top of page
Lles

Gofalu am eich llesiant

Free daily resources children.jpg
Home schooling.jpg

Amy Alexander - Trysorydd

Gwaith Celf Plant yn ystod Cyfnod Hunan-ynysu

neelie rainbow

Flynn, 5 oed & Mam Enfys ar wydr

Teddy Bear
eve's kids pic

Tilly - 6 oed Cerdyn ar gyfer nyrs GIG

vj pic

Vijay, 8 oed Anghenfilod brawychus!

artwork mia

Mia, 2 oed & Mam Bwnni Pasg a cherdyn

sanj pic

Sanjeev - 11 oed Hwyl gyda chymeriadau cartŵn a gêm

Paentio/addurno cerrig : Dyma weithgaredd hawdd i blant yn defnyddio paent poster neu ludio addurn gyda glud pva. Gwnaed yr enghreifftiau lliwgar yma gan blant yn ein sesiynnau Sadwrn Crefft a Ffilm i Blant.

snail-cartoon-publicdomain_edited.jpg

Hwyl gyda Malwod

snail-cartoon-publicdomain_edited.jpg

Mae fy mab Flynn yn dwlu ar falwod ar hyn o bryd, mae gyda fe ryw filiwn mewn tanc!  Rydym hefyd wedi bod yn casglu cregyn malwod gwag, tynnu’r croen fel papur sy drostynt a’u brwsio ag olew. Maen nhw’n edrych fel newydd. Mae hyn wedi diddori Flynn am gryn amser.

Neelie Davies 

Pasg 2020

Plentyn lleol 7 mlwydd oed wnaeth yr het Basg hyfryd yma.Fe ddarparon ni hetiau gwellt a deunyddiau i’w gludio arnyn nhw – rhubannau, papur tisw, blodau ayyb. Efallai y gallech chi fod yn ddyfeisgar gartref a danfon lluniau i ni eu rhannu?

easter bonnet.JPG

Crefftau Pasg
Mae’r crefftau yn targedu oedran 3-8. 
•    Gwneud bocs cyw ar gyfer wy Pasg
•    Gwneud plât celf cyw wedi gwnio 
•    Gwneud cerdyn Pasg  

Chick
Rabbits
cakes.jpg

Pobi i blant heb flawd
Gan Rachel Beckwith – Golygydd Teulu
Pan fydd angen difyrru’r rhai bach yn y tÅ· ond does dim blawd gyda chi, treiwch y rysetiau hawdd yma ar gyfer prynhawn o hwyl yn y gegin.
Crispy chocolate fridge cake 

www.bbcgoodfood.com/writer/rachel-beckwith

Mae help ar gael

Gall rhieni gael seibiant, neu ymuno â’u plant mewn sesiynnau dyddiol Ymarfer Corff ar y we. Mae 'P.E. with Joe' ar gael bob dydd, am ddim o’i sianel youtube: www.youtube.com/user/thebodycoach1
 

Ac os ydych yn chwilio am ffordd o ymlacio, gallwch gael person enwog i ddarllen stori cyn mynd i’r gwely: www.bbc.co.uk/cbeebies/shows/bedtime-stories

 

Syniadau eraill:
•    Gofynnwch i Tadcu/Mamgu neu ffrind ddarllen stori ar Skype  (neu messenger, WhatsApp, Facetime ayyb). Fel hyn, gallant fod yn rhan o’ch trefn ddyddiol.

Danfonwch syniadau sy wedi eich helpu chi atom, os gwelwch yn dda fel y gallwn eu rhannu gydag eraill. Ebostiwch: secretary@caerphillyminerscentre.org.uk neu cysylltwch trwy’r cyfryngau cymdeithasol
.

PE with Joe.png

Pethau addysgiadol ar You Tube & Netflix

 

Dr Binocs – Shoe wyddonol wych. (You Tube)

​

​https://www.youtube.com/user/Peekaboo/videos

​

The Magic School Bus – Sioe wyddonol (Netflix)

​

​https://www.netflix.com/gb/title/70264612

​

Ask the Storybots – Cyfres wyddonol sy’n hwyl (Netflix)

​

​https://www.netflix.com/gb/title/80108159

 

Sioeau Leap Frog  - Saesneg – llythrennau a’u sain (Netflix)

​

​https://www.netflix.com/gb/title/60032588

​

Word Party - Saesneg – Geiriau & Sillafu (Netflix)

​

​https://www.netflix.com/gb/title/80063705

​

Chwiliwch am weithgareddau Cymraeg i blant o bob oed : www.amam.cymru

220_F_98221076_SLZYq2H8HeKXNINVp9z2Kix0x


Eich syniadau chi...

 

  • Gwnewch le i’ch plentyn yn eich ardal waith. Rhowch ddesg i’r plentyn a gwaith celf a chrefft neu gwnewch le iddynt chwarae’n dawel gyda’u tegannau. Eglurwch mai dyma’ch amser gwaith a’i bod yn bwysig cadw’n dawel

  • Gwnewch gynllun ar gyfer y dydd.  Mae plant yn dwlu ar rwtîn. Trefnwch alwadau pwysig a chyfarfodydd yn ystod amser cysgu eich plentyn.Os yw’r plentyn yn rhy hen i gysgu yn ystod y dydd, trefnwch amser chwarae tawel pan allant ddarllen neu chwarae’n ddistaw.

  • Trefnwch sgwrs ar Skype neu Facetime gyda Mamgu a Tadcu a mwynhewch gwrdd anser cinio, darllenwch, sgwrsiwch, canwch neu ddawnsio! Efallai gall mamgu a tadcu ddysgu sgil iddyn nhw ar lein.

  • Ffeindiwch gymunedau ar lein i sgwrsio â rhieni eraill am sut maen nhw’n ymdopi.

  • Gweithiwch oriau gwahanol a rhyfedd! Codwch yn fore am 4am i weithio neu gweithiwch yn hwyr yn y nos. Gall y rhiant arall gyfnewid a rhannu oriau gwaith a dyletswyddau gwarchod yn ystod y dydd. 

  • Trefnwch weithgareddau heb fod angen eu goruchwylio : hoff raglenni, gemau ar y we, gemau/apps addysgiadol. Ar gyfer plant hÅ·n mae’r platfform ysgol, darllen, ysgrifennu, gwylio teledu addysgiadol a Minecraft lle gallant sgwrsio gyda ffrindiau ysgol.

bottom of page