Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Cefnogwch ni
Gallwch chi wneud gwahaniaeth
Apêl Ffair Nadolig a gweithgareddau’r plant
​
Rydym yn codi arian ar gyfer Ffair Nadolig i blant o gymuned Caerffili. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at ffair gyda Sion Corn ac anrheg i bob plentyn sy’n dod, yn ogystal â gweithgareddau mwy eang i’r plant yn cynnwys dosbarth crefft, gweithgareddau aros a chwarae a phrosiect garddio.
Gobeithiwn godi £1000 y mis yma fel y gallwn drefnu’r Ffair Nadolig a’r gweithgareddau gyda’r bwriad o gefnogi 100 o blant.
Cyfrannwch beth allwch chi os gwelwch yn dda. Byddwn yn rhannu lluniau a newyddion ar ein gwefan
Rydym yn dibynnu ar haelioni ein cymuned ac yn ddiolchgar am bob cyfraniad.
Diolch yn fawr!
Cyllido Torfol Chwefror & Mawrth 2021 Cynhwysiant symudedd ar gyfer ein henoed gwerthfawr
Er mwyn gwella symudedd a llesiant ein haelodau hÅ·n drwy ddawns ar-lein, dawns mewn cadair ac ymarferion mewn cadair, rydym yn apelio am gyllid. Yr hyn rydym yn anelu at ei wneud yw:
​
Cysylltu trwy weithgareddau
Rydym am annog ein pobl hÅ·n i fod yn fwy egnïol, tra'n cymdeithasu, drwy ein dosbarthiadau dawns ac ymarfer corff ar-lein o gysur eu cartref eu hunain. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol ehangach.
​
Yng Nghanolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned...
rydym yn darparu'n anghymesur ar gyfer pobl sydd heb drafnidiaeth, wedi'u hynysu'n gymdeithasol ac wedi'u hallgáu'n ddigidol. Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn arbennig o galed ar y grŵp hwn, yn enwedig yr henoed, gyda llawer yn sôn am eu morâl isel, gorbryder ac unigrwydd.
Rydym am ddefnyddio'r arian hwn i gynnal cyfres o ddosbarthiadau dawns a ffitrwydd AR-LEIN ar gyfer ein haelodau hÅ·n - dawns mewn cadair, dawns i bobl dros 50 oed ac ymarferion ffitrwydd. Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn arbennig o galed ar y grŵp hwn, yn enwedig y rhai mwyaf oedrannus, ac rydym am eu hannog i fod yn fwy egnïol, tra'n cymdeithasu, drwy ein dosbarthiadau dawns ac ymarfer corff ar-lein o gysur eu cartref eu hunain. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol ehangach.
​
Rydym am allu trefnu cyfres o weithgareddau yn ymwneud â symudedd sy'n canolbwyntio ar ein haelodau hÅ·n; mae gan lawer fynediad i dabled ac wedi dechrau ymuno yn ein sgyrsiau wythnosol ar-lein. Mae gennym ddau athro rhagorol a arferai ddysgu'r gweithgareddau hyn yn y Ganolfan. Bydd yr arian a godwn yn mynd i'w talu i gynnal cyfres o ddosbarthiadau ar gyfer ein haelodau hÅ·n fydd yn rhad ac am ddim i ymuno â nhw. Byddwn hefyd yn hyrwyddo hyn ledled ein cymuned ehangach yn y gobaith o ddenu hyd yn oed mwy o bobl hÅ·n ac wedi'u hallgáu sydd angen gweithgareddau, ymarfer corff a ffrindiau newydd.
Appeal for our winter garden
Caerphilly Miners Centre Garden Appeal
We are appealing for donations to help our environment as well as the mental, emotional, and physical wellbeing of our community.
We have designed a climate change garden which will enable our gardening club volunteers to get stuck in over the coming winter months, it will help their physical and mental wellbeing as well as hopefully contribute to the wellbeing of all who pass by and visit the Miners Centre.
The plants have been selected for their properties for example a mix of pollinators, long flowering, hardy, perennials, plants that change colour and appeal to our senses.
Having an attractive front garden will enhance the wellbeing of our whole community and the design will last for years to come.
We include a list of plants below and are hoping to fill the front beds initially. Would you be able to contribute?
If so please give through our appeal page: localgiving.org/wintergarden
Plant List and Approximate Price to create 2 identical borders.
​
Box Holly £22.00 per plant
Whirling Butterflies £8.00
Firetail £8.99 per plant
Goldsturm £14.99
Aureomarginata £30.00 per plant
Verbena bonariensis £8.00
Rhoi cyfraniad ariannol
Mae ein sefydliad bob amser yn gwerthfawrogi haelioni a chymorth pobl fel chi; bydd pob cyfraniad yn mynd tuag at wneud Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned yn Sefydliad Di-elw sydd hyd yn oed yn well nag ar hyn o bryd. Hoffem i chi gael gwybodaeth gywir ac addas ar gyfer eich dull o gefnogi, felly peidiwch petruso cysylltu â ni gyda'ch cwestiynnau.
Please help us raise awareness and secure funding for the Miners Centre so that we can support our community during the difficult months ahead.
​
​
​
​
​
​
​
Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth ac i sicrhau cyllid ar gyfer Canolfan y Glowyr fel y gallwn gefnogi ein cymuned yn ystod y misoedd anodd i ddod.