am Doreen Ellis
Doreen oedd trysorydd cyntaf Canolfan y Glowyr ac fe sefydlodd a rheoli y cynllun aelodaeth. Gweithiodd yn galed i adeiladu'r agwedd bwysig hon ar yr elusen, ac roedd hefyd yn cefnogi gwaith ehangach y Glowyr a'r gwirfoddolwyr eraill mewn unrhyw ffordd y gallai. Arweiniodd hyn at dderbyn gwobr gwirfoddolwr y flwyddyn yn 2015, i gydnabod ei gwaith caled, ei hymroddiad a'i hymrwymiad, cyn i afiechyd ei rhwystro.
Roedd Doreen yn ffrind mawr i lawer, yn gwnsler doeth ac yn gefnogwr brwd i bopeth a wnaeth y Glowyr, gwnaeth wahaniaeth enfawr i ni i gyd a byddwn yn ei cholli'n fawr iawn.
Hoffem ddiolch i fab Doreen, Ty a'i merch, Julie am enwebu Canolfan y Glowyr Caerffili am roddion er cof amdani. Cododd hyn bron i £500 a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ein "Maes Myfyrio" yn ein Gardd Newid Hinsawdd i’r Dyfodol. Credai Doreen mewn cefnogi'n lleol, roedd hi'n dwlu ar y Glowyr, a bydd ei hetifeddiaeth yn parhau.
Hydref 2020 Toriad Tân
Fel rhan o’r Toriad Tân dros Gymru gyfan, bydd Canolfan y Glowyr Caerffili ar gau o ddydd Gwener 23 Hydref am 6 pm tan Ddydd Llun 9 Tachwedd.
Bydd y clinig osteopathi ar agor trwy gydol y toriad tân.
Byddwn yn parhau i gynnig popeth a allwn ar lein trwy gydol y cyfnod yma a bydd y gweithgareddau canlynol ar Zoom am y pythefnos nesaf.
Llun
Dawns 50+ 1.30-2.30
Dawns o Gadair 2.30-3.30
Sgwrsio yn Gymraeg 3.30-4.30
Dawnsio er mwyn Ffitrwydd 5.00 – 6.00
Ffrangeg 7.00-8.00
Mawrth
Aeron Aeddfed 1.30-3.00
Mercher
Gwella Sbaeneg 7.00-8.30
Iau
Ymarferion Cadair 1.30-2.30
Celf 7.00-8.30
Yn anffodus ni allwn gynnal Stay and Play, Yoga, Slimming World na Phrosiect Ieuenctid Eglwys Gateway.
Rydym yn gweithio’n galed i gynnig cymaint ag a allwn yn ddigidol, rydym yn parhau i gefnogi tiwtoriaid i gynnal gweithgareddau ar Zoom, mae’r prosiect digidol wedi darparu offer ac arweiniad i bobl sydd am gymryd rhan o bell a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i estyn allan at ein cymuned trwy gydol y cyfyngiadau cymdeithasol a’r ynysu personol.
Rydym yn datblygu offer er mwyn cadw mewn cysylltiad â chi a gwerthfawrogwn eich holl ymdrechion chi i gadw mewn cysylltiad â ni, diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Ni fyddwn yn codi tâl am y gweithgareddau yma yn ystod cyfnod y Toriad Tân.
Os hoffech ymuno ag unrhyw weithgaredd ar Zoom cysylltwch â secretary@caerphillyminerscentre.org.uk ac fe ddarparwn ddolen ac arweiniad.
Agor drysau
i gynnwys y rhai a eithriwyd yn ddigidol
Cynhaliodd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned ddosbarth hyfforddi yr wythnos diwethaf ar gyfer yr Aeron Aeddfed, aelodau hŷn Canolfan y Glowyr, ar sut i ddefnyddio tabled i gael mynediad at weithgareddau rhithwir a digwyddiadau Zoom. Mae hyn yn dilyn cam newydd gan Ganolfan y Glowyr i ddechrau cynnal gweithgareddau ar-lein yn dilyn cyfyngiadau cymdeithasol COVID a chyfnod cloi a olygai na allai eu haelodau gyfarfod wyneb yn wyneb mwyach.
Mae llawer o bobl yng nghymuned Caerffili wedi bod yn teimlo'n fwyfwy ynysig, yn unig ac yn bryderus, ond mae llawer wedi bod yn amharod i groesawu cyfarfodydd rhithwir a thechnoleg newydd am amryw o resymau.
