Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Prosiect Gwau 2020
~Dyfyniadau gan y Gwewyr a’u Buddiolwyr~
Dyma’r Tîm Gwau a beth ddwedon nhw
Sue Williams Hengoed
Mae'n brosiect gwych ar gyfer dod â'r gymuned at ei gilydd ac yn dda i bobl gael rhywbeth i'w wneud. Rwyf wedi ymddeol yn gynnar ac rwyf bob amser wedi mwynhau gwneud pethau. Mae'n braf gorffen prosiect a rhoi blynyddoedd o bleser i bobl. Mae'n braf bod pobl eraill yn gwerthfawrogi eich gwaith. Mae hefyd yn dda i chi – mae gen i arthritis ac mae hyn yn fy nghadw i symud. Mae hefyd yn cadw eich meddwl yn brysur.
​
Leanne Stone, Caerphilly
Ymunodd â’r prosiect yn ystod y Toriad Tân. Byw yng Nghaerffili.
Moira Thompson
‘Pan ofynnwyd i mi a allwn helpu i orffen y blancedi yma, neidiais ar y cyfle gan ei fod nid yn unig yn rhywbeth a fyddai o fudd i eraill, ond byddai hefyd yn helpu i lenwi fy amser gyda rhywbeth a oedd â phwrpas go iawn.' Mae Moira a Leanne yn gymdogion.
Evelyn Clarke
Mae wedi crosio 4 blanced. Mae’n barod i wneud mwy yn ôl y galw a bydd yn cadw mewn cysylltiad.
Lindsay Neal, Stiward
Wedi bod yn ymwneud â gwau a crosio. "Cyn 2020, y tro diwethaf i mi wneud unrhyw grefftau o unrhyw fath mae'n debyg oedd cyn genedigaeth fy mab sydd bellach yn 25 oed. Yn ystod y Cyfyngiadau Symud roeddwn i'n lwcus i allu gweithio o gartref ond roeddwn i'n dal i'w chael hi'n anodd iawn peidio â gallu treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Credaf fod y crefftau'n gwarchod fy llesiant meddyliol, gan roi ffocws mawr ei angen i mi. Ers dod yn rhan o'r tîm rhagorol yng Nghanolfan y Glowyr rwy'n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o'r prosiect cyffredinol, ac rwy'n gobeithio y bydd ein blancedi'n rhoi rhywfaint o gysur i'r rhai sydd arnynt ei angen fwyaf."
Megan Williams
O Benyrheol a'n gwewr ieuengaf. Nid yw wedi bod yn crosio ers amser hir, ond serch hynny llwyddodd i grosio blanced hyfryd at ei gilydd.
Sheila Hopkins
Wedi crosio 4 blanced. Aelod o'r grŵp Crefft a Sgwrs. Roedd gallu cymryd rhan yn y prosiect yn helpu ei hiechyd meddwl yn ystod y pandemig.
Marion Watts
Wedi gwau blanced gyfan a phetryalau ychwanegol. "Mae'r prosiect hwn wedi rhoi rhywbeth i ni ei wneud yn ystod y cyfyngiadau symud ac wedi llenwi ein hamser gyda phwrpas da. Mae'n braf gallu gwneud rhywfaint o les i bobl mewn angen yn y gymuned."
Ruth Starr
Un o'n tîm Ymarferion Cadair a'n Grŵp Garddio. Mae Ruth wedi gwau petryalau ac wedi crosio'r petryalau at ei gilydd. "Er gwaetha'r tristwch o deimlo bod angen cymaint o flancedi ar gymaint o bobl, mae wedi bod yn bleser gweithio ar eu darparu. Mae teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth defnyddiol tra'n cadw ein hunain yn brysur yn y cyfnod rhyfedd hwn wedi bod o gymorth i ni a'r derbynwyr."
