top of page
DS_Smith_log_edited.jpg
Prosiect Newid Hinsawdd Plant
3 - 5 oed (Sylfaen)
DS_Smith_log_edited.jpg

Cawsom ein syfrdanu pan roion ni’r cyhoeddusrwydd cyntaf i'n prosiect gardd newid hinsawdd a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar Facebook - ar Ddydd Mercher 7 Ebrill - wrth weld cymaint o alw am leoedd!  Cawsom ymateb rhy dda gyda dros 70 o bobl eisiau un o'r 24 lle!  Yna penderfynwyd sefydlu dau grŵp, un ar gyfer y cyfnod sylfaen (3-5 oed) a'r llall ar gyfer plant iau (5 + oed).

 
Bydd y grŵp sylfaen #Letsgrowtogether a ariennir gan DS Smith yn cynnwys mwy o grefftau ac yn dechrau ar ddydd Sadwrn 12 Mehefin.

children_planting_flowers_theme_colorful

Yn ddelfrydol, hoffem sefydlu clwb/grŵp garddio gyda'r un plant yn dod i bob un o'r 15 gweithdy ond nid yw hyn bob amser yn ymarferol.  Cysylltwyd â'r rhieni a gofynnwyd iddynt gadarnhau pa weithdai y gallent eu mynychu ac os oedd unrhyw fylchau yna gellid neilltuo lleoedd i'r plant ar ein rhestr aros.  Dyma'r ffordd decaf o wneud pethau fel bod plant ar y rhestr aros yn cael y cyfle i ddod.

unnamed.jpg

Bydd plant 3 - 5 oed yn gallu mynychu 15 gweithdy garddio am ddim, dan arweiniad Tasha Gittings.  Fe'u cynlluniwyd i hyrwyddo gwerthoedd byw'n gynaliadwy drwy dyfu llysiau a'r rôl hanfodol y mae pryfed peillio yn ei chwarae wrth gynhyrchu ein bwyd.  Yn ogystal â gweithgareddau garddio pleserus yng ngardd newid hinsawdd ein Canolfan, bydd y plant yn gallu mynd â phecyn gweithgareddau hwyliog adref i'w gwblhau.  Cynhwysir cerdyn rysáit yn y pecyn hefyd i hybu bwyta'n iach a ddarparwyd gan , Michael Bell o Gaerdydd - rheolwr Marchnata ac un sy’n ysgrifennu am fwyd (gweler ei wefan).  Cynhelir y gweithdai garddio rhwng 12 Mehefin a 29 Ionawr 2022, ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis yn ystod y tymor ac yn wythnosol ar fore Iau 10.30 - 12.30 yn ystod gwyliau'r ysgol. Os yw'r tywydd yn wael, mae opsiwn casglu a gwneud gartref ar gael.

​

Hysbysiad i gyfranogwyr y Gweithdai Garddio Plannu a Thyfu ar ddydd Sadwrn a’r Gwyliau Haf 

 

Fel y gŵyr llawer ohonoch, rydym yn cynnal rhaglen o weithgareddau garddio a chrefft bob mis ar benwythnosau yn ystod y tymor ac yn wythnosol yn ystod gwyliau'r ysgol.  

 

Gobeithiwn fod y plant yn mwynhau'r sesiynau ac y byddant yn parhau i 'blannu a thyfu'. Yn ystod y sesiwn iau ddiwethaf, bu'n rhaid i ni wrthod plant siomedig o'r digwyddiad ac rydym am osgoi hyn.  

 

Mae gan y gweithdai hyn elfen addysgol ac un o'r canlyniadau yw cael plant i gymryd mwy o ran mewn garddio a thyfu bwyd.  Rydym yn rhoi blaenoriaeth i blant sy'n gallu mynychu'n gyson drwy oes y prosiect dros y rhai sy'n dymuno mynychu un sesiwn yn unig. 

​

Mae dros 60 o blant ar y gofrestr a gall cyfanswm o 26 o blant fynychu pob digwyddiad.  Gan fod gennym fwy o blant na lleoedd, nid oes lle i bawb gofrestru ar gyfer pob sesiwn ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd plant yn gallu mynychu'r holl sesiynau.  Rydym am sicrhau bod pob sesiwn yn llawn.  Mae'n rhaid i ni hefyd gadw at gyfyngiadau Covid – sy'n golygu bod angen i bawb sy'n mynychu archebu ymlaen llaw.   

 

Er mwyn sicrhau'r cyfle mwyaf posibl, rydym yn gosod y rheolau canlynol: 

 

  • Dim ond y bobl hynny sydd ar gofrestr y sesiwn fydd yn gallu mynychu'r digwyddiad.  Bydd y gofrestr yn cael ei llenwi i ddechrau gan bobl a fynychodd y digwyddiad diwethaf.  Os oes mannau ychwanegol ar gael bydd y gofrestr yn cael ei hagor i eraill ar y rhestr, gyda'r rhai a roddodd rybudd o ddiffyg presenoldeb ar frig y rhestr a’r rhai na ddanfonodd neges ar y gwaelod.

 

  • Bydd y gofrestr ar agor 8 diwrnod cyn pob sesiwn a bydd cyfranogwyr yn cael 4 diwrnod i ymateb ar sail y cyntaf i'r felin.  Byddant yn cael gwybod 3 diwrnod cyn pob sesiwn bod ganddynt le.  