Canmolodd Aelod Rhanbarthol y Senedd, Delyth Jewell, Ganolfan y Glowyr am y gwaith y maent wedi'i wneud hyd yma ond cydnabu fod mwy i'w wneud o hyd:
“Mae wedi bod yn dda gweld sut y symudodd y Glowyr yn gyflym er mwyn parhau i ymgysylltu â'u cymuned, mae hyn wedi bod o fudd i gynifer o bobl drwy gydol y cyfnod cloi cychwynnol. Wrth inni symud i gyfnod newydd o gyfyngiadau cymdeithasol mae angen gwneud mwy i gyrraedd y rhai anodd eu cyrraedd, i ddod â mwy o bobl ar y daith ddigidol hon a'n cadw ni i gyd yn gysylltiedig ac yn fwy gwydn. Rwy'n awyddus i rannu'r gwersi a ddysgwyd yng Nghanolfan y Glowyr gyda chymunedau eraill."
Penderfynodd Geraint King, ymgynghorydd cymorth TG lleol yn y Glowyr, sefydlu sesiwn ar gyfer y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol:
"Rwyf am wneud popeth o fewn fy gallu i gefnogi'r rhai nad ydynt wedi gallu ymuno â'r gweithgareddau ar-lein yn y Glowyr. Mae llawer wedi bod yn gweld eisiau eu ffrindiau ac mae angen inni eu cefnogi i chwalu'r rhwystrau technegol ac emosiynol sy'n eu cadw'n ynysig. Penderfynais sefydlu dosbarth i helpu mwy o bobl i fynd ar-lein ac ar Zoom, ac i annog cefnogaeth gan gymheiriaid. Mae wedi bod yn werth chweil a gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwy'n cynllunio mwy o sesiynau dros yr wythnosau nesaf."
Roedd gan y dosbarth cyntaf gymysgedd o alluoedd, rhai â gwybodaeth sylfaenol wedi ymuno i ddysgu mwy; dechreuodd eraill o'r dechrau, nid oedd gan Dorothy brofiad ar-lein, ni ddefnyddiodd e-bost erioed ac nid yw'n berchen ar dabled:
"Roedd y dosbarth cyntaf mor ddefnyddiol, mae wedi rhoi'r hyder i mi roi cynnig ar fwy o bethau ar fy mhen fy hun, ac mae benthyca'r tabled o Ganolfan y Glowyr yn golygu y gallaf ymuno â dosbarthiadau yn y dyfodol o gartref gan nad wyf yn mwynhau gadael y tŷ mewn amodau tywyll a gwlyb ac erbyn hyn mae pryder ychwanegol Covid hefyd. Rwy'n teimlo fy mod wedi cael achubiaeth i gyfleoedd cymdeithasol newydd."
Mae Sue yn aelod arall o'r Aeron Aeddfed sydd wedi croesawu gweithgareddau rhithwir yn ddiweddar yn y Glowyr:
"Rwyf wedi bod yn ceisio gwneud mwy ar-lein gan fy mod wedi bod yn teimlo'n fwyfwy ynysig oddi wrth fy ffrindiau, roeddem yn arfer cyfarfod bob wythnos yn y Glowyr. Rwyf wedi gallu benthyg tabled gyda chyfarwyddiadau hawdd eu defnyddio i gael mynediad i'r ganolfan ar Zoom ac mae'n wych gallu gweld fy ffrindiau a chymdeithasu eto. Roedd y dosbarth gyda Geraint yn ardderchog."
Mae ar lawer o bobl ofn technoleg, ddim yn gwybod ble i ddechrau neu heb yr offer i ddechrau eu taith ddigidol, ond gyda lefelau cynyddol o bryder, iselder, unigedd ac unigrwydd, mae angen i bob un ohonom gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae cynlluniau a rhwydweithiau cymorth ym mhob cymuned. Mae Geraint yn annog pawb i estyn allan:
“Cysylltwch os oes angen cyngor arnoch, rwyf am helpu cynifer o bobl â phosibl i chwalu unrhyw rwystrau i aros mewn cysylltiad drwy’r cyfnod cloi a thu hwnt."
