top of page

Amdanom ni

Chair exercises2.JPG

Sefydlwyd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned (y Glowyr) yn 2008 i achub rhan o hen Ysbyty Glowyr Caerffili fel cyfleuster cynaliadwy i gefnogi lles ein cymuned.

 

Daeth yn gwmni cyfyngedig drwy warant yn 2011 ac yn elusen yn 2012.  Yn 2014, llofnododd yr Ymddiriedolwyr les 99 mlynedd gyda United Welsh a dechrau ar y gwaith o adfer yr adeilad.  Agorwyd y llawr gwaelod ar ei newydd wedd ym mis Medi 2015.  Mae'n darparu amgylchedd dymunol o fewn cyrraedd hawdd i bobl, gyda chyfleusterau parcio da a chroeso cynnes.

 

Mae'r Glowyr yn eiddo i'w aelodau, wedi ei lunio gan ei ymddiriedolwyr a'i wirfoddolwyr ac yn cael ei ddefnyddio gan bobl Caerffili.  Mae pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau fforddiadwy ac ennill y profiad o helpu eraill.  Mae pwrpas cyffredin o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant pobl, beth bynnag fo'u hoed neu eu hamgylchiadau, a gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth orau posibl i'n cymuned.

DSC_0082.jpg

Centre/ Canolfan 029 2167 4242   ;   Room Hire/ Llogi Stafell    075 0836 0315   ;   Volunteer Coordinator/ Cydlynydd Gwirfoddol 078 7159 3038

                             

Company limited by guarantee. Registered in England and Wales no. 07535484 
Charity registration number 1145796

©2021 by Caerphilly Miner's Centre for the Community.

bottom of page