top of page
MOONDANCEfinal_001-1.png
Cyrsiau Digidol
2021 - 2022
MOONDANCEfinal_001-1.png

Mae Canolfan y Glowyr yn cynnal prosiect Cynhwysiant Digidol wedi ei gyllido er mwyn helpu'r rhai yn y gymuned sydd angen cefnogaeth i gyrraedd y gweithgareddau hybrid ac ar lein sy'n rhedeg yn ein Canolfan, ac i ddelio ag anghenion digidol eraill. Mae'r pandemig wedi dangos mor bwysig yw cadw mewn cysylltiad a theulu a ffrindiau ond yn anffodus roedd llawer o bobl a alltudiwyd yn ddigidol yn teimlo iddynt gael eu hynysu yn gymdeithasol. Hoffem gael gwared ar fariau alltudiaeth gymdeithasol ac felly rydym yn rhedeg cyrsiau digidol yn rheolaidd yn y Ganolfan i gefnogi aelodau o'r gymuned.

Cyrsiau Newydd a Gwell!

Rydym bellach yn cynnal 6 chwrs wythnosol, a fydd yn cynnwys 4 wythnos o addysgu sy'n canolbwyntio ar waith a 2 wythnos o ddatrys problemau i roi'r holl sgiliau rydych chi wedi'u dysgu ar waith. Rydym wedi newid ein model gan ein bod wedi canfod nad oedd rhai cyfranogwyr yn ymarfer eu sgiliau rhwng sesiynau ac fe gawson nhw anhawster. Fodd bynnag, os ydych yn cael trafferth ac angen help gydag unrhyw un o'ch ymholiadau digidol, mae sesiynau galw heibio ein clwb TG yn rhedeg bob dydd Mawrth o 11am - 12pm i'ch cefnogi, gyda gwirfoddolwyr digidol cyfeillgar.

Bydd ein cwrs digidol 6 wythnos AM DDIM nesaf yn dechrau: 

​

​Amswer y Cwrs: 10-11am

​

Clwb TG: 11-12.00 ar gyfer eich holl gwestiynnau digidol!

​

​Mae ein cwrs nesaf yn dechrau:

Dydd Mawrth 26 Ebrill - Dydd Mawrth 31 Mai

​

​Os oes gyda chi ddiddordeb mewn bwcio un o'n cyrsiau, ebostiwch  digital.inclusion@caerphillyminerscentre.org.uk

Digital course.png
Digital course - W.png
Beth sy'n digwydd yn y dosbarth?

​

Cynhelir y cyrsiau yn yr ystafell TG lle ceir desktops Lenovo gyda sgriniau cyffwrdd a chadeiriau swyddfa y gellir eu haddasu ar gyfer ergonomeg da. Mae bwrdd gwyn a thaflunydd ar gyfer cyfarwyddiadau PwyntPwer. Byddwn yn annog y rhai sy'n cymryd rhan i ddefnyddio'u hoffer digidol eu hunain ar gyfer dysgu i wneud pethau yn haws iddynt ond gallant ddefnyddio ein hoffer ni os bydd angen. Mae hyd at 7 ym mhob dosbarth gyda digon o le i gadw pellter cymdeithasol. Cefnogir y cwrs gan wirfoddolwyr digidol fel bod pawb yn cael sylw.  

Tystebau

Cwrs gwych, wedi helpu gyda Facebook a Zoom nad oeddwn erioed wedi eu defnyddio o'r blaen. Rwyf bellach wedi rhoi cynnig ar bethau eraill ar gliniadur na fyddwn i wedi'u gwneud o'r blaen. Hefyd mae gwybod y gallaf fynd yn ôl ar unrhyw adeg i ofyn cwestiynau yn dda. Diolch yn fawr iawn.

~Lesley~

Ffeindiais y cwrs digidol yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig sut y cawsom ein dysgu i fod yn ymwybodol o sgamiau ac ati. Rwyf bellach yn defnyddio Zoom a WhatsApp i sgwrsio ar fideo ac anfon negeseuon at fy nheulu. Mae hefyd yn galonogol gwybod bod help pellach ar gael os oes ei angen.

~Freda~

bottom of page