top of page
knitting-wool-clipart.jpg
    Y Prosiect Gweu
- 2021 -
knitting-wool-clipart.jpg
Datganiad i'r Wasg - Cyflwyno Blanced Dydd Gwener 26ain Tachwedd am 11.00am yng Nghanolfan y Glowyr
Blancedi Nadolig 

Mae gwirfoddolwyr gwau Canolfan y Glowyr Caerffili wedi ehangu eu prosiect blynyddol Blancedi Nadolig eleni. Cafodd y prosiect, a ddeilliodd yn wreiddiol o Brosiect Coed Nadolig Undeb Mamau Plwyf Caerffili, ei adfywio yn 2020 fel ffordd o ysgogi pobl leol trwy gyfnodau cloi Covid ac mae wedi parhau fel ffordd o gadw pobl yn gysylltiedig a'i gilydd.

Eleni, rydym wedi derbyn bagiau o betryalau wedi'u gwau o gyn belled â Gwlad yr Haf, y Rhondda a Chaerdydd, yn ogystal â llawer, llawer mwy gan wirfoddolwyr lleol. Mae dros 40 o bobl o bob oed wedi cymryd rhan, o weuwyr a chroswyr yn eu 20au a’u 30au i’r rheini ymhell yn eu 80au. Mae mwy na 60 o flancedi wedi cael eu gwau a’u crosio’n gariadus at ei gilydd eleni. Mae pob blanced yn cynnwys 25 sgwâr sy'n cymryd tua 25 awr i'w gwau ac o leiaf 6 neu 7 awr arall i'w crosio at ei gilydd. Dyma ryw 1800 - 1900 0 oriau gwirfoddoli.

Mae'r gwirfoddolwyr wedi croesawu’r cyfle i gyfrannu at brosiect mor werth chweil ac mae wedi eu cadw i fynd trwy adeg lle roedd mwy o amser gartref a llai o gyfleoedd i weld eraill a chymdeithasu. Maent i gyd wedi mwynhau bod yn rhan o fenter leol sydd hefyd yn helpu eraill.

Dywedodd un o'n gweuwyr gwirfoddol, Caroline Kitson, wrthym sut roedd hi'n teimlo pan ddaeth i mewn i gyflwyno ei phetryalau:

'Rydw i wedi bod yn gwau petryalau blanced ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth 2020. Roeddwn i'n teimlo'n eithaf emosiynol yn cludo bron i 50 i'r Ganolfan heddiw, nid yn unig am fod y gwau yn mynd at achosion mor deilwng, ond am ei gynrychiolaeth o'r cyfnodau cloi a'r cyfyngiadau ar ein bywydau yn y cyfnod hwnnw '.

Bydd Hefin David, AS Caerffili yn cyflwyno’r blancedi eleni i Llamau, yn cefnogi Llochesi Merched, ac i’r prosiect Warm Hug, rhan o’r Rhwydwaith Rhieni yng Nghaerffili.

Mae un flanced hefyd wedi’i rhoi i’r teulu cyntaf o ffoaduriaid o Afghanistan i gael eu cartrefu ym Mwrdeistref Caerffili, fel anrheg i’w croesawu.

​

thumbnail_Caroline Kitson.jpg

Caroline Kitson

Hefin_David_AM_(28170811245).jpg

Dwedodd Hefin David AS :

​

'Rydw i wrth fy modd yn cyflwyno'r blancedi yma i Llamau a'r Rhwydwaith Rhieni ar ran gwirfoddolwyr Canolfan y Glowyr. Mae'r ymdrech a'r ymroddiad a roddwyd i wneud y blancedi yn anhygoel, mae'n symbol o holl bwrpas y Glowyr. Mae'n bleser bod yn rhan o'r prosiect ac i glywed mwy am y grwpiau fydd yn derbyn y blancedi.'

Mae’r bobl ganlynol wedi cyfrannu at brosiect gweu blancedi Nadolig 2021. Fe gymerodd Pauline Elcock gyfrifoldeb am y prosiect yn lle Katherine Hughes ym mis Medi 2021. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd am eich cefnogaeth arbennig i helpu gwella ansawdd bywyd eraill yn y gymuned.

Ruth Starr

Sue Williams

Sheila Hopkins

Anwen Hill

Marion Watts

Lynda Clark

Lynda Hawkins

Sue Nightingale-Roberts

Victoria Roper - and her participants

Dawn Cole

Helen P

Caroline Kitson

Charlotte Johnson

Avril Owen

Gill Mills

Manon Fielding

Rose Wotton

Pamela Stephens

 

Jessica Jones

Jayne Sutherland

Leanne Stone

Moira Thomson

Katharine Creighton-Griffiths

Kelly Walsh

Liz Webber

Belinda Snow

Sonya Foley

Karen Hayes

Tara Candlin – and her participants

Sue Balch

Ann Lewis

Jenni Jones-Annetts

Joan Kerswell

Dorothy Howells

Liz Jenkins

Sue Masters

Anthony's mother-in-law

Please read our news story on the knitted Christmas tree that was given to us by Caerphilly Benefice Mothers' Union members to display at our Centre.  

IMG-20211206-WA0016.jpg
bottom of page