Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
~ Tachwedd 2021 ~
30 November 2021
Aeron Aeddfed yn cyfrannu at Fanc Bwyd Caerffili
Fel rhan o gynllun yr Aeron Aeddfed i gael y wybodaeth ddiweddara, gwahoddwyd tîm Bwyd Banc Caerffili gan Marjorie Gray i ddweud wrthom am eu gwaith.
Siaradodd Andy, a sefydlodd y Banc Bwyd unarddeg o flynyddoedd nôl, yn ein cyfarfod ar 30 Tachwedd. Mae eu gwaith wedi ehangu’n ddramatig yn y blynyddoedd diweddar.
Rheolir gwaith y Banc Bwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell i sicrhau bod pob un o’r rhoddion yn cyrraedd trigolion bone fide.
Casglodd yr Aeron Aeddfed, y grŵp Dawns mewn cadair a’r grŵp Ymarfer mewn cadair ar gyfer y Bwyd Banc yr wythnos hon ac yng nghyfarfod yr Aeron Aeddfed, gwnaethpwyd y penderfyniad i gasglu pethau ar gyfer y Banc Bwyd bob mis fel rhan o ymrwymiad Canolfan y Glowyr i’r gymuned.
Bydd gweithgareddau cyffrous cyn y Nadolig a gobeithiwn ehangu ein gweithgareddau ac aelodaeth unwaith inni gael mwy o le yn y Ganolfan yn y flwyddyn newydd. Rydym hefyd yn cysylltu â’r tenentiaid ym Mhlas Hyfryd a Cole Court trwy sgwrs wythnosol ar Zoom.
Os hoffech ymuno â’r Aeron Aeddfed, cysylltwch â’r Ysgrifenyddes ar
029 2167 4242 secretary@caerphillyminerscentre.org.uk
neu galwch i mewn i’r Glowyr i gael rhaglen.