​

  • Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio ar gyfer digwyddiadau wythnosol gwyliau’r haf ar ddydd Mercher a dydd Iau a byddwn yn ymestyn y gofrestr gan na all pawb o'r gweithdai dydd Sadwrn fod yn bresennol.   

 

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhieni sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod y rhain yn ddigwyddiadau pleserus, boddhaus a gwerth chweil.   

Let's grow together project.png
Let's grow together project (1).png
    On the day of the event
Learn more about Wildlife!
See the RSPB website.
https://www.rspb.org.uk/
download (7).jpg
Our thirteenth gardening event - Wildlife Care is on Sat 13 November,
10.30 - 12.30
INFANT Workshop FB posters (1).png
    On the day of the event
unnamed (5).jpg
unnamed (5).png
unnamed (5).jpg
unnamed (5).png
Our twelfth gardening event - Halloween is on Thurs 28 October,
10.30 - 12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad 
 Cerdyn Rysait Am Ddim 

Yn eich bag mae cerdyn rysait iachus ar gyfer Pesto a ddarparwyd gan Michael Bell - 

https://mikeyandthekitchen.com

4.jpg

Darparwyd y rysait gan Michael Bell – Rheolwr Marchnata ac awdur erthyglau am fwyd

( gw. gwefan

Cliciwch yma am y rysait 

Our eleventh gardening event - Vampires and Garlic is on Sat 9th October,
10.30 - 12.30
Tasha's Workshop FB posters (13).png

  On the day of the event

220_F_32619_tNtYUR0BcYVR1KlD9SXzQD1KuiebuK.jpg
download (4).jpg
220_F_32619_tNtYUR0BcYVR1KlD9SXzQD1KuiebuK.jpg
download (4).jpg
Our tenth gardening event - Autumn Themed 'Trees' is on Saturday 11th September, 10.30 - 12.30

  On the day of the event

download (5).png
220_F_333694658_2bORPwsHeYW548B7OlYD4xS6wUYBOjAH.jpg
download (4).png
download (5).png
220_F_333694658_2bORPwsHeYW548B7OlYD4xS6wUYBOjAH.jpg
download (4).png
Our ninth gardening event - Mini Beast is on Thursday 26th August,
10.30 - 12.30
Tasha's Workshop FB posters (11).png

Ar ddiwrnod y digwyddiad

Watercolor Butterfly 19
Orange Butterfly 2
Watercolor Butterfly 10
Watercolor Butterfly 19
Orange Butterfly 2
Watercolor Butterfly 10
Mae’r wythfed digwyddiad garddio - Gardd Pili Pala - ar
ddydd Iau Awst 19, 10.30 - 12.30
Tasha's Workshop FB posters (10).png

Ar ddiwrnod y digwyddiad

Hands
Eye
Hands
Eye
Mae ein seithfed digwyddiad garddio - Gardd y Synhwyrau - ar
ddydd Sadwrn Awst 14, 10.30-12.30
Tasha's Workshop FB posters (9).png

Ar ddiwrnod y digwyddiad

 Cerdyn Rysait Am Ddim 

A healthy recipe card for Pesto can be found inside your eco bag provided by Michael Bell - https://mikeyandthekitchen.com

Pesto.jpg

Darparwyd y rysait gan Michael Bell – Rheolwr Marchnata ac awdur erthyglau am fwyd

( gw. gwefan) 

Cliciwch yma am y rysait 

Mae ein chweched digwyddiad garddio - Gardd Pizza -
ddydd Iau Awst 12, 10.30-12.301
Tasha's Workshop FB posters (6).png
Ar ddiwrnod y digwyddiad
download (3).jpg
unnamed (3).png
download (3).jpg
download (3).jpg
unnamed (3).png
download (3).jpg
Bydd ein pumed digwyddiad garddio - Saladau Gwych ar
ddydd Iau 5 Awst, 10.30 - 12.30
Tasha's Workshop FB posters (5).png

Ar ddiwrnod y digwyddiad

Flower Plant
Flower Plant
Flower Plant
Flower Plant
Bydd ein pedwerydd gweithdy garddio - gardd ddwyreiniol- ar
ddydd Iau, Gorffennaf 29,  10.30-12.30
Ar ddiwrnod y digwyddiad
unnamed (3).jpg
unnamed (2).png
unnamed (3).jpg
images.png
Bydd ein trydydd digwyddiad garddio - Save our Seas/ Finding Nemo-
ar ddydd Iau Gorffennaf 22, 10.30 - 12.30.
Tasha's Workshop FB posters (4).png
unnamed (1).jpg
Achos y tywydd gwael roedd hwn yn ddigwyddiad casglu a chludo felly does dim fideo
unnamed (1).jpg
Ein gweithdy garddio nesaf fydd Winnie the Pooh, dydd Sadwrn Gorffennaf 10, 10.30-12.30.
Tasha's Workshop FB posters (2).png
        Ar ddiwrnod y digwyddiad 
 Cerdyn Rysait Am Ddim 

Rysait rhad ac am ddim ar gyfer muffins pannas gydag eisin caws hufennog sinsir ac oren ( + deilen pannas & pesto cnau collen )

parsnip muffins.jpg

Darparwyd y rysait gan Michael Bell – Rheolwr Marchnata ac awdur erthyglau am fwyd ( gw. gwefan) 

Cliciwch yma am y rysait 

Bydd ein gweithdy garddio cyntaf – Pwtan y Gwningen -  yn dechrau ar Sadwrn 12fed Mehefin, 10.30 - 12.30! 
Tasha's Workshop FB posters (1).png
bottom of page