Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Eich negeseuon
Dyma’ch tudalen chi. Danfonwch unrhyw negeseuon, blogiau fideo lluniau yr hoffech eu rhannu.
Mae Marion a’r teulu wedi paratoi Queen Tik Tok hwyl i chi i gyd.
Katherine yn rhannu ei meddyliau, atgofion a diolch………
Mae Sheila yn creu blog fideo am ei chynlluniau ar gyfer yr wythnosau i ddod.
Hoffai Sue & Colin rannu’r ffilm fer hon a wnaeth eu hwyres am y cyfyngiadau symud.
Lockdown Life: https://m.youtube.com/watch?feature=youtu.be&v=0SWgqFTdcnk
Ces i ngeni i gyfnod o ddogni bwyd, teuluoedd clos a hunan-gynhaliaeth gyda ieir a thyddyn. Rhy ifanc i ddeall bod hyn yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Nawr ar ôl colli rhieni a
chymar, rwy’n teimlo’n ofnus gan fy mod yn 75 oed mewn iechyd syndod o dda, a’r anhysbys yn fy mygwth. I gynnal fy llesiant fe ddechreuais wirfoddoli yn y Glowyr. Mae
Covid-19 wedi atal hyn. Felly, fel fy rhieni rwyf wedi addasu i ddull newydd o fyw, yn dilyn ôl eu traed. Daeth y gymuned ynghyd eto – yn siopa ar gyfer y bregus sy’n
ddibynol ar deulu a chyfeillion. Mae hyn yn anodd, colli rheolaeth ac annibyniaeth. Gobeithio y dysgir un wers o hyn ; arafwch, gwerthfawrogwch bethau sylfaenol bywyd a derbyniwch unrhyw gymorth sydd ar gael. Pan fydd y cyfnod anodd hwn yn gorffen, ac fe ddaw hynny, a fyddaf yn gallu dod o hyd i’r hyder i ddychwelyd i fyd newydd? Byddaf, gan mai dyma’r ffordd o roi nôl yr hyn a dderbyniais a bod yn ddiolchgar am y pleserau
syml o’n cwmpas. Taith ddiogel i bawb wrth i mi ddechrau ar bedwaredd wythnos hunan-ynysu.
Chris
Gwnaeth Linda Boyce o’r grwp crefft y garden hon ar gyfer Capten Tom Moore. 100fed Penblwydd Hapus oddi wrthom i gyd.
Gwnaeth merch Louise gerdyn penblwydd ar gyfer Capten Tom Moore hefyd.
Mae Louise Kenyon wedi gwneud yr enfys crotchet hardd yma gyda pom poms. Hi hefyd sy'n gofalu am blanhigion y Glowyr.
Bod yn Rhiant
​
Dros nos, fe newidiais o fod yn rhiant i fod yn athrawes ac yn gyd-ddisgybl. Does gen i ddim syniad beth dw i’n wneud ac fel y rhan fwyaf o rieni rwy’n cario ymlaen rywsut. Dw i wedi blino. Mae fy meddyliau mewnol wedi newid yn llais allanol yn dweud 'mam, mam'. Ac mae fy nghysgod wedi newid i un llawer byrrach. Ond rydw i’n lwcus. Rydw i’n lwcus mod i gartref gyda fy mhartner a fy mab. Rydw i’n lwcus bod gen i rywun i sgwrsio ag e. Mae bwyd yn y cwpwrdd. Mae gardd i’w mwynhau ar dywydd braf. Fel y rhan fwyaf o rieni, mae’r tÅ· yn llanast ar hyn o bryd ond rwy’n falch nad yw iechyd meddwl fy mab yn yr un cyflwr! Pan fydd amserau anodd yn ein llethu mae’n hawdd anghofio bod ein plant dan bwysau hefyd. Does gan y ddadl honno am fisged na chânt ei bwyta ddim i wneud â’r fisgïen. Ar y newyddion mae ein plant yn gweld hanesion am farwolaethau yn cynyddu a lluniau o bobl mewn PPE. Maen nhw’n deall yr hanesion. Maen nhw’n gwybod pam nad ydyn nhw yn yr ysgol. Maen nhw’n gweld eisiau eu ffrindiau. A mamgu a tadcu. A’r drefn ddyddiol. Fel pan ddechreuon nhw grio dros y fisged, roeddech chi’n teimlo’r un peth pan alwon nhw chi am y canfed tro’r bore ‘ma. Rydyn ni’n anghofio bod plant yn fodau dynol hefyd. Maen nhw’n dysgu delio â’u teimladau. Yn union fel rydych chi eisiau sgrechian am na allwch gofio pryd cawsoch baned boeth o de ddiwethaf, maen nhw eisiau sgrechian hefyd. Ac maen nhw’n gwneud hynny. Gadewch iddyn nhw. Rhowch gwtsh iddyn nhw. Mwynhewch yr amser hwn yn eu cwmni. Crëwch atgofion. Pobwch gacennau. Gwnewch ffau. Gwnewch lanast. Gwnewch bethau gwirion. A chofiwch eu bod yn dysgu er nad ydyn nhw yn yr ysgol. Ac rydych chi’n dysgu hefyd. Peidiwch â’ch beirniadu eich hun ormod!
Neelie
​
Fy ymdrechion gwirfoddoli – Glenda Burnett
Yn ogystal â darllen papurau'r Bwrdd, rwyf wedi edrych ar gyngor ac wedi paratoi rhai nodiadau oddi ar wefannau swyddogol ynghylch rheoli heintiau ac wedi bod ar gwrs sylfaenol byr ar-lein am 3 awr.
​
Yr wyf wedi sefydlu grŵp caeedig ar Facebook ar gyfer 10 ffrind agos fel ffordd hawdd o gynnig cefnogaeth i'w gilydd e.e mae mam un ffrind wedi marw ac roeddwn i'n trefnu blodau ar ran y grŵp ac roedden ni'n gallu mynegi ein cydymdeimlad a rhannu atgofion am ei mam hyfryd. Rydym wedi rhannu lluniau, wedi chwerthin ar ein llun ysgol o ddosbarth 5 a’n steil gwallt (neu ddiffyg steil) yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. Rydym wedi bod yno i'n gilydd ers dros 50 o flynyddoedd.
​
Fel diolch am fod yno i fy nghyfaill a'm cydweithiwr a ddioddefodd covid-19 a fy merch yn ystod ei beichiogrwydd a genedigaeth fy wyres, rwyf wedi treulio tua 55 i 60 awr yn gwnïo 10 tiwnig scrubs ar gyfer y gwasanaeth iechyd (gweler lluniau). Mae hyn wedi bod yn her yr oeddwn yn hapus i'w dderbyn dros fy 2 wythnos o absenoldeb o'r gwaith. Roedd bysedd wedi eu pigo sawl gwaith, ysgwyddau'n brifo a braich wedi llosgi ar yr haearn smwddio yn werth yr ymdrech.
Esgidiau ar gyfer cerdded!
Fy Nhaithiau Cerdded
Mae fy ffôn yn dweud wrthyf fy mod wedi cerdded 1,056,200 o gamau ers dechrau’r cyfnod cyfyngiadau – hynny yw tua 500 milltir (800 km) a 200 awr o gerdded. Rydw i wedi mwynhau'r coedwigoedd, yr adar, yr heddwch, a'r rhyddid o fod yn yr awyr agored yn gynnar yn y bore, ond nid yw fy esgidiau cyfforddus mor hapus.
​
Katherine Hughes