Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Arlwyo
Gallwch chi wneud gwahaniaeth
Llongyfarchiadau i aelodau’n Tîm Arlwyo!
Llongyfarchiadau i Kate, Tasha, Rhiannon, Avril, Marion, Karen, Susan, Sheila, Yvonne, Meghan, Stephen a Katherine am ennill tystysgrifau lefel 2 mewn Hylendid. Darparwyd y cwrs trwy ein prosiect gwirfoddoli a’i gyflwyno gan Steve o Addysg Oedolion Cymru. Mae pob un o’r grwp yn wirfoddolwyr cofrestredig ac yn rhan o’r Tîm Arlwyo sy’n cael ei ddatblygu. Dyma rai o’r gwleddoedd maen nhw wedi eu paratoi yn barod.
Sylwadau gan aelodau’r tîm:
Dw i’n cael blasu’r holl bobi anhygoel, rheoli ansawdd. Mae’n rhaid i rywun wneud hynny! Kate
Bywyd cyn hunan-ynysu! Cwrs gwych gyda chyd-wirfoddolwyr … edrych ymlaen at ei ddefnyddio’n fuan. Yvonne
Dw i’n wirfoddolwr newydd, ond gyda fy nhystysgrif hylendid bwyd, rwy’n edrych ymlaen at fwy o adegau hapus yn y Glowyr. Susan
​
Nawr bod gen i dystysgrif Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo, gallwch fod yn siwr na fyddaf yn eich gwenwyno! Gall gwirfoddolwyr y Grwp Crefft barhau i fwynhau sgons cartref bob dydd Llun. Sheila
​
Roedd y cwrs wedi ei strwythuro’n dda gydag adnoddau pwrpasol, cafodd ei gyflwyno’n glir ac mewn dull dymunol. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy hoffter o bobi wrth helpu paratoi buffet a the prynhawn. Marion
​
Dw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r tîm arlwyo yng Nghanolfan y Glowyr. Mae cyfleoedd gwirfoddoli gwych i bobl sy’n ymddiddori mewn arlwyo a da gwybod ein bod yn gwneud pethau mewn dull diogel. Diolch am y cyfle i gael fy nhystysgrif Hylendid Bwyd trwy’r prosiect gwirfoddoli. Katherine