top of page
Gweithdai Crefft Nadolig y Plant ~ Rhagfyr 2020 ~

Addasu ein gweithgareddau Crefft Nadolig i Blant ar gyfer y cyfnod yma.

​

Mae Sadyrnau Crefft, Ffilm a The Parti i’r Plant wedi bod yn boblogaidd ers blynyddoedd ond bu’n rhaid rhoi’r gorau iddynt eleni oherwydd Covid, gan siomi llawer o bobl.  

​

Ym mis Hydref 2020 dechreuon ni gynllunio ar gyfer digwyddiad Crefftau Nadolig i Blant gan gynnwys cadw pellter ac opsiwn rhag ofn y byddai cyfnod cloi. Yn ogystal â’r cynllunwyr crefft – Belinda Snow, Sarah Warr, ac Amie Locke – gofynwyd i’r gwirfoddolwyr crefft – Ann Lewis, Sheila Hopkins, Jenni Jones-Annetts, Marion Watts a Katherine Hughes i ddod i gyfarfod. Gofynwyd i Geraint King i helpu gyda’r dechnoleg a  Tasha Gittings gyda gwerthiant tocynnau a marchnata. Cafwyd cyfarfod ar Zoom yn ystod y Toriad Tân Cenedlaethol i greu cynllun.

​

zoom%20xmas%20crafats_edited.jpg
ribbon bow.jpg

Oherwydd problemau trafod deunyddiau, penderfynwyd creu bocs o ddeunyddiau crefft ar gyfer pob plentyn. Roedd hwn yn cynnwys tri chrefft, glud, tâp a chreionau gyda thaflenni i’w lliwio. Rhoddwyd rhain mewn bocsys cludo pizza. Penderfynwyd cynnal y digwyddiad am awr ar ôl yr ysgol. 

​

Er bod rhaid gweithio o bellter, crewyd 60 pecyn, tasg llawer mwy na’r paratoi ar gyfer y prynhawniau Crefft, Ffilm a The Parti cyn-Covid, ond mwynheuodd y tîm y sialens. Wrth i fis Rhagfyr gyrraedd a’r niferoedd yn hunan-ynysu yn codi, roedd yn bosibl cynnig bocsys crefft i’w casglu a’u gwneud gartref i blant na allai ddod i’r Glowyr. Mwynheuodd y plant y crefftau yn fawr ac rydym wedi addo digwyddiad arall yn y Gwanwyn.

reindeer.jpg
download (6).jpg
download (6).jpg
download (9).jpg
Ogof Sion Corn
download (9).jpg
reindeer.jpg

Fe gawson ni Ogof Sion Corn arbennig eleni. Cafodd ei drefnu’n wych gan Natasha Gittings sy’n rhedeg y grwpiau Stay and Play yn y Glowyr. Trefnodd Tasha bopeth, dod o hyd i Santa, trefnu system fwcio ar gyfer ymweliadau 10 munud yn cadw pellter cymdeithasol dros 4 diwrnod, a threfnu’r raffl a’r cyhoeddusrwydd hefyd. Casglodd dîm o gynorthwywyr i bacio dros 300 o fagiau o roddion, gosododd yr ogof yn ei le a buodd yno i gefnogi Santa yn ystod yr holl ddigwyddiad.
Diolch Tasha. Rwyt ti wedi creu digwyddiad Nadolig hyfryd a chofiadwy ar gyfer dros 300 o blant. Rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.
Diolch hefyd i’r gwirfoddolwyr a gefnogodd y digwyddiad, i’n stiwardiaid gwirfoddol, i Sion Corn arbennig ac i’r rhai a gyfrannodd wobrau raffl.

IMG_20201206_211343_499.jpg
bottom of page