Os ydych wedi'ch lleoli yng nghymuned Caerffili, gallwch gysylltu â Chanolfan y Glowyr i gael cyngor neu gymorth gyda’u gweithgareddau digidol (029 2167 4242 | secretary@caerphillyminerscentre.org.uk) Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r prosiect hwn drwy ddod yn wirfoddolwr digidol, cysylltwch â Geraint King ar digital@caerphillyminerscentre.org.uk
Os ydych am wybod mwy am ba gymorth digidol sydd ar gael yn eich cymuned, gallwch gysylltu â'ch cangen leol o Ganolfan Gydweithredol Cymru (0300 111 5050 | info@wales.coop). “
Bu Canolfan y Glowyr yn ffodus o dderbyn cyllid gan Sefydliad Moondance ar gyfer cymorth ac offer technegol, o ganlyniad cyflogodd y Ganolfan wasanaethau Geraint King, ymgynghorydd cymorth TG lleol. Mae Geraint wedi cefnogi'r symudiad i arlwy hybrid ac yn ddiweddar mae wedi sefydlu sesiynau hyfforddi ar gyfer y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned cysylltwch â:
Katherine Hughes
Y Glowyr, Watford Road, Caerffili CF83 1BJ secretary@caerphillyminerscentre.org.uk | 029 2167 4242
Mae Glowyr Caerffili ar agor
Ynghyd â llawer o sefydliadau eraill, yn ôl ym mis Mawrth 2020 bu'n rhaid i Ganolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned gau ei drysau a symud cymaint o weithgareddau â phosibl ar-lein. Symudodd ddosbarthiadau a digwyddiadau cymdeithasol i Zoom, sefydlodd gynllun cyfeillio ar gyfer pobl fwy ynysig a'r rhai nad ydynt ar-lein a gwnaeth bopeth o fewn ei gallu i barhau i ymgysylltu â'r gymuned.
Gan fod y Llywodraeth bellach wedi symud i gyfnod newydd o gyfyngiadau COVID-19 gall y Glowyr agor i rai grwpiau ac i rai dosbarthiadau, ond mae llawer o'r gymuned yn dal i ddewis cymryd rhan o bell. I'r perwyl hwn mae'r Glowyr wedi penderfynu cynnig ateb hybrid i rai dosbarthiadau a gweithgareddau: croesewir y rhai a all fynychu yn bersonol (a fydd tua thraean o'r niferoedd blaenorol oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol) yn ôl i’r Ganolfan, tra gall eraill ymuno ar-lein.
Yn ogystal, ym mis Gorffennaf lansiodd y Glowyr apêl i godi arian ar gyfer gazebo mawr, sy'n galluogi dosbarthiadau awyr agored ar gyfer yr hen a'r ifanc. Codwyd bron i £1000 diolch i gefnogaeth hael gan y gymuned, ac maent eisoes wedi cynnal grwpiau aros a chwarae i blant, cymdeithasu i’r Aeron Aeddfed, digwyddiad Vera Lynn a dosbarthiadau dawns yno.
Mae'r newid i gynllun hybrid wedi cael ei groesawu gan athrawon dosbarth yn ogystal â'r gymuned. Mae Ceri Griffiths yn cynnal dosbarthiadau Ffrangeg yn y Glowyr ac mae wedi cofleidio'r newid i gael cymysgedd o gyfranogwyr ar-lein a'r rheiny sy'n mynychu yn bersonol:
“Rwy'n falch iawn o allu cynnig dosbarthiadau Ffrangeg i'r rhai sydd am ddod i’r Glowyr yn ogystal â'r rhai sydd am ymuno o'u cartrefi. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cynnig y dewis i bobl ac mae Canolfan y Glowyr wedi symud yn gyflym er mwyn gallu rhoi'r dechnoleg ar waith i wneud hyn, ac fel athrawes rwyf am sicrhau bod fy holl fyfyrwyr yn ddiogel ac yn hapus. Mae mor gyffrous, bydd ein dosbarthiadau hybrid yn cychwyn ar y 7fed o Fedi, cysylltwch â ni os ydych am ymuno neu ddarganfod mwy."
Mae Ceri Jenkins yn aelod o'r dosbarth celf sydd wedi bod yn cyfarfod ar-lein am rai wythnosau ac yn ddiweddar hefyd wedi cynnig rhai dosbarthiadau awyr agored o'r gazebo:
"Mae'n dda ein bod yn dal i allu cynnal ein dosbarthiadau a phenderfynu drosom ein hunain a ydym am fynychu yn bersonol neu gymryd rhan ar-lein. Mae'n hyfryd teimlo'n rhan o weithgaredd grŵp a gwybod y gall y rhai mwy bregus yn y grŵp ymuno o gartref. Dyma'r ffordd y bydd mwy o bethau'n symud yn awr ac mae'n wych gweld cynifer o aelodau hŷn y dosbarth yn defnyddio Zoom.”
