top of page

Calan Mai 2020

Rhywbeth i edrych ymlaen ato ...

Annwyl Aelodau a Gwirfoddolwyr,


Bydd aros gartref am dair wythnos arall yn sialens. Allwch chi ein helpu i godi calon gyda thasg a fydd, gobeithio, yn bleserus?


Rydym wedi bod yn gweithio’n galed ar ein gwefan – cymrwch olwg ar y cyfraniadau newydd - mae arnom angen eich help i gyfrannu eitemau fel y gall pobl weld bod bywyd yn parhau y tu allan i’w drws ffrynt!


Ein prosiect nesaf fydd dathlu Calan Mai. Rydym yn chwilio am gyfraniadau celf, crefft, pethau rydych wedi eu tyfu neu goginio a lluniau. Hoffem gael cyfraniadau gan bob oedran – llun, blog neu flog fideo wedi eu danfon ar ebost secretary@caerphillyminerscentre.org.uk.  Dylech gynnwys eich enw a neges fer os mynnwch.  Gadewch i ni wneud Calan Mai yn gofiadwy eleni!


Byddwn yn rhoi’r cyfraniadau i gyd ar ein gwefan. Cawsom gyfraniadau gwych i’n tudalen Gwirfoddolwyr hyd yma ond gobeithiwn gael llawer mwy gan fwy o bobl. Mae cymaint o dalent yn y gymuned ac mae’n ysbrydoliaeth gweld beth sydd yno!  


Gobeithio eich bod yn cadw’n iach a diogel. Cadwch mewn cysylltiad a rhowch wybod os oes arnoch angen unrhywbeth.

Katherine

may day.jpg

Syniadau ar gyfer Calan Mai, gan Amie...

  • Tynnu lluniau o beth welwch yn yr ardd 

  • Portreadau’r teulu – tynnwch luniau o’ch gilydd

  • Jar cof – ysgrifennwch atgofion dymunol i lawr a’u dodi mewn jar. Pan fyddwch yn cael diwrnod gwael, tynnwch un allan i’ch atgoffa o amser da. 

  • Ysgrifennwch lythyr at ffrind neu aelod pell o’r teulu ( gallech gynnwys llun a dynnoch o’ch gardd )

  • Fel teulu neu unigolyn, gwnewch restr o fwydydd y byd yr hoffech eu profi. Ewch ar Google i ddod o hyd i fwydydd poblogaidd o bedwar ban byd. Cynlluniwch noson ar gyfer pryd arbennig wrth wneud eich rhestr siopa.

  • Gwnewch restr o fannau yr hoffech ymweld â nhw pan fydd cadw pellter cymdeithasol drosodd

  • Gwnewch restr o ddarnau o gerddoriaeth sy’n dwyn atgofion da.  

  • Tynnwch allan hen ddisgiau vinyl a chael prynhawn vinyl.

  • Ar gyfer plant – paentio dŵr yn yr ardd – pot o ddŵr a brwsh – gwnewch batrymau ar y patio – a rhagweld faint fyddan nhw cyn diflannu.

  • Casglwch frigau o’ch gardd neu wrth fynd am dro a gwnewch lun gyda nhw y tu allan – gallech wneud cardiau sialens gyda lluniau arnyn nhw er enghraifft cwch, coeden, adeilad enwog – a gall y plant geisio ei ail-greu.

Awgrymodd Aime Morgan de prynhawn fel ei syniad Calan Mai, mae wedi rhoi cynnig arni yn barod, wedi gwisgo lan a chwarae cerddoriaeth y 50au.

Amie.jpg


Gwnaeth Glenda’r clustog llyfr gyda deunyddiau o Aldi a daw’r cwningod o lyfr 'How to make Luna Lapin' ( gwnaeth y rhai bach yn llai ar gyfer babanod). 
Mae’r fasged gyda Glenda ers bron i 40 mlynedd, (roedd yn cadw cewynnau ynddo ar ôl geni ei phlentyn cyntaf). 
Gwnaeth gŵr a mab Glenda’r Bwthyn Tylwyth Teg o sied a brynwyd am fargen, helpodd Glenda ei beintio a gosod y golau bach iar fach yr haf. 
Criodd ei merch pan welodd y lluniau gan nad oes sicrwydd pryd caiff ei wyres
chwarae gyda nhw.

Mae Chris Shawyer wedi ysgrifennu cerdd hyfryd i ni, gobeithio y
bydd yn ysbrydoli eraill i fod yn greadigol.
Mae Chris hefyd wedi tynnu lluniau o’i photiau blodau.

