Mae gennym weledigaeth o le ble gall pobl leol o bob oedran ddod at ei gilydd, teimlo’n rhan o’n cymuned, dysgu gan ei gilydd a dathlu ein treftadaeth arbennig.
​
Mae arnom eisiau rhoi ‘r Glowyr yn ôl i’r gymuned!
Craft Wall
Our craft groups have shared some of their creations as inspiration. Please get n touch to find out more about our craft class, and things you can do from home until our doors open again.
Craft Wall
Cylchoedd Chwarae Stay and Play i Blant
YN YSTOD Y PANDEMIG
​
CYLCHOEDD CHWARAE STAY AND PLAY & GLOWYR BACH CAERFFILI
​
Mae ein cylchoedd chwarae i blant wedi uno yn ystod Covid gan fod galw mawr am leoedd.
​
Ar hyn o bryd maen nhw'n rhedeg ar ddyddiau Mercher, Iau a Gwener 9.30 - 11.30am ac mae angen i chi archebu ymlaen llaw.
​
Mae'n costio £3 y teulu
​
Cynhelir ein sesiynau chwarae y tu allan yn y gazebo tan 17 Mai.
​
Mae'r sesiynau hyn ychydig yn wahanol ar hyn o bryd. Mae'n gyfle yn bennaf i blant gael ychydig o chwarae rhydd ac iddyn nhw a'u gofalwyr gymdeithasu. Mae amser chwarae gyda cherddoriaeth tua'r diwedd.
​
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, i archebu ac i wneud ymholiadau, ewch i'n tudalen Stay and Play ar FB
Mae Stay and Play yn gylch chwarae i blant i blant dan 3 oed yng ngofal Tasha Gittings
Fel arfer mae'n rhedeg ar ddydd Iau 9.30 - 11.30am
Dim ond £3 y teulu
Gweithgareddau hwyliog sy'n cynnwys chwarae rhydd ac amser canu gyda chrefft achlysurol (yn enwedig ar gyfer digwyddiadau arbennig fel Sul y Mamau a'r Pasg ac ati)
Mae pob sesiwn yn cynnwys:
*Chwarae rhydd
*Crefftau a chelf
*Amser canu
Rydym hefyd fel arfer yn darparu byrbrydau i blant fel tost, ffrwythau a diodydd poeth i ofalwyr
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, i archebu ac i wneud ymholiadau, ewch i'n tudalen STAY AND PLAY ar FB