Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Wal Grefft
Mae ein grwpiau crefft wedi rhannu eitemau o’u gwaith fel ysbrydoliaeth. Cysylltwch i gael gwybod mwy am ein dosbarth crefft a phethau y gallwch eu gwneud gartref nes i’n drysau agor eto.
Gweu
PROSIECT GWEU CYMUNEDOL
Canolfan y Glowyr Caerffili
Galw ar bobl sy’n gweu!
Hoffech chi weu petrual?
Llynedd bu gwirfoddolwyr Canolfan y Glowyr yn gweu dros 500 petrual gartref. Gwnaed rhain yn 12 o flancedi deniadol gan un o’n gwirfoddolwyr a byddant yn mynd i fywoliaeth eglwysig Caerffili ar gyfer teuluoedd anghenus yn ein cymuned.
Gallwch chi helpu!
Castiwch 40 o bwythau gyda gwlân dwbl a gwallau 4mm ( hen faint 8) Gweithiwch mewn pwythau garter nes bod y petrual yn mesur 10.5 modfedd ( tua 110 rhes ). Castiwch i ffwrdd. Gwnewch gymaint ag y dymunwch mewn unrhyw liw.
Pan agorwn ni eto, byddwn yn falch iawn o’u derbyn a bydd ein gwirfoddolwyr yn eu gwnïo at ei gilydd,
DIWEDDARIAD AR Y PROSIECT GWEU❤️🌈
Cawsom ymateb arbennig gan ein gwirfoddolwyr gweu. Diolch o galon.❤️ Rydym wedi diweddaru ein cyfarwyddiadau felly allech chi eu darllen a’u dilyn - diolch.
▪️ Allech chi ailgofrestri fel gwirfoddolwr fel y gallwn gofnodi eich amser gweu os gwelwch yn dda. Ebostiwch secretary@caerphillyminerscentre.org.uk am ffurflen gais gwirfoddoli.
▪️Rydym wedi ail-feddwl ac wedi penderfynu ychwanegu cyfeiriad i chi adael eich petrualau neu eu postio. Ebostiwch: secretary@caerphillyminerscentre.org.uk neu ffoniwch 029 2167 4242 am gyfeiriad y lleoliad pan fyddwch yn barod i adael cyfraniad.
▪️Rydym nawr yn derbyn petrualau crochet ar gyfer ochrau’r blancedi YN UNIG ond nid yw hyn yn orfodol.
▪️Caiff pwythwyr blancedi y nifer o betrualau angenrheidiol i wneud blanced.
Diolch bawb am eich cynigion caredig i helpu. ❤️🥰
Penblwydd 70 Hapus Winnie!
Dathlodd Winnie, un o aelodau’r grwp crefft ei phenblwydd yn 70 ar Fehefin 11 a chafodd dusw hyfryd o flodau a cherdyn a wnaed â llaw gan aelodau eraill y grwp. Roedd hi wrth ei bodd.
‘Diolch’ mawr i Sheila am drefnu dosbarthu’r blodau a Linda am wneud y cerdyn.
Dillad ac anifeiliaid wedi eu gweu
Cafodd y dillad a’r anifeiliaid hyfryd yma eu gwneud yn dilyn patrwm gyda chyfarwyddiadau.
Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar wneud rhywbeth hefyd!
Mae Mary wedi gwneud y tylluanod crochet bendigedig yma. ~Mary Hughes~ | Dwedodd Mary y cymrodd noson gyfan iddi wneud un dylluan. |
---|
Mae Eve wedi gweu arth fach giwt gyda mwgwd! ~Eve Algate~ | Gweodd Joy gwningen wych ar gyfer ei hwyr newydd, Arius. ~Joy Colstick~ | Cath hyfryd wedi ei gweu! ~Jan Watkins~ |
---|
Dyma lun o fy SNOOD yn cael ei wneud. Gwlân Hobbycraft 'Head in the clouds' ( dwy belen, 4ply) gyda 56 pwyll ar wallen 6mm. Rydw i hanner ffordd drwy weu snood 60 modfedd o hyd. Mae’n ysgafn iawn a fflwfflyd. ~Mary Hughes~ | Gwnaeth Eve y siwmper hyfryd hon mewn gwlân dk pinc a gwyn. ~Eve Algate~ | Gweodd Eve y siwmper arbennig yma ar gyfer penblwydd ei hwyres. |
---|
Dilynodd Mary batrwm ungorn a gynlluniwyd gan ei hwyres i wneud y glustog hyfryd yma iddi.
~Mary Hughes~
Celf Cerrigos
Mae creu lluniau o gerrig wedi bod yn llesol, yn sialens ond yn rhoi boddhad.
Daeth y cerrig o ddwy ffynhonnell, gwefannau a thraethau. Casglodd dau ffrind caredig gerrig o wahanol faint wrth gerdded ger y mor gyda’u cŵn. Mae’r glud yn un crefft cyffredin, yn sychu’n gyflym ac yn glîr, diolch fyth. Gwnaed pob llun i bwrpas arbennig fel symud tŷ, a phob un yn wahanol.
Printiwyd y neges gefndir y gludiwyd y cerrig wrthi ar y cyfrifiadur, neu defnyddiwyd llythrennau pren Scrabble, weithiau gyda chalonnau, brigau fel meinciau neu allweddi go iawn yn dibynnu ar y thema.
Rwy’n eu gadael i sychu dros nos, ac yna’n cysylltu’r ffram, a all fod braidd yn anodd.
Y peth gorau yw eu cyflwyno fel anrhegion!
