Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Cole Court
Mornington Meadows
Plas Hyfryd
Castle Maen
Wedi ei ariannu trwy Gronfa 'Together' United Welsh , nod Prosiect Allgymorth Glowyr Caerffili yw ymestyn y ddarpariaeth bresennol a datblygu gweithgareddau newydd ar gyfer pobl hÅ·n yn y gymuned, boed hynny yn bersonol neu dros Zoom.
​
Mae'r prosiect yn darparu tenantiaid cynlluniau llety ar draws y Fwrdeistref gyda chyfleoedd i gwrdd â phobl newydd, dysgu rhywbeth newydd a chael hwyl. Mae ein tîm o wirfoddolwyr wedi sefydlu rhaglen o weithgareddau cyson yn llwyddiannus yn y cynlluniau llety yma sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd, gan gynnwys ymarferion cadair, dosbarthiadau celf, prynhawniau cymdeithasol Aeron Aeddfed y Glowyr a chyrsiau cynhwysiant digidol.
​
Wrth ddarparu ymgysylltiad rheolaidd, ymarfer corff a sesiynau creadigol mae'r prosiect hwn wedi addasu sesiynau llwyddiannus y Glowyr i fod yn fwy hygyrch a pherthnasol i hyd yn oed mwy o bobl yn ein cymuned.
Cefnogi trigolion ar ein Cwrs Digidol
Gwaith Celf a grewyd yn y Dosbarthiadau Celf
Tystebau
Mae mynychu dosbarthiadau'r cwrs digidol wedi fy ngalluogi i fynd allan o'm parth cysur gyda thechnoleg. Rwyf wedi dysgu llawer o bethau sy'n bwysig i 'w gwybod mewn byd sy'n ein gwthio i ddefnyddio mwy ar ein ffonau a'n tabledi. Mae wedi bod yn amhrisiadwy i ddysgu sut i greu pasbort covid mewn amgylchedd galonogol a chefnogol. Mae'r athro a'r gwirfoddolwyr wedi bod yn wych ac wedi rhoi'r dewrder i mi ddefnyddio fy negeseuon e-bost a bancio yn amlach ar fy ffôn. Mae wedi bod yn wych bod y cwrs hwn wedi ei gynnig trwy'r prosiect allgyrraedd. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl i mi fynychu cwrs a fyddai'n amhosibl fel arall.
-Pat-
Mae'r sesiynau galw heibio wedi bod yn wych! Rwy'n gwybod bod tîm digi cefnogol a all fy helpu gyda fy holl broblemau digidol gan gynnwys Pasbort Covid a'm negeseuon e-bost.
-Maggie-
Rwyf wedi dysgu sut i chwilio ar Google ac edrych ar y newyddion pan fyddaf eisiau. Mae Mel a'r gwirfoddolwyr wedi rhoi'r hyder i mi roi cynnig ar hyn ar fy mhen fy hun.
-Val-
​
Ein tim
Tara - Mae Tara yn arbenigwr cymorth TG cymwysedig, yn raddedig yn y celfyddydau perfformio ac yn berson sydd ag angerdd am rymuso unrhyw un sydd â sgiliau TG sylfaenol i frwydro yn erbyn ynysu. Ei rôl wirfoddol yw cysylltu rhai yn y gymuned â digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghanolfan y Glowyr trwy dechnoleg. Mae Tara hefyd yn arwain y dosbarthiadau celf wythnosol, gan gefnogi llesiant cyfranogwyr trwy weithgareddau artistig a cherddoriaeth.
Helen - Mae Helen yn cyfarfod yn wythnosol gyda thrigolion yn eu lolfa gymunedol mewn cynllun lleol. Mae'r sesiwn yn cysylltu drwy Zoom a grŵp yr Aeron Aeddfed yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili lle mae ystod eang o weithgareddau ar gael. Pan nad yw'r weithgaredd a gynlluniwyd yn gyfeillgar i Zoom, mae Helen yn darparu gweithgareddau amgen yn bersonol. Mae'r gweithgareddau yn cael eu hystyried yn dda er mwyn rhoi i bawb dan sylw amser pleserus yn cymdeithasu a chynnal symudedd yn ogystal â chadw'r ymennydd yn fywiog.
Cymrwch ran
Gall gwirfoddolwyr allgymorth gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a bod yn rhan o dîm sy'n gweithio i hybu hyder a llesiant ymysg cyfranogwyr. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys:
​
-
Cynnal dosbarthiadau celf a phrynhawniau cymdeithasol yr Aeron Aeddfed
-
Gosod Zoom mewn lolfa gymunedol er mwyn i gyfranogwyr allu dilyn gweithgareddau
-
Cynorthwyo arweinydd trwy siarad a phobl a helpu i redeg gweithgareddau
​
Mae gwirfoddoli yn y prosiect Allgymorth yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili wedi rhoi cyfle i mi fynd allan i'r gymuned a chefnogi rhai nad ydynt fel arall yn gallu mynychu gweithgareddau. Mae'r amgylchedd gefnogol yn y Glowyr wedi fy helpu i fagu hyder a rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi. Mae'n lle gwych i wirfoddoli gan fod ystod eang o weithgareddau i fod yn rhan ohonynt a gallwch wneud gwahaniaeth yn y gymuned.
-Tara-
​
Os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod ymuno fel aelod o'r dosbarth neu wirfoddolwr, cysylltwch os gwelwch yn dda.
Ebostiwch : volunteer@caerphillyminerscentre.org.uk