Mae Canolfan y Glowyr yn agor dosbarthiadau newydd bob wythnos, o weithgareddau'r plant, i ymarfer corff a dosbarthiadau iaith, digwyddiadau cymdeithasol a ffitrwydd i deuluoedd ar ddydd Gwener! Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ei gwefan: www.caerphillyminerscentre.co.uk/visiting
Mae Wayne David, AS Caerffili, sy’n Ymddiriedolwr yng Nghanolfan y Glowyr yn teimlo bod y cydbwysedd cywir rhwng cynhwysiant a diogelwch wrth wraidd y cynnig hybrid:
"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn cael cyfleoedd i ryngweithio'n gymdeithasol, hynny oedd y tu ôl i'r penderfyniad i agor y Glowyr cyn gynted ag y byddai'n ddiogel gwneud hynny. Ond gyda chynifer o'n cymuned yn dal i gysgodi, mae'r swyddogaeth hybrid yn golygu y gall pobl gyfarfod yn rhithwir ac yn bersonol. Mae hyn mor bwysig i'r rhai sydd wedi cael eu hynysu ac mewn angen cyfarfod â ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Byddwn yn gwneud ein gorau i barhau i ddwyn Cymuned Caerffili ynghyd.”
MAE'R GAZEBO YN EI LE! 27/07/2020🎈🎉
Crewyd apel codi arian trwy wefan Local Giving er mwyn prynu gazebo er lles ein cymuned. Yr amcan oedd darparu mwy o ofod awyr-agored ar gyfer y grwp Stay and Play a gweithgareddau eraill yn y Ganolfan yn ystod y pandemig.
Diolch i Ann, Lisa, Mark, Kate, Ben, Geoff, Hoppy, Jayne, Sue, Karen, John a Katherine. Ffitiodd y gazebo yn berffaith ar y borfa ffug! Gofod gwych dan do a ddylai ein helpu trwy gydol yr haf. DIOLCH YN FAWR i'n noddwyr ac i'r gymuned am eu cefnogaeth. Edrych ymlaen at ddydd Iau, Gorffennaf 30 pan fyddwn yn agor! 🎈🎈🎉🎉
Efallai ein bod yn hunan-ynysu, ond fu erioed fwy o gyswllt
Te prynhawn Diwrnod VE yn y Glowyr – dathlu ar Zoom
Ar gyfer diwrnod Calan Mai, bu Canolfan y Glowyr Caerffili yn treialu te prynhawn dros Zoom i rai o'u cymuned, roedd hyn yn eithaf llwyddiannus ond roedd sawl problem dechnegol gan fod y rhan fwyaf o'r grŵp ond yn dechrau mynd i'r afael â'r dechnoleg newydd hon.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae tîm y Glowyr wedi bod yn gweithio gyda gwahanol aelodau o'r grŵp Aeron Aeddfed, er mwyn eu helpu i ddatrys unrhyw broblemau technegol ac i alluogi grŵp sy'n cael ei herio'n dechnegol i ymuno â'r te prynhawn ar ddiwrnod VE.
Dywedodd Katherine Hughes, Ysgrifennydd y Glowyr:
"Mae'r digwyddiadau cymdeithasol hyn yn bwysig iawn i'n haelodau gan eu bod yn dod ag unigolion ynysig at ei gilydd ac yn rhoi rhywbeth iddynt edrych ymlaen ato. Mae problemau wedi bod gyda'r dechnoleg, yn ogystal â deall etiquette digwyddiad cymdeithasol ar-lein, ond mae'r cyfan yn werth chweil pan welwch chi'r wên ar wynebau ein haelodau".
Bu dwy o aelodau hŷn y grŵp yn sôn am eu hatgofion o ddiwrnod VE 75 mlynedd yn ôl; mae Dorothy yn cofio dathlu a dawnsio ar y stryd ac mae Joan yn cofio ei thad oedd wedi gwasanaethu yn ystod y ddau ryfel byd.
Rhannodd eraill eu hatgofion a'u lluniau o'u rhieni, nid oedd rhai teuluoedd yn dathlu ar ddiwrnod VE gan fod tadau'n dal i wasanaethu dramor, ond roedd canu yn rhan fawr o'r profiad a rannwyd.
Yna, symudodd y parti ymlaen i drafod yr hyn yr oedd y grŵp wedi'i gynllunio ar gyfer gweddill y dydd, gweithgareddau'n cynnwys canu caneuon ar y stryd, partïon te prynhawn, ymuno â chymdogion o bell, roedd llawer wedi cwrdd â chymdogion newydd ac yn edrych ymlaen at bartïon stryd unwaith y bydd y cyfyngiadau'n caniatáu, i gadarnhau cysylltiadau hen a newydd.