Joy Colstick
Gemwaith
Gwnaed y set yma gyda pherlau gwydr, gleiniau magnetig a gleiniau gwydr patrymog mwy o faint. Defnyddiwyd cordyn i gynnal y mwclis a’r freichled. Rhwng y gleiniau canol, clymwyd y cordyn i’w cadw yn eu lle.
Gwnaed gan Jan Watkins
Rwy’n dipyn o bioden ac mae gen i lwyth o luniau, ffotograffau, hen gardiau ayyb. Y cynllun erioed oedd mynd
drwyddynt a gwneud cardiau. Gan na alla i fynd allan i brynu unrhywbeth a gan bod gyda fi ddigonedd o amser nawr,
rwyf wedi bod yn eu gosod ar gerdyn o liw addas, ychwanegu cyfarchion a chael casgliad o gardiau am ddim!!!
Rwyf wrth fy modd gyda hynny.
Linda Boyce
Prosiectau gweu ar gyfer y GIG
Mae Sheila wedi creu bagiau scrub o’i chynllun unigryw ei hun gyda chalonnau a’r llythrennau NHS. Sheila Hopkins
Mae Ticia hefyd wedi gwneud gorchuddion clust a mygydau ar gyfer y GIG.
Ticia
Mae Ticia wedi gwneud bagiau scrub ar gyger y GIG.
Ticia
Bagiau scrub hyfryd ar gyfer y GIG. Cafwyd y patrwm o fideo ar You Tube. Mae Mary’n dweud bod arni eisiau bod yn ddefnyddiol a helpu ein GIG gwych.
Mary Hughes
Defnyddiodd Ann ystod o ddeunyddiau i greu ei bwgan brain yn cynnwys stwffio sachau plastig gyda hen duvet a defnyddio dillad gwastraff i greu ffurf y corff. Ychwanegodd fanylion gydag atodion hafaidd, bag GIG a wnaed â llaw, gwisgodd hi mewn dillad boho a’i gosod ar hen stondin ymbarel! Mae llawer o syniadau ar y we ac ar youtube os hoffech wneud un hefyd!
Lady Lottie y Bwgan Brain
Y stori tu cefn i fy mwgan brain
"Llynedd fe es i wyl Brinkley a chael ysbrydoliaeth i wneud bwgan brain yn ystod cyfnod ymneilltuo. Gan fod fy wyres ifanc yn nyrs yn gweithio gyda’r GIG yn Ysbyty Morriston yn Abertawe, roedd yn gyfle gwych i greu bwgan brain yn darlunio fy wyres ac yn cynrhychioli’r GIG.
Felly dyma nyrs ifanc yn ei hamser rhydd, yn ysgafn ei chalon, yn ymroddedig i nyrsio ac i’r amgylchedd – gweler ei dillad wedi eu hailgylchu a’r deunyddiau. Mae hwn yn darlunio moment a chyfnod yn ystod 2020 na fydd hi’n eu hanghofio. Byddai wedi bod yn hawdd rhoi mwgwd a scrubs ar y bwgan brain ond weithiau rhaid gweld y bobl iawn tu ôl i’r wisg, a’r hyn maen nhw’n ei gynrhychioli."
Ann Saunders
I am a scarecrow, can you see?
I live on the Aber Allotment, so dear to me
My name is Lady Lottie, my maker is so potty
She dressed me in these boho clothes, to scare away the old black crows
I love to flirt with the birds and bees, feel the breeze around toes and knees
I love to watch the veggie grow, in the dusky sunlight glow
I love to see the passersby with dogs and children by their side
I love to see your waves and smiles, it can be lonely here at times
I am a scarecrow as you can see and have the same feelings as you and thee.
~A poem by Ann Saunders~
Cwiltio
Cwiltiau Mary
Dyma ddau gwilt rwy’n eu gwneud ar gyfer fy nwy wyres.
Bron yn barod i roi’r borderi ar y peiriant. Fyddan nhw’n barod erbyn mis Mai? Wel dyna’r nôd.
Borderi ar y cwilt nawr. Dw i bron iawn yno. Y cam nesaf yw eu gosod ar ddeunydd cefndir esmwyth.
Bron a gorffen...
Watch the quilt take shape
Crefftau Mary
Gwnaeth Mary yr eitemau crefft gwych yma yn ystod y trydydd cyfnod cloi. Mae’n gobeithio edrych nôl ar y pandemig gyda gwên!
Darn bach ciwt mewn pwythau croes i nodi symbolau’r pandemig wedi ei arddangos mewn ffram.
Mary Hughes
Gwnaeth Mary’r sanau gaeaf gwlannog hyfryd yma iddi hi a’i phartner.
Mary Hughes
Wedi mwynhau defnyddio tameidiau sbâr o wlân a fy hen emwaith i wneud Tedi Bach a Tedi Ballet a archebwyd gan fy wyresau ar gyfer eu penblwydd. Dim ond un bêl 100g oed ei hangen i wneud Tedi ac fe wnaf ddillad sbâr i’r ddau...... rhaid i Tedi gael newid! Daliwch ati gyda’r crefftau. Maryxx
Mary Hughes
Mae Mary wedi gwneud y printiau hyfryd hyn gyda darluniau blodau ac argraffiadau bubblewrap. Mae'n honni ei fod yn brosiect economaidd iawn a dyna holl gardiau cyfarch ei theulu yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Arlunydd Cymreig
Chwiliwch ar y we am waith yr arlunydd Dorian Spencer Davies: golygfeydd diddorol o Gymru a chyfle i liwio rhai eich hun.