top of page

Ein Bwrdd

Annual Report 2019-2020 Adroddiad Blynyddol 

​

​

jenni jones-annetts.jpg

Jenni Jones-Annetts

Cadeirydd Dros Dro

Athrawes wedi ymddeol ydw i. Dw i wedi bod ynghlwm â nifer o fudiadau elusennol dros y blynyddoedd.  Symudes i Gaerffili yn 2000 ac ymunes â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) sy erbyn hyn yn Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales. Dw i wedi bod yn aelod o bwyllgorau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

​

Wedi dod yn ymwybodol o gynlluniau ar gyfer Ysbyty’r Glowyr, mynyches i gyfarfodydd a gweithgareddau codi arian.

​

Pan agorwyd y Ganolfan, bues i’n gwirfoddoli gyda’r grŵp sgwrsio Cymraeg, gweithgareddau plant a chodi arian. Yn fwy diweddar ymunes â’r Grŵp Cymraeg.

Dw i wedi mwynhau bod yn un o’r Aeron Aeddfed.

Dw i wedi mynychu cyrsiau TG / iPads a Sbaeneg yn ogystal â chwrs Hylendid Bwyd.

Katherine Hughes

Ysgrifennydd Cwmni a Rheolwr Prosiect

Deuthum yn rhan o'r prosiect am y tro cyntaf yn 2006 pan glywais fod Ysbyty'r Glowyr, a oedd wedi gwasanaethu fy nheulu dros flynyddoedd lawer, yn mynd i gau.  Yn fy mywyd gwaith fel cynlluniwr tref ac ymgynghorwr datblygu cymunedol, yr oeddwn wedi gweld llawer o adeiladau eiconig ar draws De Cymru yn dadfeilio oherwydd diffyg cefnogaeth, ond yr oeddwn yn credu y gallai'r Glowyr gynnig adnodd cymunedol yr oedd mawr angen amdano.  Deuthum yn aelod sylfaenol ac Ysgrifennydd yn 2008.

​

Llwyddais i ddod â sgiliau cynllunio prosiectau a busnes ac ymgynghori â'r gymuned i'r prosiect, roedd gen i hefyd brofiad o lywodraethu fel Cadeirydd Cadwch Gymru'n Daclus a Chymorth Cynllunio Cymru ac fel aelod o fwrdd nifer o elusennau a chyrff cyhoeddus. Fodd bynnag, mae bod yn rhan o brosiect yn fy nghymuned fy hun yn llawer mwy buddiol ac arbennig. Mae'n wych bod yn rhan o brosiect mor ysbrydoledig a bywiog, gydag aelodau'r gymuned a gwirfoddolwyr o bob cefndir yn dod at ei gilydd i gefnogi ein hachos cyffredin.

​

Roedd yn syndod ac yn anrhydedd mawr i dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaeth gwirfoddol i'r gymuned yng Nghaerffili ac i'r amgylchedd yng Nghymru yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2015.

Katherine pic 1a.jpg
Screenshot 2019-11-08 at 13.31.21.png

Ann Lewis

Swyddog diogelu a'r iaith Gymraeg 

Roedd Ann yn bennaeth Cymraeg yn Ysgol St Martin. Ymunodd â'r Glowyr i ddechrau er mwyn hyrwyddo dwyieithrwydd a gweithgareddau Cymraeg yn y ganolfan ond mae hefyd wedi cymryd gofal o Lysgenhadon yr ysgolion cynradd a'r Fforwm Ieuenctid. Ann yw Swyddog Diogelu'r Glowyr ac mae'n aelod o'r Pwyllgor Adnoddau Dynol. Mae hi'n stiward rheolaidd yn y Glowyr ac wedi cyfrannu at ambell i soirée gerddorol!

Jeff Cuthbert

Trustee

The Caerphilly Miners Centre project is very dear to me. It was a project that I initiated back in 2005 when the Announcement was made about the new hospital at Ystrad Fawr. It was clear that many people in the Caerphilly area wanted to retain at least the original building and, if possible, to put it in good use for the benefit of local communities.

​

At the time I was the Assembly Member for the Caerphilly Constituency so had access to information about voluntary groups and the sort of facility that could be useful for educational, relaxation and cultural purposes.

​

The project has come a long way since those very early days and in large part it's down to a range of volunteers ably led by our Company Secretary, Katherine Hughes. Without the energy and determination of Katherine and the volunteers, it's difficult to see how the project could survive.

​

I want to see the Centre continue to grow and become an established part of the lives of people living in the wider Caerphilly area. It has a rich history as a hospital set up and paid for by Miners before the creation of the NHS.

​

It's so important that more people become active supporters and particularly younger people. Without the involvement of younger people then it's difficult to see a longer-term future for the Centre. That would be a great shame.

Screenshot 2019-11-08 at 13.31.35.png
Screenshot 2019-11-08 at 13.31.27.png

Glenda Burnett

Ymddiriedolwr

Wedi byw yn lleol gydol ei hoes, ac yn gyflogedig yn Ysbyty Glowyr Caerffili ar un adeg, mae ganddi ddiddordeb brwd mewn darparu awyrgylch groesawgar yng Nghanolfan y Glowyr ar gyfer y gymuned leol. Mae Glenda wedi cael gyrfa amrywiol ym maes lletygarwch ac arlwyo.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio yn y sector hyfforddi fel asesydd/hyfforddwr ac mae'n eiriolwr dros ddysgu gydol oes.  Ei diddordebau yw crefftau, cerdded a darllen.  Mae Glenda wedi bod yn rhan o ddatblygu caffi'r ganolfan ac mae’n aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch.

Wayne David MP

Ymddiriedolwr

​

Mae Wayne David AS wedi bod yn Ymddiriedolwr ers 9 mlynedd, a bu'n Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr am 7 o'r blynyddoedd hynny: 


"Rwyf wedi bod yn Aelod Seneddol lleol ers 2001 ac rwy'n ceisio gwneud defnydd da o'm profiad o wasanaeth cyhoeddus er budd y Ganolfan.


Rwy'n credu'n gryf bod Canolfan y Glowyr yn ased hollbwysig i'r gymuned; mae ganddi hanes pwysig ac mae ganddi le cadarn yng nghalonnau llawer o bobl. Yn bwysig, mae'r Ganolfan wedi adeiladu'n llwyddiannus ar ei gorffennol, fel ei bod heddiw'n datblygu'n rhan hanfodol o'r gymuned leol. Ond mae mwy i'w wneud o hyd.

 

Fy nod yw helpu i sicrhau bod y ganolfan gyfan yn cael ei defnyddio a'i bod yn cyflawni ei photensial llawn." 

Screenshot 2019-11-08 at 13.31.11.png
DSC_0104.jpg

Rob Bleach

Ymddiriedolwr

​

Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â’r Glowyr ers 2017 ar ôl ymddeol fel athro plant iau ag anghenion dysgu. Rwyf yn Ymddiriedolwr ers 2018 ac ar bwyllgorau Cyllid ac Iechyd a Diogelwch. Rwyf hefyd yn stiwardio ddau ddiwrnod yr wythnos. 

bottom of page