​
Joan Kerswell, 87 oed
Wedi gwau 2 flanced hardd, y byddwn yn eu rhoi i ddau o'n pobl hÅ·n ynysig. Mae hi wedi gwau ar hyd ei hoes ac yn falch o wau i ni yn ystod y cyfyngiadau symud.
Gwnaed hon gan Mrs Joan Kerswell ar y dde a'i chrosio gan Mrs Ruth Starr ar y chwith. Mae'r ddwy ohonynt yn aelodau o’r dosbarth Ymarfer Cadair. Mae Joan yn ei 80au hwyr. Mae gwau wedi'i chynnal hi drwy'r pandemig hwn.
Mandy Silver
‘Mor falch bod y petryalau'n mynd at achosion gwerth chweil. Mae mor hyfryd bod yn rhan o gymuned werth chweil.’
Dorothy Howells
Wedi gwau 50+ petrual.
Dawn Cole
Wedi gwau a crochu blancedi. 'Mae'r prosiect hwn gan y Glowyr i helpu eraill drwy wau petryalau ac wedyn crosio blancedi wedi lleihau fy lefelau straen ac wedi gwneud i mi deimlo'n ddefnyddiol yn ystod y cyfnod trawmatig hwn.'
Winnie Reid
Mae wedi rhoi 21 o flancedi mawr at ei gilydd a labelu 45. Mae wedi gwnio 39 o flancedi at ei gilydd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac mae’n ymddeol ym mis Chwefror!
​
Diolch Winnie am eich holl waith caled yn ystod y 5 mlynedd diwethaf!
Christine Powell a’i ffrindiau o Gynllun Cysgodi Abertyswg
Maent wedi gwau sgwariau ynghyd â 20 blanced. Dechreuon nhw gymryd rhan ym mis Hydref ac rydym wedi bod mewn cysylltiad byth ers hynny.
"Ychydig ohonom yn y Ganolfan Henoed cyn Covid oedd yn cael dosbarth crefft, gwnaeth rhai ohonom flancedi yn meddwl tybed a hoffech i ni wneud rhagor gan fod gennym ychydig wedi'u gwneud eisoes. Rydyn ni i gyd yn gaeth gyda Covid felly mae'n rhoi rhywbeth i ni ei wneud".
Anwen Hill
Daeth yn rhan o'n prosiect gwau yn yr haf. Yn byw yn uwch i fyny Cwm Rhymni. "Roedd bod yn rhan o'r prosiect hwn yn ystod cyfnodau mor ddigynsail yn gyfle i ganolbwyntio ar weithgaredd ymarferol iawn. Nid yn unig yr oedd yn fuddiol creu blancedi i eraill eu mwynhau ond hefyd rhoddodd ymdeimlad o bwrpas a boddhad i mi wrth gyfrannu at y gymuned ehangach."
Lynda Hawkins
Ymunodd yn yr haf. Mae wedi gwau llawer o betrualau. Bydd yn dod â mwy i ni yn y flwyddyn newydd.
Y 44 blanced mewn bagiau wedi eu selio gyda rhuban yn barod i’w cyflwyno.
Y Cyflwyno
~Mawrth 8fed Rhagfyr~
Mae cyfanswm o 44 o flancedi wedi'u gwau gan fwy na 30 o wirfoddolwyr, rhwng 18 ac 87 oed, o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r llun isod yn dangos rhai o'r gweuwyr sy'n rhan o'r prosiect a'r buddiolwyr gan gynnwys: Llamau - Lloches i fenywod, prosiect Cyswllt United Welsh a chynllun tai gwarchod CBSC. Roedd Hefin David AC/Aelod MS o Senedd Caerffili yn bresennol i drosglwyddo'r blancedi i'r buddiolwyr.
Hefin David AS & Katherine yn dal blanced
Hefin David AS yn cyflwyno blanced i Karen Hayes– Llamau
Katherine a Hefin David AS yn dal blanced dros fainc goffa Dorothy Tilley
Haydn Stanley o United Welsh yn derbyn ei flancedi
Pwy wnaeth elwa o dderbyn y blancedi?