Allan o'r 15 o bobl a fynychodd y te parti, roedd wyth ohonyn nhw o gwmpas ar ddiwrnod VE, felly roedd cael y cyfle yma i ddathlu a chofio gyda'i gilydd yn bwysig iawn. Rhannodd Liz a Sue luniau o'u tadau yn ystod y rhyfel ac fe ddaeth eraill â baneri, gwaith celf, cacennau a llu o'u heitemau pwysig.
Meddai Sue:
"Roedd hi mor hyfryd cael cyfle i sôn am fy nhad a rhannu ei lun. Roedd yn y Signalau Craidd Brenhinol, tra bod tad Liz yn yr Awyrlu. Mae'r dechnoleg yn newydd i mi ond mae'n bwysig iawn i wneud i ni deimlo mwy o gysylltiad, yn enwedig pan na allwn ni gwrdd yn gorfforol."
Y bwriad yw trefnu mwy o de prynhawn ar ddyddiau Gwener, a chais ar gyfer thema'r wythnos nesaf yw 'Beth rydym wedi'i ddarganfod yn ystod gwaith didoli yn y cyfnod hunan-ynysu '. Mae Canolfan Glowyr Caerffili hefyd yn trefnu nifer o gyfarfodydd grŵp llai gan gynnwys lle i'r grŵp garddio gyfarfod ac mae'n bwriadu cynnal rhai gweithgareddau a dosbarthiadau ar-lein.
O gymunedau ym mhob cwr o'r rhanbarth a'r wlad, mae'r neges yn dod drwodd bod pobl yn fodlon cofleidio technoleg, waeth pa mor anodd neu frawychus, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau i weld eu ffrindiau a'u teulu.
Ydych chi’n byw yn ardal Caerffili? Oes gyda chi ddiddordeb mewn rôl wirfoddol i helpu’r gymuned?
Mae Canolfan y Glowyr Caerffili yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd i’w helpu i redeg yr elusen. Mae ymddiriedolwyr yn bwysig iawn i elusen fach fel y Glowyr, yn arbennig yn ystod y cyfnod cythryblus yma.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n teimlo’n gryf am eu cymuned, sydd eisiau rhoi rhywbeth nôl mewn dull strategol ac sydd, yn ddelfrydol, yn gallu ymrwymo i gyfnod o dair blynedd.
Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr, Cadeirydd y Bwrdd, Is-gadeirydd ac Ysgrifennydd Cynorthwyol. Mae arnom angen pobl gydag ystod o sgiliau gwerthfawr a phrofiad all gyfoethogi ein tîm bach ond ymroddedig, yn cynnwys TG a Digidol, Adnoddau Dynol, Marchnata, Busnes a siaradwyr Cymraeg ond byddwn yn croesawu sgiliau eraill hefyd.
Mae ein bwrdd cyfredol yn grwp bach ond ymroddedig: hoffem ehangu’r tîm fel y gall yr elusen sicrhau ei chynaliadwyedd tymor hir yn ogystal â sicrhau bod gennym bobl gydag ystod o sgiliau i gefnogi gwaith caled staff a gwirfoddolwyr y Ganolfan.
Yn ystod y cyfnod hwn o newid ac ansicrwydd, mae llawer o bobl yn chwilio am ffyrdd o roi rhywbeth nôl neu o gael cysylltiadau dyfnach gyda’u cymuned. Efallai i chi gael eich geni yng Nghanolfan y Glowyr pan oedd yn ysbyty. Efallai bod gennych fwy o amser ar gyfer gwirfoddoli. Efallai yr hoffech helpu eraill trwy rannu eich arbenigedd.
Mae bod yn ymddiriedolwr yn brofiad sy’n rhoi boddhad ar gymaint o lefelau; gallwch helpu llywio cyfeiriad strategol elusen, cefnogi’r tîm llywodraethol a’u helpu trwy’r amserau heriol sydd o’n blaen ni i gyd. Mae bod yn aelod o fwrdd yn eich gwreiddio yn y gymuned, daw ymddiriedolwyr eraill yn gysylltiadau newydd o nifer o fydau gwahanol.
Ein Bwrdd:
-
Jeff Cuthbert, Cadeirydd Gweithredol
-
Katherine Hughes, Ysgrifennydd y Cwmni
-
Amy Alexander, Trysorydd
-
Ann Lewis, Diogelu a Swyddog yr iaith Gymraeg
-
Glenda Burnett, Ymddiriedolwr
-
Wayne David AS, Ymddiriedolwr
-
Rob Bleach, Ymddiriedolwr
-
Stuart Elliott, Ymddiriedolwr
-
Lynette Elliott, Ymddiriedolwr
Oso es diddordeb gyda chi, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Katherine Hughes ar:
secretary@caerphillyminerscentre.org.uk | 029 2167 4242
DYDDIAD CAU: 22 Mai 2020.
