Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Yn ymweld â ni
Neges i ymwelwyr
Rydym yn dilyn canllawiau'r llywodraeth i wneud eich ymweliad â'r Glowyr mor ddiogel â phosibl
Rydym yn hapus i’ch croesawu nôl i’r Ganolfan
Rydym i gyd yn gweithio'n galed i wneud y Ganolfan yn lle diogel i ymweld ag ef. Mae covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i bob un ohonom, ac rydym yn gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i gadw pawb yn ddiogel ac i wneud eich ymweliad mor gyfforddus â phosibl.
Rhaglen o weithgareddau: Medi 2020
Rydym yn dilyn canllawiau'r llywodraeth i wneud eich ymweliad â'r Glowyr mor ddiogel â phosibl:
​
-
Peidiwch â dod i’r ganolfan os oes gyda chi neu rywun yn eich cartref symptomau Covid-19
-
Os yn bosibl, parciwch yn y maes parcio gwaelod i gadw lle diogel o flaen yr adeilad.
-
Dewch â mwgwd os gwelwch yn dda a’i wisgo trwy gydol eich ymweliad os ydych y tu mewn I’r adeilad.
-
Cofrestrwch ymlaen llaw gan ein bod yn cyfyngu ar y nifer yn yr adeilad. Bydd angen enwau a rhif ffôn pawb a ddaw i’r adeilad.
-
Byddwch yn barod i’r stiwardiaid fesur eich gwres pan gyrhaeddwch.
-
Cadwch 2m wrth bobl eraill – defnyddiwch y marciau ar y llawr- ac arhoswch i ddod mewn i’r adeilad.
-
Diheintiwch eich dwylo cyn mynd i mewn i’r adeilad ac yn ystod eich ymweliad os gwelwch yn dda gan ddefnyddio’r diheintiwr gyda phwmp troed wrth y drws ffrynt.
-
Ceisiwch beidio ag agor a chau drysau â’ch dwylo – byddwn yn cadw drysau yn agored.
-
Y tu mewn ceisiwch osgoi cyffwrdd ag unrhyw arwyneb. Byddwn yn gosod cadeiriau a byrddau ar bellter cymdeithasol, yn cadw drysau a ffenestri ar agor a byddwn yn diheintio pob arwynebedd cyn ac ar ôl pob sesiwn.
-
Defnyddiwch y tai bach cyn lleied â phosibl os gwelwch yn dda. Dim ond y tÅ· bach anabl fydd ar gael. Gofynnir i chi ddefnyddio’r wipes a ddarperir i lanhau pob arwyneb ar ôl defnyddio’r tÅ· bach.
-
Os byddwch yn talu’r Ganolfan yn uniongyrchol, ceisiwch osgoi defnyddio arian parod – ac os byddwch yn ei ddefnyddio, dewch â’r swm cywir os gwelwch yn dda.
-
Osgowch sgwrsio yn y cyntedd os gwelwch yn dda, mae’n ardal a allai achosi tagfa ac fe hoffem ei gadw’n glir.
​
Gobeithio y bydd y mesurau diogelwch yma yn rhoi tawelwch meddwl i chi.
Diolch am weithio gyda ni a mwynhewch eich ymweliad.
Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd i'n hapêl gazebo. Bellach mae gennym le gweithgaredd awyr agored y gall yr hen a'r ifanc ei fwynhau!
​
Rydym yn parhau â gweithgareddau ar-lein ac yn treialu dosbarthiadau hybrid.