Rydych siwr o fod yn dyfalu pwy yn union fu’n ddigon lwcus i gael y blancedi hyfryd yma y cymerwyd oriau o waith caled i’w creu!?
Wel dyma restr o fuddiolwyr gyda dyfyniadau :-
Llamau (Llochesi i fenywod) : Karen Hayes
Mae llochesi Llamau yn rhoi cymorth i 28 o deuluoedd ar y tro ar draws Caerffili a byddant yn derbyn 28 blanced
Annwyl Katherine a phawb yng Nghanolfan y Glowyr
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr iawn i chi i gyd am y blancedi yr ydych wedi'u gwau â llaw i ni ar gyfer menywod yn ein llochesi yn y fwrdeistref.
Mae ein menywod a'n plant wedi bod drwy gymaint o drawma ar eu taith i gyrraedd lloches, bydd y rhodd hon yn eu hatgoffa, er gwaethaf yr holl brofiadau ofnadwy y maent wedi'u dioddef, fod pobl allan yna sy'n meddwl amdanynt ac yn meddwl am ffyrdd o ddod ag ychydig o hapusrwydd a meddylgarwch i'w bywydau. Mae pob sgwâr yn cynrychioli person sy'n meddwl am gam-drin domestig a'r effaith y mae'n ei gael ar bobl yn ein cymunedau, yn enwedig yn ystod cyfnod y cyfyngiadau. Mae pob person sy'n meddwl am gam-drin domestig a'i effaith ofnadwy yn gam arall tuag at wneud pawb yn ymwybodol ohono a dod ag ef i ben unwaith ac am byth. Mae pob sgwâr yn cynrychioli dieithryn sy'n meddwl am ddieithriaid eraill sy'n dioddef, ac mae hyn yn symbol pwerus iawn o gefnogaeth ac empathi.
Bydd y rhodd hon yn golygu llawer iawn i fenywod a theuluoedd sydd mewn sefyllfaoedd anodd ac ansicr iawn ar hyn o bryd a gobeithiwn y daw ag ychydig o gysur. Unwaith eto, Diolch.
Haydn Stanley, Prosiect Cyswllt United Welsh
Mae Canolfan y Glowyr Caerffili yn gweithio mewn partneriaeth ag United Welsh fel rhan o brosiect mynd i'r afael ag unigedd pobl hÅ·n, a ariennir yn rhannol gan GAVO.
Cynllun Tai Gwarchod CBSC (Victoria Roper)
​
Hoffem ddiolch yn ddiffuant i Ganolfan y Glowyr Caerffili am y blancedi hardd a wnaed â llaw ac a grëwyd ar y cyd gan eu gwirfoddolwyr Aeron Aeddfed a'n tenantiaid tai gwarchod. Mwynheuodd ein tenantiaid tai gwarchod wau a chrosio'r sgwariau a gyflwynwyd i'r Ganolfan fel y gallai gwirfoddolwyr Aeron Aeddfed eu gwnïo at ei gilydd ac ychwanegu'r cyffyrddiadau addurno hardd.
Mae'r prosiect wedi creu agwedd gadarnhaol sylweddol ymhlith y tenantiaid hynny a gymerodd ran ac rydym wedi derbyn sylwadau bod gallu canolbwyntio ar wau wedi eu helpu drwy gyfnod anodd iawn.
Bydd y blancedi'n rhoi cysur a chynhesrwydd i'n tenantiaid dros fisoedd oerach y gaeaf a gallant eu mwynhau gan wybod eu bod wedi cael eu gwneud â llaw gydag ymroddiad a chariad.
Edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith partneriaeth gyda Chanolfan y Glowyr Caerffili i ddatblygu'r prosiect blancedi ymhellach ac i ddatblygu prosiectau newydd a chyffrous i'n tenantiaid eu mwynhau.