Aur y Dydd - Gold of the Day 1/4/2020
Ar ddydd Mercher, Ebrill 1, derbyniodd Canolfan y Glowyr wobr Aur y Dydd gan Aled Hughes ar Radio Cymru. Roedd hyn am yr holl waith sy’n cael ei wneud gan gymaint o unigolion er mwyn parhau i gefnogi’n cymuned yn ystod y cyfnod anodd yma. Roedd Aled Hughes yn rhyfeddu i ni gyflawni cymaint mewn cyn lleied o amser. Rhoddodd Ann Lewis gyfweliad ar ran Canolfan y Glowyr ac fe ddwedodd mor falch yw hi o bawb sy’n gysylltiedig â’r gwaith, yn enwedig y gwirfoddolwyr sy wedi parhau i fod yn ymroddgar trwy’r amserau caled yma.
Hoffem rannu’r cyfweliad radio gyda chi i ddangos ein bod yn gwerthfawrogi pob dim rydych yn ei wneud.
Diolch yn fawr i chi i gyd!
Mae gardd newid hinsawdd yn cael ei gymerodwyo gan Iolo Williams 21/4/2020
Mae Canolfan y Glowyr Caerffili wedi dechrau prosiect uchelgeisiol i wynebu’r newid yn yr hinsawdd, gardd i’r dyfodol. Daeth cyfle i gychwyn y prosiect trwy 'The National Lottery Community Fund' sy’n fodd i annog cymunedau i addasu ar gyfer Newid Hinsawdd.
Y syniad oedd addasu darn o dir gwag o flaen y Ganolfan Gymunedol yn enghraifft o ‘Ardd i’r Dyfodol’, yn cynnwys mewnbwn y gymuned leol yn y gobaith y dysgir gwersi y gellir eu rhannu ledled yr ardal.
Ers mis Tachwedd 2019, mae’r Ganolfan wedi cynnal tri gweithdy Newid Hinsawdd yn cynnwys gwahanol grwpiau lleol ac arbenigwyr er mwyn datblygu cynllun. Cafwyd cyflwyniad ar y sialens a’r atebion posibl gan David Thorpe, academydd ac ymarferydd newid hinsawdd; cawsom syniadau Fforwm Ieuenctid y Ganolfan, ac fe droiodd Fiona Cloke, Pensaer Tirwedd lleol, y blaenoriaethau yn gynllun terfynol (gw. isod).
Mae‘r gwirfoddolwyr gardd yn cynnwys rhai â gwybodaeth o hanes y safle (ysbyty ag ystod o adeiladau ychwanegol) a phobl o’r ardal sydd am ddysgu a chefnogi menter newid hinsawdd leol.
Nawr bod saib yn natblygiad y prosiect, bydd angen ystyried plannu mewn tymor gwahanol, ond bydd y prif elfennau yn parhau; yn cynnwys llyn bach, maes blodau gwyllt, cychod gwenyn, gwelyau plannu uchel ac ardaloedd ar gyfer ffrwythau a llysiau.
Mae Iolo Williams, y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu adnabyddus wedi canmol y prosiect:
“Mae’n wirioneddol bwysig cysylltu pobl â’u hamgylchedd leol, ac mae Gardd i’r Dyfodol yng Nghaerffili yn gwneud hynny a mwy. Mae addysgu pobl trwy brosiect cymunedol yn rhoi sgiliau a hyder y gallwn eu defnyddio gartref. Mae gweithredu’n lleol yn allweddol i liniaru’r argyfwng hinsawdd, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi ein hamgylchedd heddiw, er ein lles ein hun ac ar gyfer cenedlaethau i ddod. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut fydd yr ardd yn datblygu.”
Mae Katherine Hughes, ysgrifennydd y Ganolfan yn pwysleisio bod y gweithdai i gynllunio’r prosiect eisoes wedi dylanwadu ar rai o’r gwirfoddolwyr:
“Mae llawer o’r gwirfoddolwyr a ddaeth i’r gweithdai wedi dweud eu bod eisoes yn defnyddio rhai o’r arferion mwy cynaliadwy a ddysgwyd, yn cynnwys caniatáu dull mwy naturiol o dyfu pethau, o ran y dewis o blanhigion, arbed dŵr a llai o balu. Mae ein gwybodaeth o newid hinsawdd wedi datblygu yn barod, ac rydym yn awyddus i fynd ati cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.”
