Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Prosiect Newid yr Hinsawdd i Blant
6 – 10 oed (Iau)
Gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym wedi sefydlu prosiect newid hinsawdd i blant #Letsgrowtogether. Bydd plant 6-10 oed yn gallu mynychu 17 o weithdai garddio am ddim, dan arweiniad Amie Locke, a gynlluniwyd i hyrwyddo gwerthoedd byw'n gynaliadwy drwy dyfu llysiau a gweld y rôl hanfodol y mae pryfed peillio yn ei chwarae wrth gynhyrchu ein bwyd. Yn ogystal â gweithgareddau garddio pleserus yng ngardd newid hinsawdd ein Canolfan, bydd y plant yn gallu mynd â gweithgaredd hwyliog yn ôl adref i'w cwblhau. Bob tymor, mewn dau o’n digwyddiadau, bydd cerdyn rysait ym mhob pecyn i hyrwyddo bwyta’n iach a ddarperir gan Michael Bell o Gaerdydd, - rheolwr marchnata ac awdur gweithiau am fwyd (gweler y wefan) Cynhelir y gweithdai garddio rhwng 24 Ebrill a 29 Ionawr 2022, ar ddydd Sadwrn olaf pob mis yn ystod y tymor ac yn wythnosol ar foreau Mercher yn ystod gwyliau'r ysgol, 10.30-12.30. Os yw'r tywydd yn wael, mae opsiwn casglu a gwneud gartref ar gael.
Hysbysiad i gyfranogwyr y Gweithdai Garddio Plannu a Thyfu ar ddydd Sadwrn a’r Gwyliau Haf
Fel y gŵyr llawer ohonoch, rydym yn cynnal rhaglen o weithgareddau garddio a chrefft bob mis ar benwythnosau yn ystod y tymor ac yn wythnosol yn ystod gwyliau'r ysgol.
Gobeithiwn fod y plant yn mwynhau'r sesiynau ac y byddant yn parhau i 'blannu a thyfu'. Yn ystod y sesiwn iau ddiwethaf, bu'n rhaid i ni wrthod plant siomedig o'r digwyddiad ac rydym am osgoi hyn.
Mae gan y gweithdai hyn elfen addysgol ac un o'r canlyniadau yw cael plant i gymryd mwy o ran mewn garddio a thyfu bwyd. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i blant sy'n gallu mynychu'n gyson drwy oes y prosiect dros y rhai sy'n dymuno mynychu un sesiwn yn unig.
​
Mae dros 60 o blant ar y gofrestr a gall cyfanswm o 26 o blant fynychu pob digwyddiad. Gan fod gennym fwy o blant na lleoedd, nid oes lle i bawb gofrestru ar gyfer pob sesiwn ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd plant yn gallu mynychu'r holl sesiynau. Rydym am sicrhau bod pob sesiwn yn llawn. Mae'n rhaid i ni hefyd gadw at gyfyngiadau Covid – sy'n golygu bod angen i bawb sy'n mynychu archebu ymlaen llaw.
Er mwyn sicrhau'r cyfle mwyaf posibl, rydym yn gosod y rheolau canlynol:
-
Dim ond y bobl hynny sydd ar gofrestr y sesiwn fydd yn gallu mynychu'r digwyddiad. Bydd y gofrestr yn cael ei llenwi i ddechrau gan bobl a fynychodd y digwyddiad diwethaf. Os oes mannau ychwanegol ar gael bydd y gofrestr yn cael ei hagor i eraill ar y rhestr, gyda'r rhai a roddodd rybudd o ddiffyg presenoldeb ar frig y rhestr a’r rhai na ddanfonodd neges ar y gwaelod.
-
Bydd y gofrestr ar agor 8 diwrnod cyn pob sesiwn a bydd cyfranogwyr yn cael 4 diwrnod i ymateb ar sail y cyntaf i'r felin. Byddant yn cael gwybod 3 diwrnod cyn pob sesiwn bod ganddynt le.
​
-
Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio ar gyfer digwyddiadau wythnosol gwyliau’r haf ar ddydd Mercher a dydd Iau a byddwn yn ymestyn y gofrestr gan na all pawb o'r gweithdai dydd Sadwrn fod yn bresennol.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhieni sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod y rhain yn ddigwyddiadau pleserus, boddhaus a gwerth chweil.
Our fifteenth gardening workshop - Wildlife Care is on Sat 27 November,
10.30 - 12.30
On the day of the event
Our fourteenth gardening workshop - Halloween is on Sat 30th October,
10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Cerdyn Rysait Am Ddim
Yn eich bag mae cerdyn rysait iachus ar gyfer Pesto a ddarparwyd gan Michael Bell -
Our thirteenth gardening workshop - Vampires and Garlic is on
Wed 27th October, 10.30 - 12.30
On the day of the event
Our twelfth gardening workshop - Bug Hotel is on Wed 25th August,
10.30 - 12.30
On the day of the event
Our eleventh gardening workshop - Sensory Garden is on Sat 28th August,
10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein degfed gweithdy garddio - Pwr Blodau ar
ddydd mercher Awst 25, 10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein nawfed gweithdy garddio - Gardd Pili Pala -
ddydd Mercher Awst 18, 10.30 - 12.30
Bydd ein wythfed gweithdy garddio - Gardd Pizza ar
ddydd Mercher 11 Awst, 10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Cerdyn Rysait Am Ddim
Yn eich bag mae cerdyn rysait iachus ar gyfer Pesto a ddarparwyd gan Michael Bell -
Darparwyd y rysait gan Michael Bell – Rheolwr Marchnata ac awdur erthyglau am fwyd
( gw. gwefan)
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein seithfed gweithdy garddio - Saladau Gwych ar
ddydd Mercher 4 Awst, 10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein chweched gweithdy garddio - Winnie the Pooh ar
​
ddydd Sadwrn Gorffennaf 31, 10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein pumed gweithdy garddio - Gardd Ddwyreiniol- ar
ddydd Mercher Gorffennaf 28, 10.30-12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein pedwerydd gweithdy garddio – Llysiau Gwraidd - ar
ddydd Mercher Gorffennaf 21, 10.30 – 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein trydydd gweithdy garddio – Pwtan y Gwningen – ar
ddydd Sadwrn Mehefin 26, 10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Bydd ein hail gweithdy garddio – Blodau Haul - yn dechrau ar
ddydd Sadwrn 29ain Mai, 10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
Cerdyn Rysait Am Ddim
Darparwyd y rysait gan Michael Bell – Rheolwr Marchnata ac awdur erthyglau am fwyd ( gw. gwefan)
Darparwyd y rysait gan Michael Bell – Rheolwr Marchnata ac awdur erthyglau am fwyd ( gw. gwefan)