top of page

Cymryd Rhan

Gallwch chi wneud gwahaniaeth

Does dim rhaid i bellter cymdeithasol olygu unigrwydd.

 

Yn ystod y 9 mis diwethaf cyfrannodd ein gwirfoddolwyr y cyfanswm enfawr o 6790 awr i’n prosiect, yn cynnal yr adeilad, garddio, arlwyo, crefftau, gweithgareddau cymdeithasol i’r ifanc a’r oedrannus, rhannu sgiliau, codi arian a gweinyddu. Cafwyd gwaith tîm ardderchog! Mae gwirfoddoli wedi helpu pobl i ddod allan o’r tÅ·, cwrdd â ffrindiau newydd, teimlo’n rhan o’r prosiect a chael hwyl. Bydd yn ymdrech i ni gadw hyn i fynd yn ystod yr wythnosau nesaf – ond rhown gynnig arni!

 

Byddwn yn postio gweithgareddau i’w gwneud gartref ar ein gwefan, gan ddechrau gyda’r Aeron Aeddfed, y cyntaf i gael eu hynysu…… Hoffem i chi wneud sylwadau, cyfrannu syniadau a dweud wrthym sut mae pethau’n dod ymlaen. Mae angen cymorth pawb i gynnal ein hysbryd.

 

Mae’r Grwp Aeron Aeddfed wedi postio awgrymiadau am bethau i wneud gartref. Byddwn yn trefnu system ffrindiau ffôn a grwpiau WhatsApp ar gyfer y rhai â ffoniau symudol.

 

Bydd ein grwp Crefft a Sgwrs yn cysylltu ar y ffôn ac yn rhannu syniadau am bethau i wneud.

 

Bu’n rhaid gohirio sesiynnau crefftau, ffilm a the parti i blant misoedd Mawrth ac Ebrill ond gobeithiwn allu rhannu’r syniadau ar gyfer crefftau gyda rhieni ar gyfer plant 3 – 8 oed.  Croesewir unrhyw syniadau.

 

Bydd rhai arweinwyr dosbarth yn cynnal gweithgareddau ar y we ac yn postio syniadau i’n cadw i fynd.

 

Mwy i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

Cysylltwch â:  Katherine a’r grwp marchnata ar  - secretary@caerphillyminerscentre.org.uk 029 2167 4242

Gwirfoddolwch eich amser

Mae bron popeth sy’n digwydd yng Nghanolfan y Glowyr yn ganlyniad i ymdrech gwirfoddolwyr. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli yn addas i bob angen a gallu. Gwirfoddolwyr yw ein hymddiriedolwyr a’n deiliaid allwedd, mae gwirfodolwyr yn rheoli ein cyllid a marchnata, yn rhedeg y café, yn helpu i gynllunio digwyddiadau fel y Fforwm Ieuenctid, Aros a Chwarae, dosbarthiadau iaith, garddio, gweithgareddau cerddorol, celf a chrefft a’r Aeron Aeddfed​​​​

​

Rydym wedi ymroi i gefnogi ac annog gwirfoddoli yn ein sefydliad drwyddi-draw ac i sicrhau ei fod yn rhoi pleser a boddhad i unigolion. Gall hyn gynnwys hyfforddiant, y boddhad o fod yn rhan o dîm, a chydnabod cyfraniad unigryw pobl i’n prosiect.

​

Os hoffech helpu neu gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â secretary@caerphillyminerscentre.org.uk 029 2167 4242

Vol group.jpg

Mae gwirfoddoli yn darparu galluoedd angenrheidiol i’n prosiect. Heb weithgareddau dros 50 o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser yn rheolaidd, ni allem gyflwyno ein prosiectau, cadw’r adeilad ar agor na chysylltu â’n cymuned.   Mae gwirfoddoli yn cyfrannu at ysgogi syniadau newydd, rhedeg gweithgareddau, cefnogi’r adeilad, codi arian, cysylltu â’r gymuned a marchnata. Hebddo ni allem ddangos wyneb dynol ein prosiect na darapru gweithgareddau hygyrch a fforddadwy.    

 

Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i bobl ddatblygu eu sgiliau a’u cyfleoedd gyrfa ac yn ein galluogi ni i elwa o’u profiad, egni ac ewyllys da. Hoffem ddiolch i’n cymuned, ymddiriedolwyr, aelodau, gwirfoddolwyr, rhai’n cymryd rhan, busnesau lleol, ein partneriaid a’n cefnogwyr – pawb wedi helpu i lunio’n prosiect a’i wneud yn fywiog. Mae arnom ddyled fawr i’n gwirfoddolwyr sy’n cyfrannu dros 500 awr o amser bob mis.

 

Gyda’n gilydd rydym wedi cysylltu â’r gymuned, wedi rhoi llawer o bleser i bobl, wedi ychwanegu dimensiwn newydd i’n prosiect, wedi gwneud penderfyniadau pwysig ac wedi cael hwyl.

 

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, dysgu neu wneud rhywbeth newydd a chael hwyl. Mae ein gwirfoddolwyr yn bobl ymroddedig sy’n hyblyg a brwdfrydig wrth wneud gwahaniaeth sylweddol i’r gwasanaeth y gall CGCG ei gynnig i gymuned Caerffili. Rydym yn parhau i chwilio am wirfoddolwyr o bob math o gefndiroedd gydag ystod eang o sgiliau a diddordebau.

bottom of page