Mae rhai sylwadau gan wirfoddolwyr yn dangos gwerth y prosiect hyd yn oed yn y cyfnod cynllunio:
-
Dw i nawr yn ystyried cynllunio’r ardd ar gyfer newid hinsawdd – Ann
-
Yn gobeithio cynnwys coed ffrwythau bychain a llwyni yn yr ardd ac efallai rhyw elfen gyda dŵr i annog bywyd gwyllt – Louise
-
Byddaf yn ystyried gorchuddio’r ardd (mulching) ac efallai sefydlu compost – Dawn
-
Rydym yn dewis a dethol y planhigion mwyaf addas - Colin a Sue
-
Caniatáu dull mwy naturiol o dyfu pethau h.y. llai o balu a throi’r tir. Gwell gadael i natur wneud hynny – Ken
-
Rwy’n hapusach yn derbyn nad oes rhaid i’r ardd fod yn daclus i ddenu bywyd gwyllt a phryfed – Liz
-
Rwy’n meddwl mwy am arbed dŵr yn yr ardd ac yn ymwybodol bod hon yn broblem fyd-eang – Louise
-
Dw i wedi dysgu nad yw’r newid yn yr hinsawdd yr un fath ym mhob rhan o’r byd o angenrheidrwydd, a bod rhaid i bob ardal asesu beth sy’n newid ac addasu fel canlyniad i hynny - Liz
Os hoffech fod yn rhan o brosiect Gardd i’r Dyfodol,
cysylltwch â’r Ganolfan os gwelwch yn dda:
Katherine Hughes | 02921 674242
secretary@caerphillyminerscentre.org.uk
@CaerphillyMCC
Gwirfoddolwyr Caerffili yn darganfod ffyrdd newydd o gefnogi eu cymuned 27/3/2020
Gwirfoddolwyr yw calon elusen Canolfan Y Glowyr. Onibai am rai sy’n gwirfoddoli fel stiwardiaid, arlwywyr, cyd-lynwyr a llu o swyddi eraill, ni allai’r ganolfan gynnig yr ystod o gyrsiau cymunedol, hyfforddiant a gweithgareddau sy ar gael.
Nawr bod drysau’r hen ysbyty ar gau, mae rhith-ddrysau wedi agor. Mae’r ganolfan yn creu mwy a mwy o syniadau ar gyfer eu tudalen we ‘Pethau i’w gwneud gartref.’ Mae gwirfoddolwyr yn rhannu syniadau, negeseuon a chyngor yn ogystal â chefnogi aelodau o’r gymuned leol. Mae eu gwaith yn parhau i wella ansawdd bywyd pobl.
Diolchodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu Gwent ac ymddiriedolwr yng Nghanolfan y Glowyr i’r holl wirfoddolwyr sy wedi bod, a sy’n dal i fod, yn cefnogi’r gymuned leol:
"Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithio gyda’n gwirfoddolwyr i gefnogi’r rhai â’r anghenion mwyaf yn ein cymuned. Mae Canolfan y Glowyr wedi gosod cymaint â phosibl ar y we ac mae gwirfoddolwyr yn allweddol i bob gweithgaredd. Hoffwn ddiolch iddyn nhw yn bersonol am eu hymroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Mae Ysgrifennydd y Ganolfan, Katherine Hughes, yn gweithio’n agos gyda’r gwirfoddolwyr i’w cefnogi fel y gallan nhw gefnogi eraill:
"Os na ofalwn ni am y gwirfoddolwyr, yna allwn ni ddim helpu’r gymuned. Mae ein gwirfoddolwyr yn bwysicach nag erioed, ac rydym am sicrhau eu bod yn deall ein bod yn eu gwerthfawrogi. Mae gyda ni dîm gwych o wirfoddolwyr a hoffem iddynt barhau i’n cefnogi ac i fod yn awyddus dychwelyd atom."
