Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Melanie - Athrawes
​
Am dreos ddegawd dw i wedi bod yn gweithio yn y gymuned yn cyflwyno rhaglenni addysg seicogymdeithasol ac rwyf wedi helpu nifer o brosiectau a grwpiau newydd i ymsefydlu.
Mae llawer o fy mhrosiectau wedi canolbwyntio ar ynysu cymdeithasol ac unigrwydd ac mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynhwysiant digidol mewn prosiectau cymunedol. Datblygwyd y Cwrs Digidol i roi lle diogel i bobl gymdeithasu a dysgu'r sgiliau i gadw mewn cysylltiad a ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr.
Rwy'n dysgu achos mod i'n credu gall pawb wella ansawdd eu bywyd gyda'r gefnogaeth iawn.
Sienna a John
Dyma rai o'n gwirfoddolwyr digidol:
​
Mae Sienna, myfyriwr chweched dosbarth, wedi bod o gymorth mawr yn ein cyrsiau haf digidol a'r sesiynnau galw i mewn, yn cefnogi aelodau'r dosbarth. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol a gobeithiwn y bydd yn cyrraedd ei nod o fod yn Dechnegydd Mathemategol.
​
Mae John B, rhaglennydd cyfrifiadur wedi ymddeol, hefyd wedi bod yn arbennig o dda yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cyrsiau digidol ac yn y sesiynnau galw i mewn. Mae hefyd wedi cyflenwi pan oedd yr athrawes yn dost. Mae gan John wybodaeth drylwyr o bopeth digidol ac mae bob amser yn hapus i helpu unrhywun. Daethom o hyd i wirfoddolwr anhygoel, hyblyg a chynaliadwy!
John J
Gweithiodd John J fel rheolwr mewn amryw labordai yn niwydiant glo De Cymru cyn mynd yn rheolwr cwmni iechyd a diogelwch. Mae'n gweithio ar hyn o bryd fel gwirfoddolwr digidol yn Llyfrgell Caerffili ac wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd. Mae ganddo sgiliau digidol da a'r gallu i drafod pobl. Mae'n mwynhau cefnogi eraill. Eto, dyma wirfoddolwr gwych a chynaliadwy.
Dyma John yn cefnogi aelod o ddosbarth a'i fab yn bresennol i roi cymorth ychwanegol.
Irena
Mae Irena wedi gwneud llawer o waith digidol gwirfoddol yn y gymuned ac wedi gweithio gyda Choleg y Cymoedd a Chanolfan Waith Caerffili. Ar hyn o bryd mae hi'n wirfoddolwr digidol yn Llyfrgell Caerffili. Mae'n fraint cael gwirfoddolwr digidol profiadol yn cefnogi ein dysgwyr. Mae hi'n amyneddgar, caredig ac yn mwynhau cefnogi eraill. Daethom o hyd i wirfoddolwr anhygoel, cynaliadwy arall!