top of page
Climate Change Garden for the Future

 

 

Ydych chi eisiau ymuno â ni i BLANNU ar gyfer y DYFODOL?
 

Rydym yn adeiladu gardd newid hinsawdd ar gyfer y dyfodol, gyda phwll, ardal i fyfyrio, gwelyau uchel, dôl blodau gwyllt, compostio a chynaeafu dŵr.  Bydd gyda ni hefyd brosiectau plannu a thyfu ar gyfer plant – trwy gydol y flwyddyn.

 

Mae pawb yn gwybod bod garddio yn dda i’n hiechyd meddyliol, corfforol ac emosiynol; mae hefyd yn ffordd dda o ddod i adnabod pobl yng nghymuned Caerffili ac i wneud rhywbeth pendant dros yr amgylchedd a chefnogi tyfu bwyd yn lleol.

 

Mae'r prosiect uchelgeisiol hwn ar y gweill ac mae arnom angen gwirfoddolwyr a phlanhigion yn ystod y misoedd nesaf i ffurfio’r adnodd cymunedol gwych yma.

 

Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect, rydym yn chwilio am arddwyr, profiadol a newydd, yn ogystal â deunyddiau garddio. Allwch chi helpu gydag unrhyw rai o’r canlynol:

 

  • Cyfrannu hadau llysiau neu eginblanhigion i'w plannu yn ein gwelyau uchel

  • Rhoi amser i helpu gyda gweithgareddau garddio, y pwll dŵr, compostio a photiau plannu unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi                                                                                          

  • Cefnogi ein prosiect garddio i blant ar fore Sadwrn. Mae angen nifer dda o wirfoddolwyr arnom gyda sgiliau garddio, gwaith coed, crefftau a gweithio gyda phlant oedran ysgol gynradd ar gyfer y prosiect hwn.

thumbnail_image002.jpg

Helpwch ni i greu gardd lewyrchus, gynaliadwy ar gyfer pobl a byd natur, yn gweddnewid y tir anial o amgylch Canolfan y Glowyr yn ofod ar gyfer tyfu, dysgu a dod at ein gilydd.

​

Ewch i'n ar-lein Gardd Digidol.

​

Cysylltwch â secretary@caerphillyminerscentre.org.uk os gallwch helpu mewn unrhyw ffordd.
 

FB post garden volunteers.png
bottom of page