Rhannodd rhai gwirfoddolwyr eu syniadau a’u profiad:
"Mae’r ganolfan yn bwysig i mi. Ces i ngeni yno 23 mlynedd yn ôl ac mae gwirfoddoli yno yn gwneud i mi deimlo’n rhan o’r gymuned." – Sinead
"Mae cefnogaeth a chyfeillgarwch cyd-wirfoddolwyr yn ystod blynyddoedd anodd iawn wedi bod yn wych ac rwy’n ei werthfawrogi’n fawr.” - Marion
"Mae gwirfoddoli wedi rhoi cyfle amhrisiadwy i mi ddarparu a chefnogi gweithgareddau Cymraeg o fewn y gymuned ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Bu’n brofiad cynhyrchiol a gwerthfawr sy wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â, a chymdeithasu gyda ffrindiau newydd yn y gymuned, ac mae hynny’n cyfoethogi fy mywyd." - Nia
Hoffai’r ganolfan i eraill feddwl am gysylltu â’r prosiectau newydd sydd ar y gorwel. Mae cynlluniau ar gyfer ‘Gardd Newid Hinsawdd ar gyfer y Dyfodol’ fydd yn dechrau cyn gynted ag y curwn y pandemig. Dyma beth fydd ei angen ar bobl Caerffili wedi wythnosau yn y tŷ; gweithgaredd yn yr awyr agored, yn creu, plannu, tyfu, i ddod â’r gymuned ynghyd a chreu gardd ar gyfer y dyfodol, ein dyfodol ni.
Canolfan y Glowyr Caerffili yn cefnogi’r gymuned trwy ddrysau caeëdig 20/3/2020
Yng nghyd-destun pandemig y Coronafeirws, mae Canolfan y Glowyr wedi cau ei drysau fel llawer i sefydliad ledled y wlad, wrth i nifer o wirfoddolwyr, staff a defnyddwyr y Ganolfan orfod hunan-ynysu.
Mae’r Ganolfan fodd bynnag yn chwilio am ddulliau newydd o gefnogi’r gymuned ac mae newydd lansio ymarferion dawns 50+ fel profiad ar y we. Mae Beth, athrawes y dosbarth wedi gosod yr ymarferion ar y we er mwyn ceisio cael pobl i symud a chynnal eu diddordebau yn ystod yr hunan-ynysu.
Dwedodd yr ymddiriedolwr a’r aelod seneddol lleol Wayne David :
“Mae Canolfan y Glowyr wedi rhoi’r gymuned wrth galon popeth a wnawn. Mae angen i ni gadw mewn cyswllt â’r gymuned nawr yn fwy nag erioed o’r blaen. Gall pobl, hen ac ifanc, fynd yn bryderus iawn yn ystod y fath amserau anodd, ac mae ynysu cymdeithasol yn arwain at or-bryder, unigrwydd ac iselder. Rydym yn meddwl yn gyson am ddulliau o ddod â phobl ynghyd, a’n hymarferion ar y we yw’r fenter gyntaf o gyfres.”
Daw mwy a mwy o ddulliau technolegol o gysylltu pobl â’i gilydd i’r golwg yn ystod y misoedd nesaf, mae cymunedau hefyd yn cydweithio ac yn darganfod dulliau newydd o ddal cysylltiad.
Mae Ysgrifennydd y Ganolfan, Katherine Hughes, yn gofyn i unrhywun mewn angen gysylltu:
“Efallai bydd ein drysau ar gau am gyfnod, ond rydym wedi agor ffyrdd eraill o gysylltu, mae arnom eisiau estyn dwylo i’r gymuned ym mhob ffordd bosibl. Defnyddir ein hystod o sianeli cyfrwng cymdeithasol i gyd er mwyn estyn allan at grwpiau gwahanol. Ailgyfeiriwyd ein ffôn hefyd fel y gallwn ateb galwadau pan fydd pobl am siarad â ni.”
Mae’r Ganolfan nawr yn paratoi ystod o weithgareddau a dosbarthiadau yn barod i ‘gyfoethogi’r gymuned’ unwaith y gall y drysau agor eto. Mae cynlluniau ar gyfer prosiect garddio newydd ar y gweill a bydd Tai Chi, corau, yoga, crefftau, myfyrio, clybiau iaith, grwpiau rhieni a phlant bach oll yn disgwyl aelodau.
Yn y cyfamser, caiff mwy ei wneud o bellter fel mae Beth yn egluro:
“Rwy wedi bod yn dysgu dawns ac ymarfer o gadair yn y Ganolfan ers misoedd lawer. Rwy’n falch iawn y gallwn gynnig hyn ar y we i wneud yn siwr bod ein haelodau rheolaidd yn cadw’n iach, tra’n gobeithio annog aelodau newydd i ymarfer tra’n hunan-ynysu. Mae’n lles i’r galon a’r meddwl.”
Mae’r Ganolfan wedi datblygu ei gwefan a bydd gweithgareddau newydd ar: www.caerphillyminerscentre.co.uk/upcoming-events