top of page
1.jpg

Am bron i 90 mlynedd bu Ysbyty’r Glowyr Caerffili yn gwasanaethu ein cymuned leol; man lle cafodd bywyd ei achub, lle dechreuodd bywyd, a lle collwyd bywyd – rydym am achub y straeon eithriadol hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

 

Yn wreiddiol yn breswylfa breifat, cododd glowyr lleol arian i brynu 'The Beeches' a'i droi'n ysbyty i lowyr a'u teuluoedd. Yn 1948 daeth yr ysbyty yn rhan o'r GIG, dyna pryd cymerodd yr adeilad rôl ehangach, lle o bwys i'r gymuned ehangach, fel ysbyty prysur, gan ehangu o ran maint ac arbenigedd. Ganed llawer o aelodau ein cymuned yma, ganed eu plant a hyd yn oed eu hwyrion a'u hwyresau o fewn i’n muriau. Mae'r adeilad yn cysylltu cenedlaethau a theuluoedd lleol, mae'n cysylltu pobl â lle.  

 

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i greu cyfres o fideos byr yn archwilio hanes y Glowyr. Os oes gennych atgof, stori neu ffotograff am Ysbyty Glowyr Caerffili yr hoffech ei rannu, cysylltwch os gwelwch yn dda.

 

Gwirfoddoli

Rydym yn casglu tîm o wirfoddolwyr sy'n awyddus i ddatblygu eu hanes, eu sgiliau creadigol neu ddigidol i gymryd rhan weithredol mewn ymchwil, casglu atgofion, recordio cyfweliadau a chynhyrchu fideos.   

 

Bydd cyfranogwyr yn defnyddio deunyddiau archif, adnoddau hanes lleol ac yn cynnal cyfweliadau gyda chyn-staff ac aelodau'r gymuned i gynllunio a chynhyrchu fideos. Byddwch yn derbyn arweiniad ar sut i gymryd ffynonellau hanesyddol i greu naratif clir a chywir. Byddwch yn derbyn hyfforddiant proffesiynol ar sut i ffilmio a golygu fideo byr. Gyda'i gilydd bydd gwirfoddolwyr yn derbyn cymorth fel y gallant roi arweiniad wrth hyrwyddo ein treftadaeth i gynulleidfa ehangach. Y cyfan wrth ddod yn rhan o'r gymuned fywiog yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili.   

 

Os ydych chi'n teimlo bod hwn yn gyfle i chi, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni yma.

2.jpg
bottom of page