DSCF8751.JPG

May Day (Cancelled 2020)

 

May Day, an ancient tradition, a celebration for all, a mark in the sand.

Blue skies and healthy crops, symbols of our green and pleasant land.

Hawthorn flowers to decorate the community, perhaps this year a sign of unity.

 

Keep safe.

 

This year we have endured a winter cold and dark, now we are banned from all places even the park.

A virus with a regal name has invaded our shore, bringing havoc, pain and death, all that we deplore.

 

Keep safe, keep your distance.

 

Citizens of all ages have come to the fore, raising funds to support the front-line heroes like never before.

Shopping has been tricky, empty shelves and lots of ques, but people have been resilient give them their dues.

 

Keep safe, keep your spirits high.

 

Life has been challenging in times most recent, but people have been helpful, incredibly decent.

No coffee mornings or friendly greetings, just virtual conferencing and face book greetings.

 

Keep safe, keep in touch.

 

With testing kits and vaccines on their way, we hope the virus has had its day.

Time to reflect on a painful past but look to the future, face to face contact and various activities at last.

 

Keep safe, see you soon.

                                                     

Karen Masters.

Mae Chris Shawyer wedi ysgrifennu cerdd hyfryd i ni, gobeithio y
bydd yn ysbrydoli eraill i fod yn greadigol.
Mae Chris hefyd wedi tynnu lluniau o’i photiau blodau.

IMG-20200424-WA0011.jpg
IMG-20200424-WA0020.jpg

Dyma goeden afalau surion Dorothea yn cael ei harddangos gan Clive.

Mae’r tiwlipiaid hardd yma wedi blodeuo er gwaethaf pawb a phopeth. Gosododd Jenni nhw mewn pot o’r Gallery a dod â nhw
mewn i’r tŷ i’w mwynhau.

Isod hefyd mae collage Ann o flodau yn ei gardd.

Mae Belinda Snow wedi rhoi cynnig ar ysgythriad o Pegasus, wedi paentio coeden enfys gyda phaent acrylic ac wedi gwneud cwt haul pert gyda phrennau lolipop wedi eu paentio.

Flower Arrangement 5

Mae Ceri Jenkins wedi dysgu crochet a gwneud anifeiliaid hardd.  Mae wedi bod yn brysur yn pobi pizza ar gyfer ei theulu ac mae ei hwyrion wedi gwneud cacennau iddi hi. Mae hefyd wedi mwynhau paentio a mynd am dro ar y mynydd ger ei chartref yn Bedwas. 

20200425_152505.jpg
bee_edited.png

Mae Sheila wedi bod yn brysur!

watering can.png
Gardening-Fork-And-Trowel.png

Buodd Sheila Hopkins yn brysur yn ei thai gwydr amrywiol! Fe blannodd :

  • ​Riwbob

  • Pwmpen

  • Ciwcymbr coch

  • Tomatos Purple cherry a rhai coch a melyn

  • Ffa

  • Pupur coch, melyn a du

  • Tomato Alicante a Money maker

  • Rhuddygl

  • Cennin

  • Letys

  • Blodau :

  • Busy lizzie

  • Salvia

  • Bacops

  • Lobelia 

  • Verbena

  • Marigols

  • Aster

  • Gazania

  • Petunis

  • Begonia

  • Fuschia

Mae Sheila Hopkins wedi bod yn brysur yn gwneud llawer o fara yn ei pheiriant bara! Gan na allai brynu blawd yn yr archfarchnad fe brynodd fag 16kg ar y we. Mae hi’n mynd i wneud llawer o dorthau a’u rhoi i’w ffrindiau! 

Mae Shirley wedi bod yn brysur yn tyfu Planhigion i’r Peillydd i gadw gwenyn Caerffili yn brysur yn ystod cyfnod hunan-ynysu. 

Blodau i fi oddi wrtha i.

Anfonais amdanynt ar y we oddi wrth Bunches. Wrth fy modd gyda nhw. 

Shirley.

Cerfiodd Sarah o grwp crefftau’r Glowyr y llwyau caru hardd yma â llaw, a chi yn udo!

trains.jpg

Stuart's first lockdown project nearing completion

Lyn Elliott's May Day poem

verse.jpg

Paentiodd Katherine y robin hardd yma mewn dyfrliw.

robin%20-%20kh_edited.jpg
bottom of page